Diolch Nic am sgwarnog.com
Da gweld fod mwy a mwy o Gymraeg yn ymddangos ar y we.
Cymedrolwr: huwwaters
Leusa a ddywedodd:Cywilydd arnochi'n honni bod £20 y flwyddyn yn ormod am gael rhywbeth mor bwysig yn GYMRAEG.
Sgwarnog.com a ddywedodd:Yn anffodus, mae'r dyddiau lle bod pawb yn cynnig pob dim am ddim ar-lein wedi hen fynd, a felly does 'nam modd i ni gynnig hyn am ddim, 'chwaith, gan ei fod yn costio i ni redeg y peth.
Ond menter fach Gymraeg ydy hon, nid cwmni fawr farus, felly dan ni wedi cadw'r costau mor isel â sy'n bosib (hyd yn oed i'r pwynt lle bod ni'n derbyn colled i ddechrau, ac yn gobeithio ad-ennill ein costau yn y pen-draw).
Gobeithio y byddi di'n gweld o'n werth-chweil!
nicdafis a ddywedodd:Ydych chi wedi <i>gweld</i> gwefan Bwrdd yr Iaith?
- Byddai fe'n ddwyieithog
- Byddai fe'n sugno twll din
Aran a ddywedodd:felly, na, dan ni'n ddim yn dwmd o gwbl... bydd parodrwydd i dalu maint bychain iawn o bres i fusnesau bychain ar-lein (peidiwch ag anghofio Pishyn.com!) yn sicrhau We llawn Cymraeg yn y pen-draw...
Aran a ddywedodd:a gan bod hi ddim yn costio'r byd i mi dalu am hyn yn fisol heb unrhywun arall, wnaeth o daro mi fel rhwybath gwerth chweil ei wneud. cawn weld beth ddaw - ond diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi tanysgrifio a/neu gefnogi hyd yn hyn...
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai