Cymdeithas Dewi Sant - Siapan

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymdeithas Dewi Sant - Siapan

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 03 Maw 2003 10:55 pm

...tybed faint o siardwyr Cymraeg sy'n Siapan?

http://cds.ibcjapan.com/cymdeithasdewisant.htm
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan ceribethlem » Llun 03 Maw 2003 11:30 pm

Mae'n debyg fod yr ymerawdres ac ambassador Iwerddon i Siapan (neu Nippon!) yn trafod trwy gyfrwng y Gymraeg ar adegau.
Mae adran Gymraeg yn un o'r Prifysgolion (Tokyo dwi'n meddwl) hefyd!
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Geraint » Maw 04 Maw 2003 10:52 am

Dyw hyn ddim yn syndod i mi ar ol cwrdd a ferch o Siapan yn y Cwps, a cael trafodaeth yn Gymraeg gyda hi!!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Meilyr » Maw 04 Maw 2003 11:04 am

O'n i'n sylwi mai dim ond llinell gyntaf yr emyn warthus yma ma nhw'n ddyfynnu. Call iawn. Oes na rywun yn gwbod mwy o benillion hon? Does na neb yn ei chanu hi o hyd does bosib?

"Draw, draw yn China a thiroedd Japan
Plant bach melynion sy’n byw;
Dim ond eilunod o’u cylch ym mhobman
Neb i ddweud am Dduw."
Meilyr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Maw 20 Awst 2002 10:08 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan ffranc » Maw 04 Maw 2003 12:33 pm

lan yn y gogledd ar ynys mon
plant bach anffodus sy'n byw
pawb o'r un teulu a plant ymhob man
am le gwarthus i fyw

ond, iesu cofia'r panlt....... poor dabs
ffranc
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Gwe 01 Tach 2002 3:50 pm

Re: Cymdeithas Dewi Sant - Siapan

Postiogan Llywydd » Maw 04 Maw 2003 2:07 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:...tybed faint o siardwyr Cymraeg sy'n Siapan?

http://cds.ibcjapan.com/cymdeithasdewisant.htm


Rwy'n falch iawn o weld fod Cymry hefyd yn edrych ar ein hafan yma yn Siapan. I ateb eich cwestiwn, mae gan Cymdeithas Dewi Sant Siapan (CDS) Cylch Siarad Cymraeg a mi roedd 19 o fyfyriwyr yn astudio'r Gymraeg yn ein cyfarfod diwethaf. Mae rhan fwyaf o'r mwfyriwyr yn Siapaneaid yn eu dauddegau ond y person sydd yn gyfrifol am drefnu'r dosbarth yw Sais yn ei pedwar degau! Hefyd, roedd Almaenes yn ei dridegau sydd yn eithaf rhugl yn yr iaith! Mae hefyd Siapanwraig sydd yn 24, a mae hi yn rhugl iawn! Wedi bod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn wir, yn y gorffennol, y tueddiad oedd i'r bobl hyn fod yn ychydig yn 'od' neu ar y gorau yn ychydig yn anghyffredin. Nid yw hyn yn wir mwyach. Mae'r myfyriwyr yn bobl ifainc cyffredin, y rhan fwyaf ohonynt wedi dod ar draws Cymru a'r Gymraeg drwy eu diddordeb yn y sawl band Cymreig sydd yn enwog yn niweddar. E.e. Manic Street Preachers a.y.y.b.

Rwyf innau wedi bod yn Siapan ers bron i 12 mlynedd a rhaid cyfaddef, mae fy Nghymraeg (hefyd fy Saesneg!) yn warthus erbyn hyn! Nid esgus ond gwers! Mae rhaid defnyddio iaith, hyd yn oed mamiaith, neu mi gollwn o.

Y fi sydd yn dysgu'r wers, (a yw hyn yn gall??) a rwyf yn cael bodloniant mawr drwy gwneud. Ar ol y wers diwethaf, aethom i dafarn gyfagos ac ar y ffordd yno, roeddwn yn siarad yn Gymraeg gyda'g Almaenes a Siapanwraig. Efallai mai hyn yw y tro cyntaf i mi siarad yn gyfforddus a heb sylweddoli gyda bobl o wledydd eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.

Hefyd, hoffwn pwysleisio faint mor bwysig yw'r Cynulliad. Yr wyf innau fel eraill ddim yn fodlon ar faint o rym sydd gan y Cynulliad, ond y gwahaniaeth mae Llywodraeth newydd Cymru wedi gwneud i ni fel Cenedl ar y llwyfan rhngwladol yn anhygoel!! Coeliwch chi fi!

Os oes gennych unrhyw amgrymiad ar sut i wella'r Gymraeg ar ein hafan (nid wyf yn gyfarwydd ar eiriau sydd yn unigryw ar gyfer hafannau ar y we), byddaf yn ddiolchgar iawn!!

Diolch i chi am ymweld ar ein hafan!

Andrew Jones
Llywydd
Cymdeithas Dewi Sant Siapan

Gyda llaw: Mae gennym dros 300 o aelodau yn y Gymdeithas yma yn Siapan!!

Rhithffurf defnyddiwr
Llywydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Maw 04 Maw 2003 1:44 pm
Lleoliad: Tocio, Siapan

Re: Cymdeithas Dewi Sant - Siapan

Postiogan Geraint » Maw 04 Maw 2003 3:42 pm

Llywydd a ddywedodd:[Mae hefyd Siapanwraig sydd yn 24, a mae hi yn rhugl iawn! Wedi bod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.



Wel ma'n rhaid mae dyma'r ferch fues i yn siarad da yn Nhafarn y Cwps Aberystwyth! Neith hi ddim cofio fi, ond dwued wrthi fod cyn-fyfyriwr o Abersytwyth yn cofio at hi :)

Arigato
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan ceribethlem » Maw 04 Maw 2003 4:14 pm

O'n i'n sylwi mai dim ond llinell gyntaf yr emyn warthus yma ma nhw'n ddyfynnu. Call iawn. Oes na rywun yn gwbod mwy o benillion hon? Does na neb yn ei chanu hi o hyd does bosib?

"Draw, draw yn China a thiroedd Japan
Plant bach melynion sy’n byw;
Dim ond eilunod o’u cylch ym mhobman
Neb i ddweud am Dduw."


Odd fersiwn y Trwynau Coch ychydig yn wahanol:

"Draw draw yn Tseina a thiroedd Siapan,
Hondas a Mazdas sy'n byw,
Dim ond Suzuki's a Kawasaki's ym mhob man,
Gwlad y teledu lliw."
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cymdeithas Dewi Sant - Siapan

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 04 Maw 2003 4:15 pm

Geraint a ddywedodd:
Llywydd a ddywedodd:[Mae hefyd Siapanwraig sydd yn 24, a mae hi yn rhugl iawn! Wedi bod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Wel ma'n rhaid mae dyma'r ferch fues i yn siarad da yn Nhafarn y Cwps Aberystwyth! Neith hi ddim cofio fi, ond dwued wrthi fod cyn-fyfyriwr o Abersytwyth yn cofio at hi :)

Arigato


Jiw mae'n fyd bach!
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Emyn Warthus - Can gwaeth

Postiogan Llywydd » Maw 04 Maw 2003 11:48 pm

ceribethlem a ddywedodd:
O'n i'n sylwi mai dim ond llinell gyntaf yr emyn warthus yma ma nhw'n ddyfynnu. Call iawn. Oes na rywun yn gwbod mwy o benillion hon? Does na neb yn ei chanu hi o hyd does bosib?

"Draw, draw yn China a thiroedd Japan
Plant bach melynion sy’n byw;
Dim ond eilunod o’u cylch ym mhobman
Neb i ddweud am Dduw."


Odd fersiwn y Trwynau Coch ychydig yn wahanol:

"Draw draw yn Tseina a thiroedd Siapan,
Hondas a Mazdas sy'n byw,
Dim ond Suzuki's a Kawasaki's ym mhob man,
Gwlad y teledu lliw."



Wel, nid yw'r emyn mor warthus a be ydych chi'n feddwl. Mae'r Siapanwyr yn ymfalchio yn y ffaith eu bod a chroen melyn. Pam lai? Credaf ein bod yn gwneud gormod o'r ffaith ei bod hi'n hiliol i alw pawb sydd ddim yn wyn rhyw liw arall. Onid nid yw hynny yn hiliol? Pam ei bod hi'n iawn i bobl wyn galw eu hunain yn wyn ond ceisio ar bob agos disgrifio bobl a lliwiau eraill. Credaf ein bod wedi gwneud camgymeriad drwy ceisio gormod i osgoi fod yn hiliol fel bod ni fel canlyniad yn hiliol. Onid nid yw bob lliw yn gyfartal? Onid nid yw bob lliw yn hardd? Wrth gwrs, mae galw rhywun oddi wrth eu lliw croen yn lle eu henw YN hiliol. Dim ond yr wythnos diwethaf yn McDonald's yng nghanol Tocio, galwodd y ddynes ifainc arnai fel 'Gaijin-san' neu 'tramorwr'. Dywedais ddim, gan ei bod hi'n ceisio bod yn gwrtais ac nid yn ceisio bod yn hiliol. Ond serch hynny, dylsai ei bod hi wedi dweud 'okyaku-sama' sydd yn golygu yn llythrennol 'yr anrhydeddig cwsmer' (Syr i gyfieithu yn iawn) sydd yn arferol yma yn Siapan.

A dweud y gwir, mae'r bennill gan y Trwynau Cochion yn waeth! Mae bob enw yn y bennill yn enw cyffredin yn Siapan. (Matsuda yw gwir enw cwmni Mazda). Yn enwedig mae Suzuki yn union fel Jones yng Ngymru ac felly y mae nhw ym mhob man. (Gyda llaw Jones yw fy cyfenw i!)

Beth bynnag, hen bennillion yw'r emyn a'r gan gan Trwynau Cochion erbyn hyn. Adeg pan yr oeddem yn gwybod llai am Siapan a Tseina. Beth bynnag, wnelo Honda, Matsuda (Mazda), Kawasaki a Suzuki ddim a Tseina!

Andrew
Tocio, Siapan
Rhithffurf defnyddiwr
Llywydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Maw 04 Maw 2003 1:44 pm
Lleoliad: Tocio, Siapan

Nesaf

Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai