Tudalen 1 o 1

Google Wave

PostioPostiwyd: Maw 01 Rhag 2009 10:30 pm
gan Duw
Wwwwwwwwwww

http://wave.google.com/help/wave/about.html#video

Dwi'n rial sado - wedi gwylio'r holl beth. Dwi ishe fe nawr!

Re: Google Wave

PostioPostiwyd: Maw 01 Rhag 2009 11:13 pm
gan Mwnci Banana Brown
Account da fi, ond sai di cal amser i ware da fe 'to.
Edrych yn gwd ar y video?

Re: Google Wave

PostioPostiwyd: Mer 02 Rhag 2009 5:18 pm
gan Rhodri Nwdls
Anfonwch ebost i fi os da chi isio gwahoddiad. Gen i 11 ar ôl. Ma gen gweddill criw Metastwnsh rai hefyd.

rhodri [malwen] metastwnsh [dotsyn] com

Re: Google Wave

PostioPostiwyd: Mer 02 Rhag 2009 10:09 pm
gan Madrwyddygryf
Wedi trio fo yn barod. Diom byd arbennig.

Re: Google Wave

PostioPostiwyd: Mer 02 Rhag 2009 11:13 pm
gan Duw
Madrwyddygryf a ddywedodd:Wedi trio fo yn barod. Diom byd arbennig.


Dwi'n meddwl bydd angen iddo ledu ychydig yn gynta cyn bydd modd gwneud penderfyniad (o'n rhan i beth bynnag). Wrth wylio'r fideo, roedd fy ngen ar y llawr. Yn ein ysgol ni, fel llawer eraill, dwi'n gwybod ein bod wedi bod yn defnyddio llwyth o raglenni ar gyfer hwn a'r llall, gyda bron dim yn siarad â'i gilydd - sawl enw a chyfrinair i gofio. O be dwi'n deall gall Wave gael gwared ar lawer o'r ffys gyda symud o un rhaglen i'r llall er mwyn cyfathrebu syniadau. Y rhan roeddwn yn hoffi oedd aml-golygu - llawer o bobl yn gweithio ar yr un ddogfen gyda newidiadau'n ymddangos ar gleintiaid pawb mewn amser go iawn. Gyda datblygwyr yn creu widgets newydd yn barod ar gyfer y lansiad swyddogol - wwwww.

Gwelais un defnydd arbrofol lle roedd testun yn cael ei gyfieithu 'on the fly' o'r Saesneg i'r Ffrangeg. Gydag amser, gall hwn greu chwildro.

Wylle taw fi sy'n naive. :rolio: