Ddoe, am dipyn bach o hwyl, ymunais a wefan "chat" Brydeinig, am y tro cyntaf erioed.
Wel, dyna i chi agoriad llygad oedd y profiad, chydal a'r Sais, nefar again!
I ddechra, cefais sgwrs bach neis hefo rhyw ddyn o'r Alban a oedd y dreifio bysus (be oedd o'n da yn y rhan "Cymru" o'r wefan, duw a wyr). Es i arno fo eto bore ma, a dyna i chi sioc ges i! Dynion yn mynd i ystafelloedd preifat i siarad yn glen hefo fi ar y dechra, ac wedyn yn gofyn os oedd gyno fi "msn messenger" (peidiwch a gofyn i mi be ydi un o'r rheiny!) ac wedyn yn troi'n reit flin pan ddwedais nad oedd gennyf syniad am be oeddan nhw'n son!
Gofynnais i'm merch be oedd un o'r pethau msn yma'n da, a dywedodd ei fod er mwyn cael "chat" mwy preifat hefo rhywun(dim diolch, met).
Dwi di penderfynu mai pyrfyrts llwyr sy'n mynychu ffasiwn wefannau, yn trio siarad yn fudur hefo merchaid di priodi a merchaid ifanc, mae isio'u banio nhw i gyd!