Tudalen 1 o 2

Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Gwe 20 Maw 2009 2:40 pm
gan robertsben
Google earth man dechnoleg newydd iawn a gwych mewn rhai materion.... ond dwin ei weld on hynod o ddoniol clywed gymaint o gwynion amdano ar y newyddion.
Llawer o hwyl ar gael wrth ddod o hyd i lawer o luniau ar y we, sydd wedi cael ei ddargnfod gan gwahanol fobl.

cymrwch olwg ar hon! mochyn o foi! am dwat lwcus uda i, o mhrofiad meddwol iawn fy'n hyn. :D

Delwedd

Re: Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Gwe 20 Maw 2009 6:24 pm
gan Madrwyddygryf
Dwi'n ffeindio peth braidd yn od yn wych ar yr un amser.

Re: Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Sad 21 Maw 2009 8:42 am
gan Duw
Waw! heb weld hwn tan nawr. Gwych oedd cymryd siwrne lan Duke Street yng Nghaerdydd. Gall hwn helpu mi osgoi day trips nawr. Gallaf weld y ddinas/tref heb wario clincen.

Re: Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Sad 21 Maw 2009 10:27 am
gan Jaff-Bach
Ma'n wych! Ac yn ddoniol clywed bobl yn cwyno am ddiffyg preifatrwydd fel tasa fo'n lun byw. Fusi arno bora ddoe, a mynd 'am dro' ogwmpas hyde park yn leeds lle dwi'n byw. Pan esi allan go iawn wedyn oeddon deimlad rhyfadd iawn iawn, fatha modin byw mewn virtual world braidd

Re: Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Sad 21 Maw 2009 12:14 pm
gan Dai dom da

Re: Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Sad 21 Maw 2009 12:20 pm
gan Dai dom da
Dyw e ddim yn 'blydi brilliant' gyda llaw. Mae e jest yn ffordd o di-sensiteiddio ni i'r ffaith fod y byd yma, un dydd, yn mynd i fod o dan hollol surveillance. Chi wir yn meddwl fydde hwn yn beth da? Christ, ma'r byd ma rhy naive.

Re: Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Maw 24 Maw 2009 10:52 am
gan robertsben
Dir ffaith bo fi'n dweud 'Blydi Brilliant' im yn cyfierio at y faith fy mod in meddwl ei fod or peth gora yn y byd, cos dir ffaith fod y byd yn mnd yn un 'Big Brother' mawr ddim yn fy'n mlesio fi chwaith! :( just ei fod o yn ddoniol iawn oherwydd y holl fys sydd yn mynd ymlaen... ar holl betha ma syn cael ei ddarganfod!

Re: Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Maw 24 Maw 2009 11:29 am
gan Macsen
Dwi'm cweit yn deall beth yw problem pobol gyda google street view. Dydi o ddim yn lun byw felly dydio ddim yn fodd o gadw llygad ar pobol. Yn ogystal a hynny dydi o ddim yn tynnu llun o unrhywle sydd ddim eisoes yn agored i'r cyhoedd. Allai neidio mewn car a dreifio i unrhywle sydd yn weladwy ar y map.

Re: Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Maw 24 Maw 2009 5:16 pm
gan Dai dom da
robertsben a ddywedodd:Dir ffaith bo fi'n dweud 'Blydi Brilliant' im yn cyfierio at y faith fy mod in meddwl ei fod or peth gora yn y byd, cos dir ffaith fod y byd yn mnd yn un 'Big Brother' mawr ddim yn fy'n mlesio fi chwaith! :( just ei fod o yn ddoniol iawn oherwydd y holl fys sydd yn mynd ymlaen... ar holl betha ma syn cael ei ddarganfod!


Paid becso 'chan, sain cal go arna ti! Jest rant am y peth. :crechwen:

Re: Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 11:40 am
gan robertsben
Cael go! no threat taken! hahaha :P