Sgwarnog dot com - Ebostwich yn Gymraeg

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Aran » Mer 14 Ion 2004 7:38 pm

taw, paid â theimlo'n euog, mae dy ochr eithafol a di-reswm ac anwybodus yn hoffus iawn... :winc: cofia y byddai 'na groeso mawr i chdi ym mha bynnag cangen o Cymuned sy'n agosach atat ti! gei di visiting rights i Gangen Arfon tro nesaf ti i fyny ffor'ma...

a ta waeth, fi wnaeth dy adael di i lawer efo'r gweithdy 'na, felly sgôr gyfartal erbyn hyn, efallai? na - oedd methu'r gweithdy'n waeth, deud y gwir, ond wnes i drio go-iawn, llaw ar fy nghalon, ac wedyn sylweddoli nad ydy'r geiriau ddim ynddof fi. eto...

pan ddaw goleuni a chnewyllyn drama allan o nunlle yn y pen draw, byddaf yn ei hanfon atat ti, a hynny am ddim... trwy Sgwarnog.com, wrth gwrs... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 31 Ion 2004 11:59 am

Reit, beth bynnag am y ddadl...i unrhyw un sydd wedi agor cyfri sgwarnog.com...

Yn y peth Paypal 'na, nethoch chi lenwi'r "extended use" 'na hefyd?

Ar ôl gneud y peth Paypal 'na, sut ydwi'n mynd nol i sgwarnog.com??

Ydwi'n bod yn hollol dwp, ta be'?? :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan branwen llewellyn » Llun 02 Chw 2004 11:50 am

dwi'n meddwl ei fod o'n syniad gwych! Dim bob dydd ma na wefan ebost wych yn Gymraeg yn cyrraedd ein cyfifiaduron! wehei!
pish pash potas
Rhithffurf defnyddiwr
branwen llewellyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 242
Ymunwyd: Sul 13 Ebr 2003 10:22 pm
Lleoliad: llanuwchllyn

Postiogan Macsen » Llun 02 Chw 2004 2:29 pm

Syniad gwych ydi Sgawrnog.Com. Os nad ydych chi'n seinio fyny dwi'n gobeithio y byddach chi'n cael eich bwyta gan fwydod llwglyd am byth yn waelodion uffern.

Oce, dw i heb wneud eto. :wps:
Angen sortio allan fy nghardyn banc. :winc:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Aran » Maw 27 Ebr 2004 9:56 pm

sut mae'r hen gerdyn banc 'na, Macsen?... :winc:

hyn jesd i ofyn am bach o gymorth gan Maeswyr - mae Sgwarnog, a fydd yn symud i'r sustem newydd pwerus o'n i'n gobeithio amdani o fewn y 2/3 mis nesaf, wedi cael ail-wampiad bach, a buaswn yn ddiolchgar iawn am unrhyw sylwadau...

mae'r fersiwn newydd at http://www.sgwarnog.com (na chdi sioc!) ac mae'r un hen at http://www.sgwarnog.org/hen.html

gwell? gwaeth? da? camgymeriad dybryd?!

a diolch yn dalpie i bawb sydd wedi mynd â ni heibio'r 40 o danysgrifwyr o'n i'n sôn yn optimistaidd amdanyn nhw nôl ym mis Ionawr... :) mae 'na bach mwy o le yn cael ei baratoi ar eich cyfer chi yr eiliad hon... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Macsen » Maw 27 Ebr 2004 10:06 pm

Aran a ddywedodd:sut mae'r hen gerdyn banc 'na, Macsen?...


Fel pris cwrw Stella, mae Paypal yn un o'r pethau yna dwi jyst methu cael fy mren o'i gwmpas.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Aran » Mer 28 Ebr 2004 7:12 am

Macsen a ddywedodd:
Aran a ddywedodd:sut mae'r hen gerdyn banc 'na, Macsen?...


Fel pris cwrw Stella, mae Paypal yn un o'r pethau yna dwi jyst methu cael fy mren o'i gwmpas.


'mond tynnu coes o'n i... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Al » Maw 06 Medi 2005 8:13 pm

Di clywed fod sgwarnog efo system gwych nawr, oes modd cael gweld screenshots ohono ayyb.

Meddwl o ni, os fysa fi yn tanynsgrifio i sgwarnog fel e-bost ar y we gallai defnyddio hwna fel gwe-bost ac fy cyfeiriad sgarmes ar y cyfrifidur adra.

Dwin meddwl am wllwn fy cyfrif hotmail a gmail er mwyn cael hwn, gan dwi mond yn defnyddio y gmail am y gofod, ac y hotmail i'w defnyddio a'r negeseuwr sydyn MSN. Ond gan mae yna digon o le)yn ol pob son 500 Mb, cywirwch fi os dwin anghywir) a mae'n digon hawdd troi cyfeiriad post yn passport :D

Mae cael pethautrwy gyfrwng y gymraeg yn beth pwysig i mi e.e. mae rhanfwyf o fy nghyfrifiadur yn y gymraeg, felly os oes modd cale gwe-bost cymraeg pam lai...
Al
 

Postiogan Aran » Maw 06 Medi 2005 8:22 pm

Mae'r sustem newydd yn dipyn o gam i fyny - ond dw i wedi bod yn dal yn ôl rhag fynd yn fyw ar gyfer cyfrifon newydd hyd nes i mi symud pawb drosodd (i'r sustem newydd ac oddi wrth PayPal).

Anfon neges preifat ataf fi gydag enw ar gyfer y cyfrif, a wna i setio un i fyny i ti chwarae o gwmpas efo fo a gweld beth wyt ti'n meddwl... :)

Wna i screenshots ohono fo unwaith bydda i'n barod i dderbyn cyfrifon newydd - rhyw fis eto, mae'n siwr...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Al » Maw 15 Tach 2005 10:42 pm

Fydd sgwrnog.com yn cael gwefan arwahan i blogiadur.com i mewngofnodi iddi. Tebyg i hen wefan sgwarnog, oedd o edrych lot gwell fel na, mae pethau braidd yn conffusing i pobl tybiwn i efo'r blogiadur.
Al
 

NôlNesaf

Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron