Sgwarnog dot com - Ebostwich yn Gymraeg

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sbwriel » Mer 16 Tach 2005 9:37 am

Dwi methu aros tan fod gmail yn y gymraeg - mae hi wedi'i chyfieithu eisioes a mond angen cael ei prawf-ddarllenu.

Wedyn dwi'n amau falle fydd hi'n ta-ta i sgwarnog.
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan dafydd » Mer 16 Tach 2005 10:27 am

sbwriel a ddywedodd:Dwi methu aros tan fod gmail yn y gymraeg - mae hi wedi'i chyfieithu eisioes a mond angen cael ei prawf-ddarllenu.

Mae 'di bod yn hynod o anodd cael unrhyw ymateb o Google ynglyn a chyfieithiadau. Mae pobl yn treulio oriau i gyfieithu gwasanaethau Google i wahanol ieithoedd.. gwaith sydd yn werth miloedd (neu filiynau o ran presenoldeb Google ar draws y byd) a mae nhw'n trin y bobl hynny fel baw i ddweud y gwir, heb unrhyw fath o gyfathrebu i ddweud be sy'n mynd mlaen gyda'r gwaith cyfieithu.

Er fod cyfieithiad Gmail wedi gwblhau (er fod dal ychydig o newidiadau bob hyn a hyn) pan wnes i holi o'r blaen ynglyn a ychwanegu Cymraeg i'r dewis ges i ateb stoc yn dweud "Because we're testing Gmail, there is some information about future language launches we're unable to share". Iwsles.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Aran » Mer 16 Tach 2005 1:36 pm

Al a ddywedodd:Fydd sgwrnog.com yn cael gwefan arwahan i blogiadur.com i mewngofnodi iddi. Tebyg i hen wefan sgwarnog, oedd o edrych lot gwell fel na, mae pethau braidd yn conffusing i pobl tybiwn i efo'r blogiadur.


Ia, 'di bod yn meddwl am hynny - mater o gael hyd o'r amser!

Bydd opsiwn Cymraeg ar Gmail yn wych - fyddai dim angen Sgwarnog wedyn (er bydd y gwasanaeth yn dal ar agor i bobl sydd ddim isio symud cyfrifon, neu sydd yn dewis opsiwn lleol lle mae ar gael).

Llongyfarchiadau a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith efo Google (waeth mor ddi-ddiolch ganddyn nhw!) - pan ddaw, bydd yn hwb mawr i ddefnydd o'r iaith arlein.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Clebryn » Mer 14 Meh 2006 10:05 am

Beth yw'r dyfodol ar gyfer "Sgwarnog?" A oes unrhyw fwriad i ganiatau cyfrifon newydd?

Bues in edrych ar gyfri fy ffrind-impressed iawn efo'r system rhaid i mi gyfadde. Edrych yn broffesiynol ac yn hawdd iawn i ddefnyddio. Faint mae'n gostio i ti redeg peth proffesiynol felly?
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Aran » Iau 22 Meh 2006 4:01 pm

Sori, heb weld hyn!

Clebryn a ddywedodd:Faint mae'n gostio i ti redeg peth proffesiynol felly?


Gormod! Ar ran amser ac arian... :winc:

Dan ni ddim rili ar agor i gyfrifon newydd, ond anfon neges breifat ac mi wna i sortio rhywbeth i ti.

Mae'n bechod bod GoogleMail Cymraeg ddim i'w weld yn symud mor fuan â hynny... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Nôl

Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron