Tudalen 8 o 8

PostioPostiwyd: Llun 25 Ebr 2005 7:41 pm
gan Llety Clyd
Pob dymuniad da i chi fel teulu a diolch am rannu Gwynfor gyda ni fel cenedl.

Mae bron pawb dwi'n nabod yn bwriadu mynd i'r angladd ac, er taw diwrnod i'r teulu a chyfeillion yw diwrnod angladd, mi fydd dydd Mercher yn ddiwrnod pwysig iawn i Gymru gyfan. Byddwn i'n annog pawb i ddod i Aberystwyth ddydd Mercher a dangos ein parch at rywun wnaeth cymaint droston ni a dangos i'r byd ein bod ni'n caru ein harwyr.

PostioPostiwyd: Mer 27 Ebr 2005 11:59 pm
gan Frank Wilson
Mae'n ddrwg gen i am fy Cymraeg drist, ond dwi'di jyst isio deud basai Cymru yn lle "poorer" heb Gwynfor Evans.

Dwi'n cofio darllen lyfyr gan Gwynfor "The Fight for Welsh Freedom" ac ar ol darllen dwi'di teimlon "Darn o Gymru" eto.

Roedd o'n dyn fawr i pobl fel fy, neb wedi "excluded" pawb yn gyfartal.

Mae'n ddrwg gen i am fy iaith ysbwyrial ond gobeithio chi'n deall fy teimladau.

PostioPostiwyd: Iau 28 Ebr 2005 6:07 pm
gan Mabon.Llyr
Frank Wilson a ddywedodd:Mae'n ddrwg gen i am fy Cymraeg drist, ond dwi'di jyst isio deud basai Cymru yn lle "poorer" heb Gwynfor Evans.

Dwi'n cofio darllen lyfyr gan Gwynfor "The Fight for Welsh Freedom" ac ar ol darllen dwi'di teimlon "Darn o Gymru" eto.

Roedd o'n dyn fawr i pobl fel fy, neb wedi "excluded" pawb yn gyfartal.

Mae'n ddrwg gen i am fy iaith ysbwyrial ond gobeithio chi'n deall fy teimladau.

Mae dy gymraeg yn bell o fod yn "ysbwriel".
A dwi'n siwr fod pawb yn deall beth ti'n trio dweud.
Diolch am rannu dy brofiad.