Ymdrech i atal cenedlaetholdeb

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ymdrech i atal cenedlaetholdeb

Postiogan Dafydd Hywel » Llun 07 Maw 2005 9:02 pm

Mae dogfennau cyfrinachol sydd wedi eu rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos fod ymdrechion yn ystod yr Ail Ryfel Byd i ddefnyddio'r Teulu Brenhinol er mwyn atal tŵf cenedlaetholdeb yng Nghymru.

Ewch yma i gael y newyddion yn llawn.
Cofiwch Cayo
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd Hywel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 155
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:26 am
Lleoliad: Glanaman

Postiogan Cawslyd » Llun 07 Maw 2005 10:51 pm

Difyr, de?
Lwcus eu bod nhw di methu!
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 08 Maw 2005 12:04 pm

Lwcus iawn! Mae'n newyddion bach diddorol, yn fwy na syndod aruthrol. Bydd 'na ddogfennau'n dod allan mewn deugain mlynedd arall fydd yn dangos bod camau i atal cenedlaetholdeb yn digwydd rwan, mae'n siwr, er fod hyn wedi digwydd yn ystod y rhyfal.

Mae'n eitha sgeri bod y wladwriaeth yn medru cymryd y fath gamau er mwyn chwalu Cymreictod.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Chwadan » Maw 08 Maw 2005 12:47 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'n eitha sgeri bod y wladwriaeth yn medru cymryd y fath gamau er mwyn chwalu Cymreictod.

Be, fatha'r Deddfau Uno a'r Welsh Not ac ati? Swn i ddeud fod hyn yn un o'r petha lleia sgeri ma nhw di neud :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Nimel » Maw 08 Maw 2005 2:45 pm

Be, fatha'r Deddfau Uno a'r Welsh Not ac ati? Swn i ddeud fod hyn yn un o'r petha lleia sgeri ma nhw di neud :winc:


Os unrhywbeth ma'r Deddf Uno ar Welsh Not wedi cynhyrfu mwy o genedlaetholdeb ynddo ni nawr. !!!!!!

Mae hyn yn dystioleth yn ei hun bod cynlluniau'r wladwriaeth d methu.

Iei Cymreictod!!!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Nimel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 106
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2004 1:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 08 Maw 2005 3:16 pm

Dw i mond yn lled-gytuno. I raddau helaeth dw i'n meddwl bod y llywodraeth wedi llwyddo i danseilio cenedlaetholdeb Cymreig, mewn ffordd round-about. Mae rhanfwyaf o gefnogaeth i bethau cenedlaetholgar, bethbynnag y bo, yn dod gan siaradwyr Cymraeg. Mae pethau fel y Welsh Not wedi cyfrannu tuag at chwalfa'r iaith. Mae cenedlaetholdeb wedi cynyddu ymysg siaradwyr Cymraeg yn eithaf cyson, ond erbyn hyn dim ond lleiafrif yr ydym; hyd yn oed petasai pob Cymro a Chymraes Cymraeg yn genedlaetholwyr, dyna leiafrif ichi.

Nid dweud ydw i chwaith nad yw'r di-Gymraeg yn genedlaetholwyr, achos mae llwythi ohonyn nhw yn. Ond mae'r system Brydeinig wedi llwyddo i beintio cenedlaetholdeb Cymreig fel rhywbeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig; hyd yn oed rwan cewch chi bobl yn dweud I can't vote for Plaid cos I can't speak Welsh neu rhywbeth tebyg, er fod hynny wedi newid lot ers peth amser rwan. Ond mae'r syniad dal yng nghefn meddyliau pobl.

Yn dweud hynny, wedi i mi fynd off y pwynt yn hollol, dydi'r llywodraeth ddim wedi llwyddo i ddinistrio cenedlaetholdeb Cymreig. Dim cweit. Dim eto. A nid byth. Fe all llywodraeth wneud lot o bethau; ond fedr hi ddim newid cynnwys y galon.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Ymdrech i atal cenedlaetholdeb

Postiogan ami » Gwe 28 Awst 2009 1:05 pm

Helo. Esgusodwch fi am ateb hwyr iawn, mwy na phedair blynedd ar ôl y sgwrs gwreiddiol(!) ond dw i newydd ei sylw trwy chwilio'r we. Mae gen i ddiddordeb personol yn y pwnc gan mai fy nhaid oedd Edward Iwi, a enwyd yn yr erthygl BBC.

Dwi ddim yn cytuno gyda theimlad gwrth-cenedlaetholwyr fy nhaid, wrth gwrs (ond, cyn i unrhywun ofyn, dwi'm yn meddwl bod rhaid i mi ymddiheuro'n bersonol am weithredoedd o hynafiad a fu farw cyn fy ngeni, chwaith). Serch hynny, hoffwn i anghytuno gyda phwynt Hogyn o Rachub. Os feddylir mai dim ond rhywbeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg yw cenedlaetholdeb, mae'n ymddangos i mi bod beio'r llywodraeth neu'r "system Brydeinig" am hynny yn rhy hawdd. Mae rhaid i genedlaetholwyr gymryd cyfrifoldeb am gyhoeddi eu neges eu hunain yn effeithlon. Er enghraifft, os nad yw Cymry di-Gymraeg yn teimlo bod Plaid Cymru ar eu cyfer, efallai mae hynny'n golygu bod rhaid i'r blaid wneud mwy er mwyn eu hatynnu nhw. Dwi'n gobeithio nid barn rhy ddadleuol ydy hyn!

Oce, diolch, dwi'n gobeithio gwnaeth hynny synnwyr, ac esgusodwch camgymeriadau ieithyddol os gwelwch yn dda - dim ond dysgwr ydw i.
ami
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 28 Awst 2009 12:37 pm
Lleoliad: rhywle yn Lloegr

Re: Ymdrech i atal cenedlaetholdeb

Postiogan Duw » Mer 02 Medi 2009 6:01 pm

Trueni dyw fy Nghymraeg i ddim cystal â d'un ti ami. Hoffwn gytuno 'da ti ar sawl peth. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gefnogi unrhyw blaid wleidyddol a ddymunant. Mae'n fy mecso pan fydd unigolion yn cymryd yn ganiataol y dylid bleidleisio i PC oherwydd rhesymau ieithyddol yn unig. Er bod y llywodraeth wedi gwneud cymaint o lanastr mysg ein cymdeithas, ni a'n plant bydd yn penderfynu dyfodol ein gwlad ac os nac ydy PC a phleidiau tebyg eraill yn lledu'r neges a dwyn perswad ar y cyhoedd yn gyffredinol, wel...

Mae hanes yn bwysig, wrth gwrs ei fod, ond i mi, yr hyn rydym yn gwneud nawr a chynllunio i'w wneud yfory a fydd yn allweddol. Dyna lle dylem ffocysu'n hymdrechion.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ymdrech i atal cenedlaetholdeb

Postiogan Kez » Mer 02 Medi 2009 7:07 pm

ami a ddywedodd:Oce, diolch, dwi'n gobeithio gwnaeth hynny synnwyr, ac esgusodwch camgymeriadau ieithyddol os gwelwch yn dda - dim ond dysgwr ydw i.


Duw a ddywedodd:Trueni dyw fy Nghymraeg i ddim cystal â d'un ti ami.


Sori bo fi'n torri ar draws y sgwrs 'ma ond ma'r teip 'na o beth jyst yn pisho fi off - sim syndod bo pobol ddim yn ysgrifennu ne'n folon siarad Cymraeg pan fo pobol fel chi'ch dou yn mynnu nag yw eich Cymraeg yn ddigon da :ing:

Ma rhaid inni gal gwarad o'r meddylfryd stiwpid 'ma - ne stim gobaith i'r iaith!

Dyna ddiwedd fy rant - cerwch nol at bwnc yr edefyn nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Ymdrech i atal cenedlaetholdeb

Postiogan Duw » Mer 02 Medi 2009 7:24 pm

Kez, wyt ti wedi sylwi ein bod ni wedi cyfrannu ac wedi ysgrifennu. Trio rhoi compliment i ami o'n i.

Cer o 'ma'r hen ben pop.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron