Pob dymuniad da i chi fel teulu a diolch am rannu Gwynfor gyda ni fel cenedl.
Mae bron pawb dwi'n nabod yn bwriadu mynd i'r angladd ac, er taw diwrnod i'r teulu a chyfeillion yw diwrnod angladd, mi fydd dydd Mercher yn ddiwrnod pwysig iawn i Gymru gyfan. Byddwn i'n annog pawb i ddod i Aberystwyth ddydd Mercher a dangos ein parch at rywun wnaeth cymaint droston ni a dangos i'r byd ein bod ni'n caru ein harwyr.