Tudalen 1 o 1

Can Bach Gan Herve

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 1:38 pm
gan Chickenfoot
Mae "these troubled financial times" i'w gweld yn wneud pawb yn drist. Dyma tiwn bach hyfryd gan y diweddar Herve Villechaize, felly, i'ch diddanu. Mi fyddwch wrth gwrs yn ei gofio o'r sioe Fantasy Island; cyfres o'r 70au am filiwnydd yn cynnig "holiday of a lifetime" ar Sir Fon. ]

susan Boyle, my aching arse.

Tec it awe, Herve bach!

Clapiwch!


Re: Can Bach Gan Herve

PostioPostiwyd: Gwe 01 Mai 2009 2:57 pm
gan Orcloth
Ia wir, Chick, dyddie da oedd y 70'au pan oedd ganddon ni'n "troubled financial times" ein hunain! (Ifanc o'n i ar y pryd, felly doedd o'm yn fy mhoeni rhyw lawer, mae'n rhaid deud!).
Haf poeth '76 oedd hi pan ddaeth y criw ffilmio dros y mor mawr i ffilmio'r gyfres. Dwi'n cofio gweld y llong fawr wen wedi'i hangori ym mae Pentraeth, a'r actorion i gyd yn dod i Caffi Gaerwen am banad ar ol darfod ffilmio.
Dwi'n siwr fod llawer o ffantasiau wedi'u gwireddu o gwmpas yr Wylfa, Benllech, Traeth Coch a thraeth creigiog yr Afon Fenai yr adeg honno.
Nes i'm deall yr un gair o'r gan hyfryd uchod, ond roedd y diwn yn ddigon i godi calon rhywun ar ddiwrnod glawog, gwyntog ym mis Mai.
Diolch am ddod a Herve bach i'n llonni!

Re: Can Bach Gan Herve

PostioPostiwyd: Sad 02 Mai 2009 3:29 pm
gan Orcloth
Neb arall yn ei werthfawrogi, mae'n rhaid! :rolio:

Re: Can Bach Gan Herve

PostioPostiwyd: Sul 03 Mai 2009 1:42 am
gan Chickenfoot
Ia - neb yn gwerthfawrogi ychydig o ddiwylliant...Palestiniaid! :x

Re: Can Bach Gan Herve

PostioPostiwyd: Sul 03 Mai 2009 12:21 pm
gan Orcloth
Philistiaid ti'n feddwl, ia? Dim ond chdi a fi sy'n gwerthfawrogi talent y dyn bach yma! :D

Re: Can Bach Gan Herve

PostioPostiwyd: Sul 03 Mai 2009 7:36 pm
gan Chickenfoot
Na, just my little joke, Orcloth. Dim yn un da, ond hei, be ti'n disgwyl? Edefyn am midget Ffrangeg yn canu mewn wisg cowboi di hwn... :crechwen:

Mwy o ddoethineb Monsieur Villechaize...


Re: Can Bach Gan Herve

PostioPostiwyd: Llun 04 Mai 2009 8:37 am
gan Orcloth
Waaa, na! Oedd o'n edrych fatha Siamese twin bach erchyll am chydig yn fan'na! Pan nath y twin ddiflannu, mi oedd Herve'n edrych dipyn bach yn ypset, y creadur! Roedd y gan yma'n dipyn haws ei deall na'r un gynta hefyd! Gwych unwaith eto - hip, hip hwre! :D Diolch Chick, ti'n donic ar fore Gwyl y Banc gwlyb, oer! :winc: