Tudalen 1 o 3

Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Sul 08 Maw 2009 5:01 pm
gan Duw
Yn eich tyb chi beth yw'r wefan orau/wasanaeth orau ar y we? Os allech ymhelaethu pam rydych yn meddwl hyn, bydde hwnna'n grêt. Gall fod o dan unrhyw gategori, e.e. newyddion, gwefan gymdeithasol, gwasanaeth trin delweddau, porwyr, gemau, peiriannu chwilio, blogiau, ayyb. Diolch.

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Llun 09 Maw 2009 4:52 am
gan Gwenci Ddrwg
Google, mewn termau syml un o'r wasanaethau fyddwn i'n ddefnyddio y fwyaf ar y we. Dim byd ffansi. Hoffwn ddeud Wikipedia hefyd ond...naa...gormod o sbwriel a "gwybodaeth" amheus, er mod i'n defnyddio fo yn aml. Ac eithrio y rhain, dwi'n hoff o rhai gwefannau lleol fel http://www.nationalpost.com/, i gael newyddion dyddiol ac ati, ond dim cyswllt i chi yng Nghymru wrth gwrs.

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Llun 09 Maw 2009 9:39 am
gan Orcloth
Duw a ddywedodd:Yn eich tyb chi beth yw'r wefan orau/wasanaeth orau ar y we? Os allech ymhelaethu pam rydych yn meddwl hyn, bydde hwnna'n grêt. Gall fod o dan unrhyw gategori, e.e. newyddion, gwefan gymdeithasol, gwasanaeth trin delweddau, porwyr, gemau, peiriannu chwilio, blogiau, ayyb. Diolch.


Ai cwestiwn tric ydi hwn? Os na ddudwn ni "maes-e", byddi di'n ein gwahardd ni am byth? :winc: Ella mai dyna pam dwyt ti mond di cael un ateb! Ga'i ofyn pam ti isio gwybod?

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Llun 09 Maw 2009 9:12 pm
gan Duw
Orcloth a ddywedodd:Ai cwestiwn tric ydi hwn? Os na ddudwn ni "maes-e", byddi di'n ein gwahardd ni am byth? :winc: Ella mai dyna pam dwyt ti mond di cael un ateb! Ga'i ofyn pam ti isio gwybod?


Na, nid trio dal neb mas. Dwi wir a diddordeb yn yr hyn mae pobl yn defnyddio'n aml/gweld yn ddefnyddiol neu'n hoffi defnyddio. Dwi'n datblygu gwefannau (nid eu dylunio) ac ar y lwcowt am syniadau da (poblogaidd). Hefyd dwi'n dipyn o gîc ac yn diddori darganfod pethe newydd ar y we.

-Diolch GD - Google yn gorfod bod yn y top 5 i mi hefyd. Am Wikipedia - cytuno ei fod yn 'amheus', ond o ran syniad gwreiddiol - wwwwww. Gan ystyried dyw Mr. Wales ddim yn cymryd clincen o'r elw - 'mazin.

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 9:29 am
gan Orcloth
Oce ta, Duw, dyma fy hoff wefannau i:-
HSBC - handi iawn i neud bob dim - talu biliau, symud arian o un cyfrif i'r llall, gweld a phrintio 'statements' (yn lle cael rhai drwy'r post).
Patient.co.uk - ordro tabledi ayyb sydd gennych ar 'repeat' - sbario i ti ffonio'r syrjeri.
E-bay - wrth fy modd yn siopa (a gwerthu weithia).
Hotmail - e-byst, newyddion, pethau diddorol weithia.
BBC Cymru - newyddion, sgoriau rygbi, tywydd Cymru.
Rownd a Rownd - pan fydda'i di methu pennod.
A maes-e wrth gwrs - am yr hwyl, gwneud ffrindiau newydd, sgyrsiau diddorol, swdocw ac am ei fod o'n Gymraeg!
Gobeithio fod hyn o ddiddordeb i ti! :winc:

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 12:54 pm
gan Duw
Beth yw rownd a rownd?

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 1:19 pm
gan Orcloth
Rhaglen ar s4c bob nos Fawrth a nos Iau am 6.30 - o na, dwi'n swnio fatha hysbyseb! - ti rioed di wylio fo? Mae'r actio'n crap ond fyddai'n licio'i ddilyn, Duw a wyr pam! Fedrai'm coelio nad wyt di clywed amdano! :D

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 3:44 pm
gan Mali
Dwi ddim yn ymweld â llawer o lefydd ... :winc:

Maes-e wrth gwrs!
eBay
Craig's List yn boblogaidd iawn yma.
Hefyd Gwefan Mount Washington i checio'r tywydd ar gyfer sgio. 8)
Blogiadur.com a blogiau Cymraeg.
Cwis fach sydyn bob bore.
Americymru
North Wales Index a Forum Wales i weld be sy'n mynd mlaen....
O..a gwefan swyddogol Sarah Brightman . :D

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 5:35 pm
gan Duw
Jest wedi trio yr un cwis - gret! Nes i'n wael iawn - ddim yn sylwi bo amser yn bwysig! Diolch Mali - rhywle arall i wastraffu'm amser.

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 9:15 pm
gan ceribethlem
moneysupermarket/gocompare/comparethemarket ayyb. Gwych am gael yswiriant rhatach.