Dyn Gwyn Gwirion a ddywedodd:Dwi ddim isio dumbio fy mhersonoliaeth lawr i ffitio mewn
Ti'n bod yn ofnadwy o ignorant rwan os ti'n awgrymu dy fod ti'n well na'r mwyafrif ona ni.
Dyn Gwyn Gwirion a ddywedodd:dwi ddim isio gwisgo crys rygbi efo glasenw ar y cefn, dwi ddim isio bangio ffyrc ar y bwrdd yn y ciniawau bondigrybwyll, dwi ddim isio canu yn y Cwps, dim achos dwi'n anti-social, ond mai dim dyna'r math o foi ydw i.
Digon teg, jysd paid a gwylltio efo ni'r rhei sy yn. (Er, dwi'm yn licio'r bangio ffyrc yn y ciniawa chwaith.)
Dyn Gwyn Gwirion a ddywedodd:Os dwyt ti ddim yn dallt pam, wnei di byth wneud mae'n debyg, ac mae hwnna'n ddigon teg, ond dwi ddim yn licio pobl yn gweld bai arna i am beidio gwneud. O fy sabwynt i, mwyafrif myfyriwyr (a staff) Pantycelyn sydd ddim yn gallu dallt fod pawb yn wahanol.
Dwi'm yn meddwl bod hyn yn wir o gwbwl, dim yn fy nghriw i beth bynnag. Dwi'n meddwl bod chdi jysd yn paranoid.