Tudalen 3 o 3

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Iau 12 Maw 2009 9:03 am
gan dawncyfarwydd
Fy nhabiau i ar Firefox ydi Facebook, y Guardian (gwefan ardderchog), maes-e ac youtube.

Mae iPlayer a'i berthnasau yn dda, ac mae'n weddol hawdd gweithio allan os ydi rhywbeth yn crap neu beidio ar Wikipedia. Dwi di bod yn defnyddio tipyn ar comparethemarket.com yn ddiweddar hefyd - yr orau dwi wedi'i gweld o'r gwefannau cymharu, ac mae comparethemeerkat.com yn fflipin jîniys.

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Iau 12 Maw 2009 3:24 pm
gan Duw
dawncyfarwydd a ddywedodd:mae comparethemeerkat.com yn fflipin jîniys
clyw! clyw!

Re: Gwefannau neu Wasanaethau Gorau

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 9:26 pm
gan Rhys
Duw a ddywedodd: Am delicious - wedi clywed amdano er byth wedi bod na - gai gwd lwc arno nawr.


Tydy o ddim yn hollol amlwg efallai pa mor ddefnyddiol ydy i nes i ti ei ddefnyddio efallai, ond mae hefyd yn ffordd dda o chwilio am rhywbeth am bwnc arbennig - withiau'n well na ymchwiliad Google. yn arbennig i bethau geeky fel ti'n licio, achos mae % uwch na'r arfer o'r defnyddiwyr yn geeks ond nid pawb, cofia.

Er engrhaifft, os ti'n chwilio am rhywbeth yn ymwnud a MySQL, bydd pobl yn tagio eu bookmark gyda hynny.

http://delicious.com/tag/mysql
I'r dde wedyn mae related tags, (sy'n digwydd bopd reit cyfyngedig o ran niferoedd)
Galli i di weld pa ddolenni sydd a'r mwyaf o bobl wedi ei dagio gyda mysql
http://delicious.com/popular/mysql

Ti'n gallu dilyn bookmarks pobl eraill ac awgrymmu rhai i bobl yn dy rwydwaith
http://delicious.com/network/rhyswynne

Ti'n ffeindio pobl i fod yn dy rwydwaith drwy edrych pwy sy'n defnyddio yr un bookmarks a ti - mae 'Cymraeg'* yn un amlwg
http://delicious.com/search?p=cymraeg

neu pwy sydd wedi creu bookmark at dudalen/wefan penodol - fel maes-e e.:
http://delicious.com/url/ac38ceea75c0ff ... b3466121e4

* peth dw i'n sylwi yma ydy bod lot fawr o ddysgwyr Cymraeg (sy'n defnyddio delicious h.y.) yn gweithio yn y maes IT, achos o fusnesu ar eu bookmarks eraill, mae lot o rai at wefan techolneg gyda'r tag 'work' arnynt!