Lies, Di-Angen, Cymuned and the Welsh Mirror

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ceribethlem » Iau 31 Hyd 2002 9:40 pm

Os yw'r syniad o positif discrimination yn un mae'r Llywodraeth Brydeinig/Saesneg yn ei gefnogi yn nhermau cefnogi lleiafrifon megis grwpiau ethnig neu pobl ag anabledd, yna does dim yn bod gyda cefnogi positif discrimination ieithyddol chwaith.
Bydd y byd yn lle tlotach pe bai'r Gymraeg yn diflannu. Mae pethau unigryw megis cynghanedd yn cael ei gynnig gan yr iaith. Rhaid cynnal hyn i gyfoethogi'n golwg o'r byd.

Nid gwlad prydferth yn unig yw Cymru. Mae nifer o bobl yn dod yma oherwydd yr iaith. Rhaid cadw'r cymuinedau cymraeg er mwyn denu'r rhain.
Er enghraifft mae prifysgolion Cymraeg yn Siapan yn cynnig gradd yn yr ieithoedd Celtaidd, sydd wrth gwrs yn cyfri'r Gymraeg fel y prif iaith am ei fod yn iaith fyw.
Pan oeddwn i'n fach fe alwodd wr o Siapan ar fy Nhadcu a dechrau sgwrsio yn y Gymraeg gydag ef, roedd wedi dod i Gymru i wneud PhD yn Cymraeg Dyffryn Teifi ac roedd ef am gael cyngor wrth fy Nhadcu.
Pe bai "hawl" gan Saeson (neu unrhywun arall) gymryd dros a lladd y cymunedau Cymreig fe fyddai rhan bach o outlook gwledydd fel Siapan yn marw.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Lies, Di-Angen, Cymuned and the Welsh Mirror

Postiogan Gwestai » Llun 04 Tach 2002 6:24 pm

Di-Angen a ddywedodd:Nid cyfiawnder yw hawliau pobl i symud lle y maent eisiau, heb y wladwriaeth yn eu stopio?

Pwynt dilys iawn, ond dydi rhyddid byth wedi achub iaith gyda un hoelen yn ormod yn ei harch.

Ydi'r ffaith fod pobl lleol yn cael eu prisio allan o'r farchnad gan bobl arall yn gyfiawn? Ydi'r ffaith nad oes digon o swyddi yn yr ardaloedd hyn yn gyfiawn? Ydi gadael i'r iaith Gymraeg farw allan yn gyfiawnder ... yn IAWN?

Nac ydi siwr.
Gwestai
 
Postiogan Chris Castle » Mer 06 Tach 2002 12:17 pm

Mae Dewi, Gwestai, a Ceri yn bêsicli iawn.

Ti'n swnio fel Anarcist nawr Di-angen.
Mae Rhyddid yn golygu mae gan pawb y hawl i wneud fel y mynnwch, a mae Civil Liberties yn golygu mae rhaid inni dderbyn Trosedd - wel Dwi eisiau byw yn dy dy^ di, felly cer o'na!
Rhyddid = Trosedd ; sothach!

Dwedodd Clive James y mae rhaid ymdrin â'r problemau sy'n achosi'r problemau o fewn cymdeithas. Sef Anghyfartaledd ac ati.
Roedd e'n Aelod grwp trotskiaidd pan oedd yn ifanc - grwp a Aeth yr Socialist Workers Party. Dwi'n eithaf sicr ei fod e'n dal yn Sosialwr.

Efallai ti'n "Libertarian Tori" megis Portillo - sef anarcist sydd am gadw ei eiddo ei hun. Dych chi'n gwybod oedd Adam Smith yn erbyn Cwmniau Mawr? Petai ef yn byw heddiw byddai e'n debyg o fod yn gefnogwr Fair Trade yn hytrach na Free Trade! Mae Adam Smith Institute yn Sarhau ei gof ef.

Gwir amdani yw, Mae gan pawb hawliau er mwyn eu hunain - ONIBAI nad ydyn nhw'n achosi difrod i bobl eraill.
Dyna rheswm dros Democratiaeth a'r Cyfraith.

(Yn y cydtestun yma, Mae achosi "ethnic cleansing" gyda'ch llyfr siec yn "difrod i bobl eraill", yn fy marn i beth bynnag.)

Mae Sosialiaeth yn ddim ond ehangu democratiaeth i mewn i fywyd dynol economaidd.

Mae Rhyddid heb Rheolau yn waith na chyfraith y jyngl. Ti'n wan dwi'n gryf, Felly Ti'n colli a dwi'n ennill. O leiaf yn y jyngl mae esgus o llwgu heb weithredu fel 'na.

Nid am i'r "LLywodraeth yn gofalu amdanaf" ydw i.

NI YDY'R POBL, NI YDY "SOVEREIGN", NI YDY'R LLYWODRAETH, NI A DDYLAI GWEITHIO GYDA EI GILYDD ER MWYN LLES PAWB.
TEGWCH, RHYDDID, AMRHYWIAETH A CHYFARTALEDD, SYDD EU HANGEN NID POPETH YN UNFFURFIADOL.

Does dim amynedd 'da fi gyda'r rhai sy'n beio eraill am bopeth, heb weithredu i newid pethau.

IN A DEMOCRACY YOU GET THE LEADERS YOU DESERVE - Abe Lincoln
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Di-Angen » Mer 06 Tach 2002 1:49 pm

Chris Castle a ddywedodd:Mae Dewi, Gwestai, a Ceri yn bêsicli iawn.

Y broblem fel yr wyf yn ei weld yw hyn..

Wrth gwrs does gan neb yr hawl i achosi poen neu difrodi eiddo pobl arall. Pa hawl foesol sydd gan ti neu unrhywun arall i symud i unrhyw dref? Wrth gwrs, mae cymunedau yn bwysig ag ati, a mae lot gallai'r llywodraeth wneud o ran adeiladu tai affordable (yn y dre ac yn y wlad) ag ati, ond yn y pen draw, does neb yn y gogledd o dan anfantais cyfreithiol, sy'n eu gorfodi i werthu allan i'r english invasion. Mae nifer ohonynt yn ddigon hapus i symud allan i lefydd fel Caerdydd i gael swyddi.

Yn bersonol, fe hoffwn aros yng Nghaerdydd (ac mewn ardaloedd penodol yng Nghaerdydd) am y 30 blynedd nesaf. Falle fydd e ddim yn bosib i fi wneud hyn, a fe fydd hynny'n drueni. Dwi'n barod i dderbyn, fodd bynnag, falle bydd rhaid i fi adael fy nghymuned achos prisiau tai, diffyg swyddi ayb. Dydw i ddim yn barod i ddweud na ddylai pobl allu symud i Gaerdydd, er eu bod efallai yn cael effaith negyddol ar y lle, o ran prisiau tai, swyddi ayb.

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Chris Castle » Mer 06 Tach 2002 2:15 pm

mae cymunedau yn bwysig ag ati, a mae lot gallai'r llywodraeth wneud o ran adeiladu tai affordable (yn y dre ac yn y wlad)

Safbwynt CYMUNED yw hyn.

Dwi'n barod i dderbyn, fodd bynnag, falle bydd rhaid i fi adael fy nghymuned achos prisiau tai, diffyg swyddi ayb. Dydw i ddim yn barod i ddweud na ddylai pobl allu symud i Gaerdydd, er eu bod efallai yn cael effaith negyddol ar y lle, o ran prisiau tai, swyddi ayb.

Agwedd defeatist iawn yw hyn.
Mae rhaid sicrhau bod mewnfudo yn creu effaith positif.
Dyna Safbwynt CYMUNED

DIM OND Y WELSH MIRROR A HANDFULL OF BIGOTS SY'N SON AM RHWYSTRO POBL RHAG SYMUD O ACHOS PWY YDYN NHW, Nid CYMUNED FEL CYMDEITHAS.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan ceribethlem » Mer 06 Tach 2002 9:01 pm

Dwi'n cytuno Chris.
Pe bai "hawl" gan unrhyw genedl cymud i mewn i wlad cenedl arall oherwydd ei grym economaidd bydd y byd yn gorffen lan yn rhan o'r UD a phawb yn gwneud National Service yn McDonalds. :winc:

Mae hwn ychydig yn tongue in cheek ond yn y bon dyna fyddai'n digwydd.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Ramirez » Maw 24 Rhag 2002 11:20 pm

Ai nod Cymuned yw:
1. Cadw'r 'mewnfudwyr' allan
ynteu
2. Eu cael i ddysgu Cymraeg?

Os mai'r cyntaf, yna bydd Gogledd Cymru yn troi i mewn i'r Royston Vasey (League of Gentlemen) newydd, a bydd y gymdeithas yn marw allan. Hefyd beth yw'r diffiniad o berson lleol? Rhywun wedi byw yma erioed? Mae hyn yn ddibynnol ar ffiniau'r ardal- beth am rywun sy'n byw 100 troedfedd tu allan i'r ffin?
Ai person lleol yw rhywun sy'n byw yma ers, er engrhaifft, 25 mlynedd? Os felly, beth am rywun sydd wedi ei dderbyn gan y gymdeithas, ond sydd ond yn byw yma ers 24 mlynedd?

Os mai rhif 2 yw'r nod, beth oedd yr holl ffys am bobl leol yn y lle cyntaf? Ai dadl ddiwylliannol ynteu un lwyr ieithyddol yw hi?

Neu, opsiwn rhif 3, ac os mai hyn yw'r gwir, yna rydwi'n eich cefnogi:
Mi wnaeth Cymuned wneud 'sweeping statements' enfawr ar y cychwyn, rhai dadleuol dros ben, jysd fel 'publicity stunt' er mwyn cael sylw, a gwneud eu gwrthwynebiad yn amlwg, er fod amryw o'u safbwyntiau yn gwrthgyferbynnu ac yn anymarferol.
"All guns blazing, we may be wrong but we don't care"
Os mai dyna'n dacteg, hir oes i Cymuned!

Ond dwi'n amau'n gryf os yw hyn yn wir...
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Ramirez » Maw 24 Rhag 2002 11:27 pm

P.S. rydwi'n gadarn o blaid y ddadl oedd gan Meibion Glyndwr. Dwi ddim yn right-wing Brit o bell ffordd. Dwi jysd yn credu fod Cymuned yn rhy simplistic. Os ti am wneud rhywbeth drastic, paid a meddwl, jysd gwna fo, ond paid a bod yn pretensious am y peth wedyn. Mae Cymuned yn euog o droi a throsi a twistio pob dim er mwyn ateb cwestiynau anodd. Sticiwch at un safbwynt.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron