Cymdeithas Dewi Sant - Siapan

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ceribethlem » Mer 05 Maw 2003 4:26 pm

Fi'n cytuno'n llwyr gyda ti, y ffordd mae termau megis gwyn, du a melyn ayb yn cael eu defnyddio sydd yn hiliol nid y termau per se.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cardi Bach » Mer 05 Maw 2003 4:39 pm

Ie, cyd-destun a dehongliad, a punnai gafodd rhywbeth ei ddweud iw ddehonglu mewn ffordd penodol. Yr ystyr tu ol i ddatganiad, yn amlach na pheidio, sydd yn huliol. A ydyw wedi ei fwriadu i frifo a dolurio.

Fi ddim byd tebyg i wyn! Ar ddiwrnod da yn yr haf fi'n rhyw 'diluted' pinc, ond ffordd arall llwyd-las ydw i!! :)

Onid oes Prifysgol yn Siapan yn dysgu Cymrag? Ma na fenyw o Siapan ddath i Brifysgol Cymru Llambed a chyfieithu'r Mabinogi i Siapaneieg - chware teg iddi. Wy di clywed hefyd fod Prifysgol yn y Ffindir yn dysgu Cymrag...wy'm yn gwbod os yw e'n wir, a sai'n arsed i edrych trwy gwgl.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan ceribethlem » Mer 05 Maw 2003 4:43 pm

Onid oes Prifysgol yn Siapan yn dysgu Cymrag?


gweler

Mae'n debyg fod yr ymerawdres ac ambassador Iwerddon i Siapan (neu Nippon!) yn trafod trwy gyfrwng y Gymraeg ar adegau.
Mae adran Gymraeg yn un o'r Prifysgolion (Tokyo dwi'n meddwl) hefyd!
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cardi Bach » Mer 05 Maw 2003 4:46 pm

wrth gwrs!
:wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Cernyweg ac Athro Cymraeg

Postiogan Llywydd » Mer 05 Maw 2003 11:57 pm

:syniad: Mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu yn Kwansei Gakushin sydd yn ninas Nagoya. Yr athro mwyaf enwog yw Hiroshi Mizutani, sydd yn hoffi ei alw ei hun yn Hywel Glyndwr. (Mae Glyndwr yn cyfieithiad llythrennol o'i cyfenw!) 'Rwyf wedi cael y braint o siarad gyda fo - mae ei Gymraeg yn ardderchog ac o safon uchel iawn, iawn. Y fo a wnaeth ddysgu'r Ymerawdres i siarad y Gymraeg. Gyda llaw, mae fy ffrind Awstraliaidd yn ffrindiau mawr gyda'i mab, y 'Crown Prince'.

:saeth: Hefyd rwyf wedi cael y braint o siarad gyda dyn arall sydd yn rhugl yn y Gymraeg (athro prifysgol) ond y mae ef yn canolbwyntio ar Gernyweg ac yn rhugl yn yr iaith honno hefyd!

(Mae'r hafan yma yn hwyl - nid wyf wedi cael cyfle i siarad a dadlau yn Gymraeg fel hyn ers blynyddoedd!!) :D
Rhithffurf defnyddiwr
Llywydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Maw 04 Maw 2003 1:44 pm
Lleoliad: Tocio, Siapan

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 06 Maw 2003 2:16 pm

Cardi Bach a ddywedodd: Wy di clywed hefyd fod Prifysgol yn y Ffindir yn dysgu Cymrag...wy'm yn gwbod os yw e'n wir, a sai'n arsed i edrych trwy gwgl.


Dwi'n nabod merch nath ddysgu Cymraeg mewn Prifysgol yn Sweden. Roedd hi'n hollol rhugl cyn iddi hyd yn oed ddod i Gymru!
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Chris Castle » Sad 08 Maw 2003 6:45 pm

Mae'n wych gweld Cymraeg yn cael sylw fel Iaith fyw y tu fas o Gymru a'r gwledydd Celtaidd.
Wel, nid yw'r emyn mor warthus a be ydych chi'n feddwl. Mae'r Siapanwyr yn ymfalchio yn y ffaith eu bod a chroen melyn. Pam lai? Credaf ein bod yn gwneud gormod o'r ffaith ei bod hi'n hiliol i alw pawb sydd ddim yn wyn rhyw liw arall. Onid nid yw hynny yn hiliol?

Does dim amser 'da fi ymchwilio amdano/amdani; Ond sgwennodd Bardd Croenddu rhwybeth fel.
"In winter you're grey, In spring you go pink, in summer you go brown. When you're angry you go red, When you have a fight you're black and blue, when you're jaundiced you go yellow. And you've got the nerve to call me COLOURED!"
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Nôl

Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron