Fraud Cardiau Credyd

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fraud Cardiau Credyd

Postiogan cacen » Gwe 27 Maw 2009 10:45 am

Oes na rywun arall di cael eu manylion wedi eu dwyn ac yna arian wedi cael ei wario ar eich cerdyn?
cacen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Llun 08 Rhag 2008 10:55 pm

Re: Fraud Cardiau Credyd

Postiogan briallen » Gwe 27 Maw 2009 9:09 pm

Dwi wedi cael profiad o internet fraud wrth fancio arlein, ond nid credit card fraud oedd hwnnw.
Peth gwybodaeth yma: http://www.direct.gov.uk/en/MoneyTaxAndBenefits/ManagingMoney/KeepingYourMoneySecure/index.htm?cids=Google_PPC&cre=Money

Briallen
briallen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Llun 18 Medi 2006 12:18 pm

Re: Fraud Cardiau Credyd

Postiogan Duw » Gwe 27 Maw 2009 9:23 pm

Ces i Visa Electron Euro Cashcard o'r Swyddfa Bost rhyw 2 blynedd yn ol. Es mas i Rufain a defnyddio cashpoint. Yna ar ol sawl diwrnod es i Assisi a cheisio tynnu arian o fanna. Cefais yr ymateb doedd dim arian ar ol, er bod o leia 2000Euro dal i fod arno. Pan gysylltais a'r pobl cashcard, yn wir - dim clincen ar ol. Daeth i glawr roedd y cashpoint yn Rhufain wedi'i rigio i ddarllen y cerdyn a twgyd y pin. Rhiad bod y bois ma wedyn wedi clonio'r cerdyn a thynnu allan yr holl arian (stim syniad gen i sut). Roedd yn rhaid i mi wario orie ar y ffon o'r Eidal i ryw foi o Affrica yn Newcastle (methu deall ei acen - ffili cal dim sens mas o fe). Ar ben hwnna - roedd yn rhaid i mi aros mis ar ol ddychwelyd o'm gwylie cyn cal yr arian nol. Ar ben hwn roeddent yn pallu a'm credu i ddechre taw rhywun arall oedd wedi tynnu'r arian. O'r cofnodion, tynnodd rhywun 1000euro allan yn Rhufain ac yna rhyw 10 munud wedyn tynnais i 100euro mas yn Assisi (2.5 awr i ffwrdd ar y tren!) - er nid oeddent yn fodlon cyfadde taw eu cerdyn nhw oedd wedi'i clonio ("This would be the first time that this would have happened"). Lwcus oedd gennyf gerdyn credyd, ond yn anffodus, nid oedd y Swyddfa Bost yn fodlon talu'r arian am yr interest a wnes gwynebu oherwydd nid oedd arian gennyf am fis a hanner i'w dalu'n ol.

Serch hynny, dwi wedi cymryd electron arall mas ers hynny oherwydd eu bod mor ddefnyddiol a handi. Twpsyn neu be?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron