Tudalen 1 o 1

Podcast Cyntaf Metastwnsh

PostioPostiwyd: Llun 28 Medi 2009 7:16 am
gan cymro1170
Dydd Iau diwethaf fe wnaeth Rhys, Rhodri, Bryn a Sioned fynd o’i chwmpas hi i recordio podlediad cyntaf Metastwnsh. Doeddwn i ddim yno oherwydd… wel… cewch glywed yn y podlediad. Ar ôl i’r podlediad gael ei recordio fe anfonodd Rhys o draw atai i’w roi ar iTunes ar eich cyfer chi.

Er mwyn cael y podlediad ar iTunes mae’n rhaid creu ffrwd RSS arbennig hefo manylion y ffeil ynddo. Mae hyn hefyd yn helpu i alluogi bobl ei ddarganfod ar iTunes.

Fe wnes i gyflwyno’r podlediad ar ffrwd RSS i Apple amser cinio ddydd Gwener ac yna disgwyl tan cael yr ebost i gadarnhau ei fod wedi ei dderbyn. Cymerodd hyn ddim ond 2 ddiwrnod i’w gwbwlhau. Proses reit gyflym a dweud y gwir. Er, wedi dweud hyna ni fyddwch yn medru ei ddarganfod am o leiaf 1-2 ddiwrnod wrth ymchwylio iTunes.

Mae’r podlediad nawr ar gael ar iTunes.

Y gobaith yw i gael rhaglen newydd bob wythnos. Gawn ni weld sut mae’n mynd. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau o beth y dylsia ni drafod ar y rhaglenni nesaf, neu os da chi eisiau ychwannegu yn bersonol, gyrrwch ebost atom. Y cyfeiriad ar gyfer y podlediad yw: podlediad@metastwnsh.com – O bryd i’w gilydd da ni hefyd am drio cael gwesteion gwadd i drafod gyda ni.

http://stwnsh.com/h3nvd4