Tudalen 1 o 8

Gwynfor Evans wedi marw

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 12:22 pm
gan eusebio
Newyddion trist wedi dod i law fod Gwynfor Evans wedi marw.

Pob cydymdeimlad â'r teulu.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 12:24 pm
gan Griff-Waunfach
Dwyn sori iawn i glywed, cydymdeimladau i'r taulu oll.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 12:30 pm
gan Ifan Saer
Heddwch i'w lwch, cydymdeimladau twymgalon i'r teulu oll.

Nid gormodiaith yw ei ddisgrifio fel gwir arwr Cymreig; cawr o ddyn a cholled enfawr.

Diwrnod trist dros ben.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 12:30 pm
gan HenSerenSiwenna
:(
O, mae hynnan drist iawn. Mi wnes i ddefnyddio llawer o bethau oedd e wedi ysgrifennu ar gyfer fy dissertation...a dwi newydd brynnu un oi lyfrau am ryddid cymraeg.

Dwi'n meddwl dylse ni chadwr ehedyn yma yn yr adran negeseuon newydd os mae'n bosib, fel all bawb cael gwybod y newyddion hynnod o drist hwn. Gobeithio caiff 'er cof' da yn y media gymraeg - roedd en annwyl o ddyn a hynnod o gymro.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 12:32 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Wir? Trist iawn gen i glywed. :(

Unwaith erioed gwrddes i â fe (ond roedd e a dadcu yn ffrindiau da), pan o'n i'n grwt eitha' ifanc, ac roedd e'n wr addfwyn a dymunol.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 12:34 pm
gan S.W.
Cydymdeimladau mawr iw deulu a'i ffrindiau.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 12:47 pm
gan dafydd
Pob cydymdeimlad i'r teulu cyfan. Ges i deimlad o dristwch mawr wrth glywed y newyddion nawr er nad oeddwn yn ei nabod - roedd ei gyfraniad a'i ddylanwad yn amhrisiadwy. Mae 92 yn uffach o oedran serch hynny. ('check age' yn ol gwefan y BBC).

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 12:48 pm
gan eusebio

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 12:54 pm
gan Mr Gasyth
Trist iawn. Cyd-ymdeimladau i'w deulu lu, llawer ohonynt yn darllen Maes-e.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 1:34 pm
gan gronw
cydymdeimlade i'r teulu.