Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.
Weles i Cayo mwy nag unweth a ma rhaid i fi ddweud na do'dd e ddim yn impressive iawn. Wi'n gwbod fod e'n genedlaetholwr mawr ac yn gwneud safiad ddyle mwy wneud, ond o'dd 'da fe Tatoo o 'Welsh Lady' 'da het a popeth ar 'i fraich for god's sake.
Pa fath o Gymru o'dd yn mynd ymla'n yn i ben e? Ma'n bwysig bod ni'n cofio pobol ond ma'n bwysig hefyd bo ni ddim yn ca'l yn dallu gan yr hype.
piti fod rhiwyn yn barod i slagio rhiwyn nath gymaint dros ei wlad o achos fod ganddo tatoo ar ei fraich- so dwin cynghorydd dref a mae gen'i nifer o tatoos [yn cynwys yr eryr-gwyn] ydi hyn yn gwneud fy ngwaith i fel cynghorydd yn wael neu be- for godsake ddaru y FWA sefyll i fynu yn erbyn y Llywodraeth ar goron - heb ladd neb. mae bosib cael "to dream of freedom" amdan ei hannes a 2 o lyfre Dennis Coslett Commandant FWA yn siopau Cymraeg
Nagon i'n slagio Cayo am fod 'da fe tattoo - yn hytrach am y tattoo o beth o'dd e.
Mae gen ti tattoo Eryr Gwyn medde ti,a dyw e ddim yn effeithio dy rol fel cynghorydd. Gwych. (Er fod sawl cynghorydd o'r ffordd hyn yn haeddu cael tattoo 'Twat' ar 'i talcen)
Ym mhroblem i 'da Cayo o'dd natur y tattoo - Welsh Lady for god's sake!! O's yna symbol mwy stereotypical,twee a gwasaidd yn bod? Beth o'dd e'n ymladd dros - Rock Number 8 Pwllheli am ddim i bawb sy'n siarad Cymraeg? Ame y math o Gymru o'dd gan Cayo yn ei feddwl pan o'dd e'n ca'l argraffu y ddelwedd yna ar ei fraich oeddwn i .
Wi 'di bod ar y wefan Saesnig 'Eryr Gwyn' a wi'n ffili gweld am beth ma nhw'n ymladd. Beth yw Cymru heb y Gymraeg? West England a chartre i Welsh Ladies a chorgis.
"beth yw Cymru heb Cymraeg?" beth rhaid i ti ddallt ydi fod y pobol yma wedi bod ar ambell rali cymdeithas yr iaith ac yn cefnogi yr achos- dwin meddwl yn bersonol fod lot ohonynhw yn deallt yr iaith ond ddim yn ei siarad ac yn ofnys o rhoi riwbeth anghywir ar y wefan [ac i rhai fase'n digon gyflym i slagio nhw am drio a methu]. tin cofio y stori flwyddyn dwethaf fod Stadiwm y mileniwm wedi gwrthod flagiau Dewi Sant ac Owain Glyndwr - y rhain nath yn siwr fod y stori yn y wasg a fod yr FAW ar stadiwm yn ymddiheuro. so come on - llai o slagio a mwy o gefnogaeth os gwelwch yn dda