Tudalen 2 o 2

Re: Google street - blydi brilliant!

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 7:36 pm
gan Gwenci Ddrwg
Dim street view ar gael yn Nhoronto eto, ond ar ôl ddechrau cymryd delweddau yn y ddinas tua mis nol mae Google di achosi ymryson am breifatrwydd (blablabla). Dim problem os ydy pob wyneb wedi'i ddileu. Eniwe diddorol bod Detroit wedi'i neud ganddynt hefyd- pwy oedd yn cymryd pob ffoto yn y geto? Gobeithio y talodd hyn yn dda. :lol:

dir ffaith fod y byd yn mnd yn un 'Big Brother' mawr ddim yn fy'n mlesio fi chwaith!

Dyw e ddim yn 'blydi brilliant' gyda llaw. Mae e jest yn ffordd o di-sensiteiddio ni i'r ffaith fod y byd yma, un dydd, yn mynd i fod o dan hollol surveillance. Chi wir yn meddwl fydde hwn yn beth da? Christ, ma'r byd ma rhy naive.

Nid "live cast" ydy Street View- dim ond un ddelwedd o le gyhoeddus sydd ar agor i bawb yn y lle cyntaf. Yn fy marn i nid math o "1984" ydy hyn- diddorol ond pell o fod yn beryglus. Peidiwch a fod yn paranoid.

Ma'n wych! Ac yn ddoniol clywed bobl yn cwyno am ddiffyg preifatrwydd fel tasa fo'n lun byw.

Yn union...