Tudalen 2 o 3

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 10:20 pm
gan Rhys
Yahoo Mail a Gmail (personol)

Google search (gwaith/personol)

bloglines (personol)
I ddarllen fy hoff flogiau a gwefannau newyddion sydd wedi eu diweddaru

delicious (personol/gwaith)
cadw, trefnu a rhannu fy bookmarks - oes unrhyw un un dal i ddefnyddio Bookmarks ar eu cyfrifiaduron bellach?

Wikipedia a Wicipedia (gwaith/personol)
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:Hoffwn ddeud Wikipedia hefyd ond...naa...gormod o sbwriel a "gwybodaeth" amheus, er mod i'n defnyddio fo yn aml.

Gwir, tydy o ddim yn berffaith, ond dw i'n defnyddio Wikipedia a Wicipedia bron yn ddyddiol gyda'm gwaith. Dw i'n isdeitlo rhagleni teledu S4C, gan gynnwys rhaglenni fel 04 Wal neu Cefn Gwlad :( , ac yn aml mae'r cyflwynwyr yn dweud enw neu derm dw i'n anghyharwydd a nhw. Er engrhaifft gall fod yn bensaer enwog Eidalaidd - does dim clem gynnai sut i'w sillafu.
Yn hyn hytrach gorfod gwenud degau o ymchwiliadau Google random am 'italian architect a dyfalu sut mae sillafu'r enw', o fewn eiliadau ar Wikipedia dwi'n gallu dod o hyd i restr o bensaeri yn ôl au cenedligrwydd a yn nhrefn y wyddor,

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 10:24 pm
gan Mali
Duw a ddywedodd:Jest wedi trio yr un cwis - gret! Nes i'n wael iawn - ddim yn sylwi bo amser yn bwysig! Diolch Mali - rhywle arall i wastraffu'm amser.


Hei ...mi wnêst ti guro fi ! :ing:

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 10 Maw 2009 11:20 pm
gan Duw
Hah! ROedd y cwis am blydi cwn - mwy o ddyfalu na gwybodaeth! Ffliwc.

Rhys: dwi'n cytuno parthed Wk/Wc - defnyddiol iawn am 'sgim' cyflym i gael syniad bras neu fan cychwyn ar ymchwil. Am delicious - wedi clywed amdano er byth wedi bod na - gai gwd lwc arno nawr. Dwi'n defnyddio Chrome ar gyfer fy nodau tudalen yn bresennol - ond y broblem fel rwyt yn gwybod yw nid yw'r nodau ma'n portable o gyfrifiadur i gyfrifiadur - swnio'n ddiddorol - diolch.

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 2:38 am
gan Mali
Duw a ddywedodd:Hah! ROedd y cwis am blydi cwn - mwy o ddyfalu na gwybodaeth! Ffliwc.


Ia finna hefyd ! :crechwen:

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Iau 12 Maw 2009 4:30 am
gan Gwenci Ddrwg
does dim clem gynnai sut i'w sillafu.

Wel dyna'r prif rheswm i fi ddefnyddio'r beth hefyd, ac i gyfieithu termau tywyll dros ben rhwng Saesneg a Ffrangeg (dwi'n ffeindio'r dudalen yn yr iaith sy'n cynnwys y gair a chlicio ar y botwm ar y chwith), gwell na Google languages i f'anghenion. Eniwe fel arfer dwi'n darllen y paragraff cyntaf ond dim mwy, wedyn hynny ti'n risgio cael crap.

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Iau 12 Maw 2009 9:03 am
gan dawncyfarwydd
Fy nhabiau i ar Firefox ydi Facebook, y Guardian (gwefan ardderchog), maes-e ac youtube.

Mae iPlayer a'i berthnasau yn dda, ac mae'n weddol hawdd gweithio allan os ydi rhywbeth yn crap neu beidio ar Wikipedia. Dwi di bod yn defnyddio tipyn ar comparethemarket.com yn ddiweddar hefyd - yr orau dwi wedi'i gweld o'r gwefannau cymharu, ac mae comparethemeerkat.com yn fflipin jîniys.

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Iau 12 Maw 2009 3:24 pm
gan Duw
dawncyfarwydd a ddywedodd:mae comparethemeerkat.com yn fflipin jîniys
clyw! clyw!

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 9:26 pm
gan Rhys
Duw a ddywedodd: Am delicious - wedi clywed amdano er byth wedi bod na - gai gwd lwc arno nawr.


Tydy o ddim yn hollol amlwg efallai pa mor ddefnyddiol ydy i nes i ti ei ddefnyddio efallai, ond mae hefyd yn ffordd dda o chwilio am rhywbeth am bwnc arbennig - withiau'n well na ymchwiliad Google. yn arbennig i bethau geeky fel ti'n licio, achos mae % uwch na'r arfer o'r defnyddiwyr yn geeks ond nid pawb, cofia.

Er engrhaifft, os ti'n chwilio am rhywbeth yn ymwnud a MySQL, bydd pobl yn tagio eu bookmark gyda hynny.

http://delicious.com/tag/mysql
I'r dde wedyn mae related tags, (sy'n digwydd bopd reit cyfyngedig o ran niferoedd)
Galli i di weld pa ddolenni sydd a'r mwyaf o bobl wedi ei dagio gyda mysql
http://delicious.com/popular/mysql

Ti'n gallu dilyn bookmarks pobl eraill ac awgrymmu rhai i bobl yn dy rwydwaith
http://delicious.com/network/rhyswynne

Ti'n ffeindio pobl i fod yn dy rwydwaith drwy edrych pwy sy'n defnyddio yr un bookmarks a ti - mae 'Cymraeg'* yn un amlwg
http://delicious.com/search?p=cymraeg

neu pwy sydd wedi creu bookmark at dudalen/wefan penodol - fel maes-e e.:
http://delicious.com/url/ac38ceea75c0ff ... b3466121e4

* peth dw i'n sylwi yma ydy bod lot fawr o ddysgwyr Cymraeg (sy'n defnyddio delicious h.y.) yn gweithio yn y maes IT, achos o fusnesu ar eu bookmarks eraill, mae lot o rai at wefan techolneg gyda'r tag 'work' arnynt!