Os yw'r syniad o positif discrimination yn un mae'r Llywodraeth Brydeinig/Saesneg yn ei gefnogi yn nhermau cefnogi lleiafrifon megis grwpiau ethnig neu pobl ag anabledd, yna does dim yn bod gyda cefnogi positif discrimination ieithyddol chwaith.
Bydd y byd yn lle tlotach pe bai'r Gymraeg yn diflannu. Mae pethau unigryw megis cynghanedd yn cael ei gynnig gan yr iaith. Rhaid cynnal hyn i gyfoethogi'n golwg o'r byd.
Nid gwlad prydferth yn unig yw Cymru. Mae nifer o bobl yn dod yma oherwydd yr iaith. Rhaid cadw'r cymuinedau cymraeg er mwyn denu'r rhain.
Er enghraifft mae prifysgolion Cymraeg yn Siapan yn cynnig gradd yn yr ieithoedd Celtaidd, sydd wrth gwrs yn cyfri'r Gymraeg fel y prif iaith am ei fod yn iaith fyw.
Pan oeddwn i'n fach fe alwodd wr o Siapan ar fy Nhadcu a dechrau sgwrsio yn y Gymraeg gydag ef, roedd wedi dod i Gymru i wneud PhD yn Cymraeg Dyffryn Teifi ac roedd ef am gael cyngor wrth fy Nhadcu.
Pe bai "hawl" gan Saeson (neu unrhywun arall) gymryd dros a lladd y cymunedau Cymreig fe fyddai rhan bach o outlook gwledydd fel Siapan yn marw.