Gwynfor Evans wedi marw

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Realydd » Iau 21 Ebr 2005 4:34 pm

Cymro dewr, uchel ei barch a dyn o egwyddor. Cydymdeimlaf.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 21 Ebr 2005 5:01 pm

Teyrnged blodeuog Derec Llwyd Morgan isod...

Yr oedd Gwynfor Evans yn un o Gymry mawr yr oesoedd, yn arweinydd-weledydd di-ildio ac yn ymladdwr ffyrnig o fonheddig a oedd yn ysbrydoliaeth i bawb a ddaeth i gysylltiad ag ef. Gyda'i farw yr ydym megis yn colli Tad yn Israel.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Datganiad gan Dafydd Iwan

Postiogan S.W. » Iau 21 Ebr 2005 5:17 pm

Meddai Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan,

“Mae Plaid Cymru wedi tristhau heddiw o glywed y newyddion am farwolaeth Gwynfor Evans. Mae’r newydd wedi ei dderbyn a thristwch mawr gan bawb ym Mhlaid Cymru sydd wedi eu hysbrydoli gan Gwynfor dros y blynyddoedd i weithio dros Gymru ac i greu cenedl y gallwn fod yn falch ohonni.

“I aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru yn hen ac ifanc, roedd Gwynfor Evans yn arweinnydd ysbrydol ac fe fydd yn parhau i fod. Mae’n amhosibl gor-bwysleisio cyfraniad unigryw Gwynfor i adeiladu Plaid Cymru i’r blaid ydi hi heddiw. Ef oedd pensaer y Blaid Cymru fodern ac fe droth y blaid i fod yn rym etholiadol credadwy pan gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1966.

“Gwynfor oedd cynhaliaeth y Blaid yn ystod blynyddoedd llwm y 50au a’r 60au. Mae’n wir i ddweud heb Gwynfor wrth y llyw na fyddai Plaid Cymru wedi llwyddo mewn etholiadau ac ymgyrchoedd yn y blynyddoedd diweddar.

“Mae ei ddylanwad i’w deimlo ymhell tu hwnti i ffiniau gwleidyddiaeth bleidiol. Ni fyddai Cymru y wlad yw hi heddiw - yn wir mae’n bosib na fyddai yn wlad o gwbwl - heb waith a dyfalbarhad Gwynfor.

"Roedd Gwynfor Evans yn ddylanwad enfawr ar fy naliadau gwleidyddol. Roedd yn arweinydd cenedlaethol ymhob ystyr y gair. Bydd colled fawr ar ol ei ddoethineb a’i arweiniad ond bydd ei ysbrydoliaeth yn aros gyda ni am byth. Mae’n cydymdeimlad ni oll gyda’i wraig Rhiannon a’i deulu.”
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Prysor » Iau 21 Ebr 2005 5:52 pm

Ei gyfraniad yn enfawr, yn hanfodol ac amhrisiadawy, ac yn gwbl ganolog.
Cydymdeimladau a'r teulu.
Diolch yn fawr, Gwynfor.
Hwyl ar dy daith.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Garnet Bowen » Iau 21 Ebr 2005 6:09 pm

Dyn sy'n haeddu diolch pob Cymro. Pob cydymdeimlad a'r teulu.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Jeni Wine » Iau 21 Ebr 2005 6:12 pm

Mae ein dyled yn anferth i'r cawr o ddyn yma.
Parch a diolch o waelod calon iddo am bopeth nath o droston ni.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Saflon » Iau 21 Ebr 2005 6:51 pm

Efallai fod Gwynfor wedi'n gadael, ond oherwydd ei waith diflino mi gawsom ni S4C ac yna y Cynulliad.

Y cofeb mwyaf haeddianol i wr mor arbennig, a chyfranodd cyn gynmaint i'w wlad fyddai Senedd i Gymru gyda grymoedd go iawn!

Diolch amdano, ei weledigaeth a'i ysbrydoliaeth - arwr yn wir ystyr y gair.

Yr Iesu sydd yn casglu blodau - heddiw gasglodd un o'r gorau.
Saflon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Sad 13 Medi 2003 4:26 pm
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan Mabon.Llyr » Iau 21 Ebr 2005 6:53 pm

Dyw dweud diolch ddim yn teimlo fel digon.....

Diolch am bopeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Mabon.Llyr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Maw 02 Tach 2004 5:32 pm

Postiogan Cynan Bwyd » Iau 21 Ebr 2005 8:08 pm

Arwr mwya Cymru si di bod ers Glyndwr. Colled enfawr i'r genedl. Man saff i weud taw (yn rannol) i Gwynfor mar diolch bod yr iaith dal yn fyw, a bo efo ni chydig o hawliau fel cenedl.

Cydymdeimlaf efo'r teulu.

Parch.
Rhithffurf defnyddiwr
Cynan Bwyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1936
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 5:29 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan lleufer » Iau 21 Ebr 2005 8:55 pm

Goleuodd y llwybr, arweiniodd y ffordd, ysbrydolodd.
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai