---
95% - na, dim ffigwr pendant, dim ond mhynd yn ôl yr hyn rwy'n ei glywed gan rai sy'n byw ym Mhantycelyn nawr, a rhai oedd yn arfer byw ma.
---
Anghytuno bod hyn yn petty. Os chi'n derbyn swydd, wedyn mae na rai dyletswyddau'n dod yn sgil hynny. Iawn, falle nad oedd hyn ar y swydd-ddisgrifiad, ond ma dyletswyddau a thraddodiadau'n bwysig. Ond sdim llawer o ots, achos bydd y cinio'n parhau beth bynnag.
---
Dim lle Pwyllgor Pantycelyn yw rhoi barn ar ba fyfyrwyr ddylai fod yma neu beidio ar sail gallu. Os oes gan fyfyrwyr Panty unrhyw sylwade i wneud, ma coreso iddyn nhw drafod gyda'r pwyllgor, fel sydd yn digwydd. Dyna pam y cawsom ni'n hethol i'n swyddi.
---
Eleni, mae tua 20 cadair wedi eu torri. Y mwya erioed, mae'n debyg. Hollol hurt, wrth gwrs. Ond mae hyn yn rhyw fath o adlewyrchiad ar y diffyg parch a diffyg adnabod sy di bodoli leni rhwng y tim wardeinio a'r myfyrwyr. Petai'r un parch a'r un adnabod wedi bodoli leni ag sydd wedi bod yma dros y blynyddoedd, fydde tipyn yn llai o gadeirie a dryse wedi malu, rwy'n siwr. Peth arall, mae cadeirie lolfa Panty yn hen ac yn rhacs beth bynnag, a dyw hi ddim yn cymryd llawer i'w torri. Ie, y ffigwr 3 dan sylw wy'r rhai sy'n malu pethau. Fi sy'n dychmygu'r ffigwr hwn. Tybiaf bod y gwir ffigwr rywle rhwng 2 a 10.
---
Iawn, mae na rai sy di cael dirwy am dorri drysau, ond dydyn ni ddim yn cwyno am rhain. Os oes rhywun yn cael ei ddal yn malu rhwybeth, too right dyle nhw dalu amdano fe. Y pwynt o'n i'n wneud oedd bod digon o le 'da ni i gwyno, gan nad ni sy di malu'r cadeirie.
---
Falle bod hi'n bryd i ti daflu dy rawnwin sur i'r bin, a phrynu banana ffres.