Tudalen 1 o 2

Alf Cofi Drwg

PostioPostiwyd: Gwe 30 Hyd 2009 6:57 pm
gan osian
http://www.youtube.com/watch?v=ztFkaw08EFM

http://www.youtube.com/watch?v=L3pA0qQ3 ... re=related

http://www.youtube.com/watch?v=izdNv_KA ... re=related

:lol:

Peth doniola i mi weld ar y wê ers oes. 'Sna rywun yn gwbod rhywbath amdano fo? Pwy sy'n gyfrifol am y trosleisio etc.

Re: Alf Cofi Drwg

PostioPostiwyd: Sad 09 Gor 2011 11:22 am
gan Wena
Mae’r iaith yn hollol anweddus ar y ffilmiau hyn.

Oes ddim angen i mi fel Cristion ddweud gair ymhellach am mai dyma ond yr ail bost yma.

Wena

Re: Alf Cofi Drwg

PostioPostiwyd: Sad 09 Gor 2011 7:19 pm
gan Doctor Sanchez
Wena a ddywedodd:Mae’r iaith yn hollol anweddus ar y ffilmiau hyn.

Oes ddim angen i mi fel Cristion ddweud gair ymhellach am mai dyma ond yr ail bost yma.

Wena


Take a chill pill! Fela ma cofis yn siarad cont.

Ma hein reit hen, ond ddigon doniol fyd. Odd yr un tenar fynd fewn i Cofi Roc yn cracio fi fyny

Re: Alf Cofi Drwg

PostioPostiwyd: Sad 09 Gor 2011 7:30 pm
gan nicdafis
Plus ca change. Edefyn o ddwy flynedd yn ôl wedi'i atgyfodi gan rywun sy ond eisiau dweud pa mor warthus yw e, a dod â'r peth at sylw pobl a'i gollodd y tro cyntaf.

Re: Alf Cofi Drwg

PostioPostiwyd: Sul 10 Gor 2011 11:26 am
gan ceribethlem
Wena a ddywedodd:Mae’r iaith yn hollol anweddus ar y ffilmiau hyn.

Oes ddim angen i mi fel Cristion ddweud gair ymhellach am mai dyma ond yr ail bost yma.

Wena

Fel anffyddiwr, fi'n credu fod yr iaith yn dderbyniol.

Re: Alf Cofi Drwg

PostioPostiwyd: Sul 10 Gor 2011 11:40 am
gan nicdafis
Fel llysieuwr, dw i'n meddwl bod bacwn yn anerbynnol.

Blasus, ddo, o beth dw i'n cofio.

Re: Alf Cofi Drwg

PostioPostiwyd: Sul 10 Gor 2011 12:10 pm
gan ceribethlem
nicdafis a ddywedodd:Fel llysieuwr, dw i'n meddwl bod bacwn yn anerbynnol.

Blasus, ddo, o beth dw i'n cofio.

Fel cigysydd, dwi'n meddwl fod ffug facwn yn anerbyniol.

Re: Alf Cofi Drwg

PostioPostiwyd: Sul 10 Gor 2011 12:11 pm
gan ceribethlem
Fel ollysydd, dwi'n meddwl fy mod i'n anerbyniol yn diffinio fy hun fel cigysydd.

Re: Alf Cofi Drwg

PostioPostiwyd: Sul 10 Gor 2011 12:12 pm
gan nicdafis
A dyna gytuno rhwng dwy garfan!

Felly mae 'na obaith.

Re: Alf Cofi Drwg

PostioPostiwyd: Sul 10 Gor 2011 12:13 pm
gan nicdafis
(Cytuno am y ffugfacwn, hynny yw. Sdim ots 'da fi be ti'n galw dy hunan. Os wyt ti am lygredu teml dy gorff efo cnawd marw anifeiliaid y maes, nid fy musnes i yw e.)