gan ami » Gwe 28 Awst 2009 1:05 pm
Helo. Esgusodwch fi am ateb hwyr iawn, mwy na phedair blynedd ar ôl y sgwrs gwreiddiol(!) ond dw i newydd ei sylw trwy chwilio'r we. Mae gen i ddiddordeb personol yn y pwnc gan mai fy nhaid oedd Edward Iwi, a enwyd yn yr erthygl BBC.
Dwi ddim yn cytuno gyda theimlad gwrth-cenedlaetholwyr fy nhaid, wrth gwrs (ond, cyn i unrhywun ofyn, dwi'm yn meddwl bod rhaid i mi ymddiheuro'n bersonol am weithredoedd o hynafiad a fu farw cyn fy ngeni, chwaith). Serch hynny, hoffwn i anghytuno gyda phwynt Hogyn o Rachub. Os feddylir mai dim ond rhywbeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg yw cenedlaetholdeb, mae'n ymddangos i mi bod beio'r llywodraeth neu'r "system Brydeinig" am hynny yn rhy hawdd. Mae rhaid i genedlaetholwyr gymryd cyfrifoldeb am gyhoeddi eu neges eu hunain yn effeithlon. Er enghraifft, os nad yw Cymry di-Gymraeg yn teimlo bod Plaid Cymru ar eu cyfer, efallai mae hynny'n golygu bod rhaid i'r blaid wneud mwy er mwyn eu hatynnu nhw. Dwi'n gobeithio nid barn rhy ddadleuol ydy hyn!
Oce, diolch, dwi'n gobeithio gwnaeth hynny synnwyr, ac esgusodwch camgymeriadau ieithyddol os gwelwch yn dda - dim ond dysgwr ydw i.