Lies, Di-Angen, Cymuned and the Welsh Mirror

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lies, Di-Angen, Cymuned and the Welsh Mirror

Postiogan Chris Castle » Sad 12 Hyd 2002 3:33 pm

Yn y cylchgrawn Saesneg PLANET, mae Patrick MacGuinnes wedi ymddangos y modd y mae Welsh Mirror yn defnyddio dull o "conflating" geiriau a'u "spin" eu hunain gyda geiriau Aelodau Cymuned a Phlaid Cymru, i'w galw nhw'n ffasgaidd. Dull y mae di-angen wedi llyncu'n llwyr.

Ond eto, wnaeth Sion Jobbins yn defnyddio'r un dull i ymosod arnaf i yn yr un Cylchgrawn, am ddweud yr un pethau dwi wedi dweud ar y fforum yma.
Roedd e'n "conflating" plaid Lafur, mudiad lafur, a sosialwyr i ymddangos y mae plaid lafur yn "wrth-Gymraeg". Weithiau mae gan Hedd teuddiadau tebyg i hyn.

Felly ydy'r dull yna yn derbnyniol i hybu'ch syniadau chi? Neu anerbynniol ar gyfer pawb?

Ydi Di-Angen yn deall safbwynt CYMUNED o gwbl? Sut y mae Cymuned yn Ffasgwyr? Aelod ydw i, sydd wedi cyfrannu i'r Safle-We Saesneg i ddangos y mae brwydr CYMUNED yn rhan o frwydr gwrth-hiliol am gyfiawnder economaidd. Ydw i'n ffasgwr?

Yntydi'r gwir bod gan Cymuned pwynt cyfiawn sylfaenol, sy'n cael i camddefnyddio gan rhai Cenedlaetholwyr a Lafurwyr i guddio gwendidau eu safbwyntiau eu hunain?
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Re: Lies, Di-Angen, Cymuned and the Welsh Mirror

Postiogan Di-Angen » Sul 13 Hyd 2002 2:17 pm

Chris Castle a ddywedodd:Ydi Di-Angen yn deall safbwynt CYMUNED o gwbl? Sut y mae Cymuned yn Ffasgwyr? Aelod ydw i, sydd wedi cyfrannu i'r Safle-We Saesneg i ddangos y mae brwydr CYMUNED yn rhan o frwydr gwrth-hiliol am gyfiawnder economaidd. Ydw i'n ffasgwr?


Doeddwn ddim yn gwybod fy mod wedi galw Cymuned yn ffasgwyr o gwbl, ond rwyt yn dweud fod Cymuned yn ran o frwydr wrth-hiliol?? Am gyfiawnder economaidd?? Rwyt felly yn dweud fod y sefyllfa economaidd presennol, sy'n gadael pobl i brynu tai yng Ngogledd Cymru lle bynnag maent wedi dod o (i.e. marchnad rydd), yn hiliol yn erbyn siaradwyr Cymraeg/pobl lleol - peth ridiculous i'w ddweud.

Nid cyfiawnder yw hawliau pobl i symud lle y maent eisiau, heb y wladwriaeth yn eu stopio?

Chris Castle a ddywedodd:Yntydi'r gwir bod gan Cymuned pwynt cyfiawn sylfaenol, sy'n cael i camddefnyddio gan rhai Cenedlaetholwyr a Lafurwyr i guddio gwendidau eu safbwyntiau eu hunain?


Problem y chwith yw eu bod yn son gymaint am gyfiawnder a rhyddid i bobl, ond yn y diwedd maent am i'r wladwriaeth reoli popeth a rhoi barriers yn erbyn symudiad rhydd. Dim rhyddid yw hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 14 Hyd 2002 9:46 am

Dwi ddim yn ceisio dweud fod pawb o fewn i'r Blaid Lafur yn wrth Gymraeg, ac yn bendant ddim yn dweud fod pob Sosialydd yn wrth-Gymraeg, dwi'n gweld fy hyn fel Sosialydd. Ond gyda agweddau tebyg i Huw Lewis a Llew Smith mae'n ei gwneud hi'n anodd iawn i beidio rhagfarnu'n erbyn pawb yn y Blaid Lafur. Sut wyt ti Chris yn medru aros yn yr un Blaid a phobl megis Huw Lewis a Llew Smith sydd ddim yn unig yn hollol wrth Gymraeg, ond yn wrth-Gymreig.

Os byddai Plaid Sosialaidd Gymreig yn bodoli, mae siawns y byddwn i'n cefnogi y Blaid yna. Ond ar hyn o bryd dim ond un Plaid Gymreig sydd yn bodoli. Dwi'n gobeithio bydd y Ceidwadwyr, y Rhyddfrydwyr a'r Blaid Lafur yn torri i ffwrdd yn gyfangwbl o'r Pleidiau Prydeinig, fel bod modd i bobl benderfynnu yn iawn pa Blaid y maent eisiau eu cefnogi.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Prysor » Maw 15 Hyd 2002 7:33 pm

Mae coloneiddio yn broses. Mae proses yn weledol. O weld proses, mae rhywun yn ymwybodol o'r broses. Wedi dod yn ymwybodol o broses, does ond dau beth all rywun wneud; cyfiawnhau'r broses, neu ei sdopio os yw'n broses anghyfiawn.
O weld coloneiddio'n digwydd o flaen dy lygaid, mae gwneud dim byd yn golygu dy fod yn cyfiawnhau coloneiddio. Dim ond un ffordd o gyfiawnhau coloneiddio sydd; credu bod yr iaith a diwylliant sy'n cael eu disodli yn iaith a diwylliant eilradd.
Mae hynny yn hiliol.
Mae Cymuned yn fudiad gwrth-hiliaeth.

Mae'r farchnad dai ddi-reolaeth yn anghyfiawn oherwydd ei bod, o ran natur a gweithrediad, yn ffafrio'r sawl sydd ar gyflog gwell, ac am ei bod yn ffafrio unigolion breintiedig uwchlaw anghenion cymunedau. Dio'm yn gwneud synnwyr bod prisiau tai ardaloedd di-freintiedig, bregus eu economi, cyflogau isel yn cael eu pennu yn ol economi a chyflogau ardal ffyniannus fel De-Ddwyrain Lloegr. Mae'n creu anghyfiawnder cymdeithasol drwy anghyfartaledd yn y farchnad dai, gan fod un carfan o'r gymdeithas (bobl leol) yn methu cael mynediad iddi.

Mae'r diffyg gwaith a chyflogau isel yn golygu bod bobl leol yn cael eu gorfodi o'u cymunedau oherwydd amgylchiadau economaidd a chymdeithasol neu yn aros a talu hanner eu cyflogau mewn rent, tra mae carfan arall - mewnfudwyr cefnog - yn cael y rhyddid i ddewis ble maent yn byw, heb orfod poeni am gynhaliaeth.

Mae ymyrryd i reoli'r farchnad dai yn weithred sydd yn creu cyfiawnder cymdeithasol. Mae'n gyfiawn, yn gneud synnwyr, ac yn driw i un o elfennau canolog Sosialaeth - creu cyfartaledd.

Lleiafrif bychan iawn o Brydeinwyr sydd gan ryddid i symud i le bynnag y maent yn ddewis. Chafodd y dosbarth gweithiol erioed y cyfle. Maent yn gaeth i'w gwaith, i'w stadau tai, ac i'w amgylchiadau economaidd. Rhyddid lleiafrif breintiedig i fyw yn rhywle y mynnant yw'r 'hawl i symud' mae ein gwrthwynebwyr yn glochdar amdano o hyd.
Beth am fy hawl i i ddewis byw yn fy nghymuned fy hun? Beth am hawliau bobl leol? Beth am hawliau'r gymuned?

Fel mae Chris yn deud, mae Cymuned yn fudiad gwrth-hiliol sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Di-Angen » Maw 15 Hyd 2002 9:30 pm

Prysor a ddywedodd:Mae coloneiddio yn broses. Mae proses yn weledol. O weld proses, mae rhywun yn ymwybodol o'r broses. Wedi dod yn ymwybodol o broses, does ond dau beth all rywun wneud; cyfiawnhau'r broses, neu ei sdopio os yw'n broses anghyfiawn.
O weld coloneiddio'n digwydd o flaen dy lygaid, mae gwneud dim byd yn golygu dy fod yn cyfiawnhau coloneiddio. Dim ond un ffordd o gyfiawnhau coloneiddio sydd; credu bod yr iaith a diwylliant sy'n cael eu disodli yn iaith a diwylliant eilradd.
Mae hynny yn hiliol.
Mae Cymuned yn fudiad gwrth-hiliaeth.

Mae'r farchnad dai ddi-reolaeth yn anghyfiawn oherwydd ei bod, o ran natur a gweithrediad, yn ffafrio'r sawl sydd ar gyflog gwell, ac am ei bod yn ffafrio unigolion breintiedig uwchlaw anghenion cymunedau. Dio'm yn gwneud synnwyr bod prisiau tai ardaloedd di-freintiedig, bregus eu economi, cyflogau isel yn cael eu pennu yn ol economi a chyflogau ardal ffyniannus fel De-Ddwyrain Lloegr. Mae'n creu anghyfiawnder cymdeithasol drwy anghyfartaledd yn y farchnad dai, gan fod un carfan o'r gymdeithas (bobl leol) yn methu cael mynediad iddi.

Mae'r diffyg gwaith a chyflogau isel yn golygu bod bobl leol yn cael eu gorfodi o'u cymunedau oherwydd amgylchiadau economaidd a chymdeithasol neu yn aros a talu hanner eu cyflogau mewn rent, tra mae carfan arall - mewnfudwyr cefnog - yn cael y rhyddid i ddewis ble maent yn byw, heb orfod poeni am gynhaliaeth.

Mae ymyrryd i reoli'r farchnad dai yn weithred sydd yn creu cyfiawnder cymdeithasol. Mae'n gyfiawn, yn gneud synnwyr, ac yn driw i un o elfennau canolog Sosialaeth - creu cyfartaledd.

Lleiafrif bychan iawn o Brydeinwyr sydd gan ryddid i symud i le bynnag y maent yn ddewis. Chafodd y dosbarth gweithiol erioed y cyfle. Maent yn gaeth i'w gwaith, i'w stadau tai, ac i'w amgylchiadau economaidd. Rhyddid lleiafrif breintiedig i fyw yn rhywle y mynnant yw'r 'hawl i symud' mae ein gwrthwynebwyr yn glochdar amdano o hyd.
Beth am fy hawl i i ddewis byw yn fy nghymuned fy hun? Beth am hawliau bobl leol? Beth am hawliau'r gymuned?

Fel mae Chris yn deud, mae Cymuned yn fudiad gwrth-hiliol sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol.


Rwyt ti felly yn dweud bod beth sy'n digwydd yn y Gogledd yn broses arbennig, yn dinistrio ein cenedl. Mae'r un fath o arguments i weld yn llefydd fel Yorkshire a ardaloedd eraill o Lloegr. Ydy hyn yn goloneiddio hefyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan nicdafis » Maw 15 Hyd 2002 9:40 pm

Ydy, fyddwn i'n dweud.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Prysor » Mer 16 Hyd 2002 8:52 am

So, Di-angen, wyt ti, fel Lorraine Barrett, yn deud fod beth sydd yn digwydd yng Ngwynedd, Mon a Ceredigion yn gyfiawn oherwydd ei fod yn digwydd yn Swydd Efrog hefyd?
Typical logic gwleidyddion gwrth-Gymreig - two wrongs make a right.

Am y rheswm hynny, mae sidestepio ac enwi ardaloedd yn Lloegr yn arwydd o ddadleuon bankrupt. Nid yn unig am yr uchod, ond hefyd gan fod y llywodraeth yn caniatau mesurau arbed cymunedau lleol yng Nghumbria a Devon ac yn taflu biliwn o bunnoedd i dde-ddwyrain Lloegr i sicrhau tai i bobl lleol. Ond son unrhywbeth yng Nghymru a mae pob math o gyhuddiadau yn dy erbyn! Pam? Am fod iaith a diylliant y maent eisiau ei wasgu allan o fodolaeth yn bodoli yng Nghymru. Mae hyn yn drosedd yn erbyn dynoliaeth.

Ac arwydd arall o bankrupcy y pwynt am Swydd Efrog - mae iaith leiafrifol yn boboli yng Nghymru. Iaith sydd wedi ei gwasgu o 50% i 18% o'r genedl yn ei siarad, mewn canrif, ac sydd, yn ol y darogan, yn debyg o fod lawr i 10% pan ddaw ffigurau'r cyfrifiad allan mis Chwefror nesaf. Iaith gyda'r hynaf yn Ewrop. Dyma'r cymunedau olaf i siarad yr iaith fel iaith gyntaf. Dani'n son am ddwy fil o flynyddoedd a mwy o hanes.

Gaiff Di-glem a'r coloneiddwyr, y gwrth-Gymreig a'r hiliol a'r ffiaidd hefru ymlaen faint leician nhw - dydio ddim yn mascio'r ffaith eu bod yn fodlon, ac yn hapus, i weld iaith yn cael ei lladd fel iaith fyw, gymunedol. Ethnocide.

Gwadwch y gwirionedd os y mynnwch ond aiff o byth i ffwrdd.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Chris Castle » Sul 27 Hyd 2002 12:15 pm

Di- angen
Mae pobl cyfoethog sy'n defnyddio eu cyfoeth i brynu bob ty mewn ardal gyda Iaith cynhenid sy'n gwrtod siarad yr Iaith 'na ac yn gorfodi'r trigolion i siarad "Iaith (basically) estron" yn hilgwn (tribalists/chauvenists more than racists - dyw Cymraeg ddim gan geirfa glir technegol am faterion hil) Maen nhw'n ymosodol iawn yn y modd maen nhw'n gwthio'r Saesneg i lawr i wthwgau'r siaradwyr Cymraeg. Does dim modd i orfodi pobl i ddysgu Iaith, ond mae modd i'w gwneud hi'n "socially unacceptable" i wrthod yr hawl i siarad Cymraeg yn y Bro Cymraeg.

Efallai wnei di esbonio imi sut y mae'n "cyfartal" neu "deg" bod prisiau rhentio a phrynu tai yn uwch o lawer na'r "means to pay them" yn yr ardaloedd Cymraeg?
mae pris Ty average yn fwy na £110,000
Mae mortage fforddiadwy average i gwpl sy'n gweithio 'na ydy £70/80.000
Mae prisiau rhentio yn warthus hefyd.

"mae hawl 'da pawb byw lle y mynnent"

ti'n dweud.

Wel SUT?
Mae dwy fath o hawl. Positif -sy'n galluogi rhywun i wneud rhywbeth neu negetif - sydd ddim yn eich rhwystro chi rhag gwneud rhwpeth. Fel lot o bobl ar yr adain de, dim ond hawliau negetif sy'n pwysig iti.

Mae rhaid inni adeiladu mwy Tai Cyngor a chael gwared o'r "hawl i brynu, heb gyflenwi pris ty newydd". Bydd hynny yn rhoi hawl positif dros tai i bobl leol. Nid jyst yn y Bro Cymraeg ond ym Mhobman ar draws Prydain - dyna lle dwi'n gwahanol i Genedlaetholwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Prysor » Sul 27 Hyd 2002 2:51 pm

Allai ddim cytuno mwy. Mae'r flagship of the Thatcher years - y cynllun 'Hawl i Brynnu' yn rhywbeth raid cael gwared ohonno. A fel cenedlaetholwr Cymraeg, dwi yn cytuno efo creu cyfartaledd drwy Brydain yn y maes hwn. Ond mae John Prescott wedi deud 'the right to buy is here to stay'. Engraifft arall o'r 'lurch to the right' yn Llafur Newydd.
Mae'n wir i ddeud bod Cenedlaetholwyr Cymreig yn gyffredinol, yn llawer mwy o Sosialwyr na, yn gyffredinol, sosialwyr Prydeinig, heb son am Llafur Newydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Di-Angen » Sul 27 Hyd 2002 3:04 pm

Chris Castle a ddywedodd:Di- angen
Mae pobl cyfoethog sy'n defnyddio eu cyfoeth i brynu bob ty mewn ardal gyda Iaith cynhenid sy'n gwrtod siarad yr Iaith 'na ac yn gorfodi'r trigolion i siarad "Iaith (basically) estron" yn hilgwn (tribalists/chauvenists more than racists - dyw Cymraeg ddim gan geirfa glir technegol am faterion hil) Maen nhw'n ymosodol iawn yn y modd maen nhw'n gwthio'r Saesneg i lawr i wthwgau'r siaradwyr Cymraeg. Does dim modd i orfodi pobl i ddysgu Iaith, ond mae modd i'w gwneud hi'n "socially unacceptable" i wrthod yr hawl i siarad Cymraeg yn y Bro Cymraeg.

Efallai wnei di esbonio imi sut y mae'n "cyfartal" neu "deg" bod prisiau rhentio a phrynu tai yn uwch o lawer na'r "means to pay them" yn yr ardaloedd Cymraeg?
mae pris Ty average yn fwy na £110,000
Mae mortage fforddiadwy average i gwpl sy'n gweithio 'na ydy £70/80.000
Mae prisiau rhentio yn warthus hefyd.

"mae hawl 'da pawb byw lle y mynnent"

ti'n dweud.

Wel SUT?
Mae dwy fath o hawl. Positif -sy'n galluogi rhywun i wneud rhywbeth neu negetif - sydd ddim yn eich rhwystro chi rhag gwneud rhwpeth. Fel lot o bobl ar yr adain de, dim ond hawliau negetif sy'n pwysig iti.

Mae rhaid inni adeiladu mwy Tai Cyngor a chael gwared o'r "hawl i brynu, heb gyflenwi pris ty newydd". Bydd hynny yn rhoi hawl positif dros tai i bobl leol. Nid jyst yn y Bro Cymraeg ond ym Mhobman ar draws Prydain - dyna lle dwi'n gwahanol i Genedlaetholwyr.


Fel gymaint o Sosialwyr, mae'n ymddangos dy fod am i'r wladwriaeth wneud popeth drosto ti - adeiladu tai rhad ayb. Yn bersonol, doeddwn i ddim wedi considro fy hun yn adain dde cyn heddiw?

Dwedodd Clive James rhywbeth da ar Question Time wythnos diwethaf wrth son am y Bali bombing - dwedodd fod acts o terrorism, street violence ayb yn ganlyniad o increased civil liberties, a bod rhaid dewis rhwng "rhyddid", a derbyn popeth sy'n dod ohono, megis crime, colli diwylliant, cymunedau ayb, neu byw mewn cymdeithas regimented, lle mae'r wladwriaeth/hedllu/authorities gyda llawer mwy o bwer, ac efallai yn creu cymdeithas glanach, ond gyda pris rhyddid.

Mae Chomsky yn gwneud yr un gymhariaeth mewn un llyfr (sori ddim yn cofio pa un - tua 5 mlynedd yn ol ddarllenais i fe - mae'n ddiddorol i'w ddarllen beth bynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron