Yn y cylchgrawn Saesneg PLANET, mae Patrick MacGuinnes wedi ymddangos y modd y mae Welsh Mirror yn defnyddio dull o "conflating" geiriau a'u "spin" eu hunain gyda geiriau Aelodau Cymuned a Phlaid Cymru, i'w galw nhw'n ffasgaidd. Dull y mae di-angen wedi llyncu'n llwyr.
Ond eto, wnaeth Sion Jobbins yn defnyddio'r un dull i ymosod arnaf i yn yr un Cylchgrawn, am ddweud yr un pethau dwi wedi dweud ar y fforum yma.
Roedd e'n "conflating" plaid Lafur, mudiad lafur, a sosialwyr i ymddangos y mae plaid lafur yn "wrth-Gymraeg". Weithiau mae gan Hedd teuddiadau tebyg i hyn.
Felly ydy'r dull yna yn derbnyniol i hybu'ch syniadau chi? Neu anerbynniol ar gyfer pawb?
Ydi Di-Angen yn deall safbwynt CYMUNED o gwbl? Sut y mae Cymuned yn Ffasgwyr? Aelod ydw i, sydd wedi cyfrannu i'r Safle-We Saesneg i ddangos y mae brwydr CYMUNED yn rhan o frwydr gwrth-hiliol am gyfiawnder economaidd. Ydw i'n ffasgwr?
Yntydi'r gwir bod gan Cymuned pwynt cyfiawn sylfaenol, sy'n cael i camddefnyddio gan rhai Cenedlaetholwyr a Lafurwyr i guddio gwendidau eu safbwyntiau eu hunain?