gan Iwan Rhys » Iau 19 Mai 2005 5:13 pm
Fi yw Is-Bennaeth Pwyllgor Myfyrwyr Neuadd Pantycelyn. Oes, ma tipyn o ffwdan 'di bod ma, i ddweud y lleia. Ma'r stori yn Golwg braidd yn gachlyd, i fod yn onest.
Dyma beth sy wedi digwydd o ran y cadeirie:
Cafodd 4 cadair eu torri ar y nos Fawrth cyn yr etholiad cyffredinol, a'r diwrnod wedyn penderfynodd y Warden newydd symud gweddill y cadeiriau o'r lolfa a'u cloi (yn y selar, fi'n credu).
Cafwyd cyfarfod pwyllgor neuadd ar y nos Fercher, a gwahoddwyd y Warden ac un o'r Is-Wardeiniaid i'r cyfarfod. Gwnaed yn glir bod y pwyllgor yn gryf yn erbyn y penderfyniad o symud y cadeiriau, ond ni chymerwyd sylw o hyn gan y tîm wardeinio.
Hollol hurt ac anheg yw cosbi 260 o fyfyrwyr ar sail gweithred ambell unigolyn.
Yn gyffredinol, mae'r is-wardeiniaid wedi bod yn gymharol anweledig yn ystod y flwyddyn academaidd. Rwyf i'n gwybod pwy ydyn nhw gan i mi eu cyfarfod nhw ar ddechrau'r flwyddyn yn rhinwedd fy swydd fel Is-Bennaeth y Pwyllgor, ond mor ddiweddar â phythefnos yn ôl doedd tua tri chwarter y myfyrwyr ddim yn gwybod pwy oedd yr is-awrdeiniaid.
Sai ishe bod yn bersonol, achos rwy 'di dod mlaen yn iawn 'da'r rhan fwya ohonyn nhw, ond fel un sy'n cymysgu gyda myfyrwyr Panty, dyna'r ymateb cyffredinol oeddwn i'n clywed.
Roedd y Warden newydd di bod yn byw ma ers 4-5 wythnos heb iddi gylfwyno ei hunan i'r myfyrwyr (heblaw am y rhai sydd ar y pwyllgor), ond roedd hi dal yn mynd rownd yn rhoi dirwyon allan i fyfyrwyr am neud swn yn "oriau mân y bore" (aka 1 y bore). Dychmygwch fod yn fyfyriwr 20 oed, wedi bod mas yn cael peint neu ddau (!) yn dod nol i'ch cartre (Panty) dan ganu, ac yn gweld menyw ganol oed hollol ddieithr yn dod atoch chi ar y coridor, yn rhoi stwr/row i chi, ac yn rhoi dirwy o £50 i chi! Ma'r peth yn hollol hurt.
Y myfyrwyr, yn y diwedd, benderfynodd alw cyfarfod neuadd i ni gael cwrdd â'r Warden newydd a'r is-wardeiniaid (eitha doniol/trist oedd gweld yr is-wardeiniaid yn cyflwyno eu hunen ar ôl bod yma am 9 mis!). Lleisiwyd y farn yn gryf gan nifer fawr o'r myfyrwyr nad yw hi'n deg dwyn y cadeiriau oddi wrthym, a ninnau heb wneud dim yn anghywir. (tybiaf yn gryf nad yw'r rhai sy'n torri cadeiriau yn "boddyrd" i droi lan i gyfarfod neuadd).
Galwyd y mater yn "fater cymharol ddibwys" gan un o'r is-wardeiniaid. Digon hawdd iddo fe siarad - ma ganddo fe ei lolfa fach ei hun. Nid mater dibwys yw hyn o gwbwl. Hwn yw'n cartre ni, a'r lolfa fawr yw canolfan ein cymuned ni.
Ar hyn o bryd, mae'r rhai sydd yn mynd i'r lolfa yn gorfod eistedd ar lawr. Yn waeth yw'r ffaith bod nifer fawr bellach yn cadw draw o'r lolfa, ac mae'r gymuned yn chwalu.
Mae'n hollol wir bod angen Warden ar Bantycelyn sydd ond yn warden ar Bantycelyn. Ac mae angen tîm cryf o is-wardeiniaid sydd yn ymdreiddio i'r gymuned.
Mae'r Warden newydd am i'r myfyrwyr allu mynd at un o'r tîm wardeinio i siarad os oes problem. Iawn. Ond i wneud hyn, mae angen bod y tim wardeinio a'r myfyrwyr yn
(i) adnobod ei gilydd, a
(ii) parchu ei gilydd.
Credaf bod camau disgyblaethol y Warden newydd wedi troi'r myfyrwyr a'r tim wardeinio yn erbyn ei gilydd, ac mae cryn dipyn o atgasedd yn bodoli.
Fe allwn i fynd yn bersonol iawn, gan sôn am briofiadau personol, ond wna i ddim o hynny. Fe wna i setlo ar ddweud 'mod i'n credu bod agwedd gyffredinol y Warden newydd at 270 o fyfyrwyr 18-22 oed yn hollol amhriodol, anheg ac anghywir.
Yn y cyfamser, mae myfyrwyr sy'n talu £2,800 i fyw 'ma, yn gorfod eistedd ar lawr i ddarllen papur neu wylio teledu yn y lolfa fawr. Dim ond pythefnos a hanner sydd ar ol o'r tymor, a bydd myfyrwyr y drydedd, sydd wedi talu £8,400 i fyw ma am dair blynedd, yn gadael gyda blas cas iawn yn eu cegau.
Dyna eitha digon o rant am nawr, rwy'n credu!
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.