Tudalen 4 o 8

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 4:34 pm
gan Realydd
Cymro dewr, uchel ei barch a dyn o egwyddor. Cydymdeimlaf.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 5:01 pm
gan Rhys Llwyd
Teyrnged blodeuog Derec Llwyd Morgan isod...

Yr oedd Gwynfor Evans yn un o Gymry mawr yr oesoedd, yn arweinydd-weledydd di-ildio ac yn ymladdwr ffyrnig o fonheddig a oedd yn ysbrydoliaeth i bawb a ddaeth i gysylltiad ag ef. Gyda'i farw yr ydym megis yn colli Tad yn Israel.

Datganiad gan Dafydd Iwan

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 5:17 pm
gan S.W.
Meddai Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan,

“Mae Plaid Cymru wedi tristhau heddiw o glywed y newyddion am farwolaeth Gwynfor Evans. Mae’r newydd wedi ei dderbyn a thristwch mawr gan bawb ym Mhlaid Cymru sydd wedi eu hysbrydoli gan Gwynfor dros y blynyddoedd i weithio dros Gymru ac i greu cenedl y gallwn fod yn falch ohonni.

“I aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru yn hen ac ifanc, roedd Gwynfor Evans yn arweinnydd ysbrydol ac fe fydd yn parhau i fod. Mae’n amhosibl gor-bwysleisio cyfraniad unigryw Gwynfor i adeiladu Plaid Cymru i’r blaid ydi hi heddiw. Ef oedd pensaer y Blaid Cymru fodern ac fe droth y blaid i fod yn rym etholiadol credadwy pan gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1966.

“Gwynfor oedd cynhaliaeth y Blaid yn ystod blynyddoedd llwm y 50au a’r 60au. Mae’n wir i ddweud heb Gwynfor wrth y llyw na fyddai Plaid Cymru wedi llwyddo mewn etholiadau ac ymgyrchoedd yn y blynyddoedd diweddar.

“Mae ei ddylanwad i’w deimlo ymhell tu hwnti i ffiniau gwleidyddiaeth bleidiol. Ni fyddai Cymru y wlad yw hi heddiw - yn wir mae’n bosib na fyddai yn wlad o gwbwl - heb waith a dyfalbarhad Gwynfor.

"Roedd Gwynfor Evans yn ddylanwad enfawr ar fy naliadau gwleidyddol. Roedd yn arweinydd cenedlaethol ymhob ystyr y gair. Bydd colled fawr ar ol ei ddoethineb a’i arweiniad ond bydd ei ysbrydoliaeth yn aros gyda ni am byth. Mae’n cydymdeimlad ni oll gyda’i wraig Rhiannon a’i deulu.”

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 5:52 pm
gan Prysor
Ei gyfraniad yn enfawr, yn hanfodol ac amhrisiadawy, ac yn gwbl ganolog.
Cydymdeimladau a'r teulu.
Diolch yn fawr, Gwynfor.
Hwyl ar dy daith.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 6:09 pm
gan Garnet Bowen
Dyn sy'n haeddu diolch pob Cymro. Pob cydymdeimlad a'r teulu.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 6:12 pm
gan Jeni Wine
Mae ein dyled yn anferth i'r cawr o ddyn yma.
Parch a diolch o waelod calon iddo am bopeth nath o droston ni.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 6:51 pm
gan Saflon
Efallai fod Gwynfor wedi'n gadael, ond oherwydd ei waith diflino mi gawsom ni S4C ac yna y Cynulliad.

Y cofeb mwyaf haeddianol i wr mor arbennig, a chyfranodd cyn gynmaint i'w wlad fyddai Senedd i Gymru gyda grymoedd go iawn!

Diolch amdano, ei weledigaeth a'i ysbrydoliaeth - arwr yn wir ystyr y gair.

Yr Iesu sydd yn casglu blodau - heddiw gasglodd un o'r gorau.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 6:53 pm
gan Mabon.Llyr
Dyw dweud diolch ddim yn teimlo fel digon.....

Diolch am bopeth.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 8:08 pm
gan Cynan Bwyd
Arwr mwya Cymru si di bod ers Glyndwr. Colled enfawr i'r genedl. Man saff i weud taw (yn rannol) i Gwynfor mar diolch bod yr iaith dal yn fyw, a bo efo ni chydig o hawliau fel cenedl.

Cydymdeimlaf efo'r teulu.

Parch.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 8:55 pm
gan lleufer
Goleuodd y llwybr, arweiniodd y ffordd, ysbrydolodd.