Cymedrolwr: Mr Gasyth
Cwlcymro a ddywedodd: Dyna ydi coleg fod, sud uffar da chi'n fod i fwynhau eich hunain os ydi unryw swn ar ol 1am yn dod a ffein (o £50! )?
Pioden_Wen a ddywedodd:Sori Selador ond dwyt ti'n gwybod dim! Dwi wedi bod yn byw yma ers 2 flynedd heb broblem o gwbwl - yn ddiweddar mae pawb yn cael ffrae a dirwy am bethau hollol ddiniwed!! Os wyt ti yn gweld Pantycelyn yn anioddefol mae'n debyg mae ffael ynot ti ydi hyn a ddim ym Mhantycelyn!! Mae'n debyg dy fod yn un o'r rhain sydd yn hollol anweledig i bawb sydd ym Mhantycelyn a does neb yn gwybod pwy wyt ti gan dy fod wedi anwybyddu bywyd cymdeithasol Pantycelyn yn llwyr. Mae pawb arall wrth eu boddau yma! Dydw i ddim yn meddwl fod y warden newydd yn deall teimlad Pantycelyn yn iawn eto...mae hyn yn hollol amlwg.
Come on Panty...ddown ni dros hyn debyg!!
Creyr y Nos a ddywedodd:Cwlcymro a ddywedodd: Dyna ydi coleg fod, sud uffar da chi'n fod i fwynhau eich hunain os ydi unryw swn ar ol 1am yn dod a ffein (o £50! )?
Yn union. Wyt ti'n gallu dychmygu dod nol yn feddw gach i lle ti wedi talu crocbris am fyw, (lle ma'r gwasaneth wedi ei gwtogi heb gwtogiad mewn pris), a mynd ar flaena dy draed yn dawel bach i dy stafell? Ma cadw'n hollol dawel pan chi'n ffwcd yn hollol amhosib.
dave drych a ddywedodd:Creyr y Nos a ddywedodd:Cwlcymro a ddywedodd: Dyna ydi coleg fod, sud uffar da chi'n fod i fwynhau eich hunain os ydi unryw swn ar ol 1am yn dod a ffein (o £50! )?
Yn union. Wyt ti'n gallu dychmygu dod nol yn feddw gach i lle ti wedi talu crocbris am fyw, (lle ma'r gwasaneth wedi ei gwtogi heb gwtogiad mewn pris), a mynd ar flaena dy draed yn dawel bach i dy stafell? Ma cadw'n hollol dawel pan chi'n ffwcd yn hollol amhosib.
Efallai un o'r rhesymau i'r warden newydd 'ma symud y cadeiriau allan o'r Lolfa a cosbi pobl am fod yn swnllyd yw'r ffaith fod ei fflat hi drws nesa i'r Lolfa. Mae hi a'i gwr a dau o blant ifanc yn byw yn Pantycelyn, lle mae swn o'r Lolfa a gweddil y neuadd yn hawdd i'w glywed ac yn cadw'r plantos yn ddeffro yn ystod y nôs. Dydi Pantycelyn ddim yn lle i fagu plant bach ddiniwed yng nghanol 260 o fyfyrwyr meddw. Mae'r lle yma'n gartref ini hefyd ac rydym yn talu (over the odds) i aros yma.
Selador a ddywedodd:Os mai'r ddelfryd o deulu cymunedol o fewn eich neuadd yw'ch syniad o fywyd mewn Neuadd Breswyl, mae'n bryd ichi sylwi syd fyd dani'n byw ynddo fo.
Selador a ddywedodd:Bedi pwynt pwdu achos bod y warden ddim yn dwad i'r cinio? Pam eich bod chi'n poeni am hyn?
Selador a ddywedodd:Problem fwya Pantycelyn ydi'r myfyrwyr eu hunain, mae'r rhan fwyaf yn benau bychain hollol fabiaidd sy'n anfodlon cymeryd unrhyw gyfrifoldeb dros unrhywbeth ac yn disgwyl i bobl eraill blygu i'w dymuniadau nhw trwy'r adeg.
Selador a ddywedodd:Malu cadeiria - a wedyn cwynno eu bod nhw'n eu tynnu nhw o na.
Selador a ddywedodd:Difrodi eiddo - a cwynno am y ffein.
Selador a ddywedodd:Wedi byw ym Mhantycelyn am 4 mis, wedyn symyd ona oherwydd bod y lle mor annioddfol, gallaf ddeud modi'n synnu dim at agwedd ddirmygus y warden newydd tuag at y lle.
Iwan Rhys a ddywedodd:Selador a ddywedodd:Os mai'r ddelfryd o deulu cymunedol o fewn eich neuadd yw'ch syniad o fywyd mewn Neuadd Breswyl, mae'n bryd ichi sylwi syd fyd dani'n byw ynddo fo.
Ond ma rhyw lun ar y ddelfryd ma wedi bodoli ym Mhantycelyn ers 30 mlynedd. Mae'n gweithio, ac mae 95% o'r rhai sy di bod ma dros y 30 mlynedd yn dweud mai eu blynyddoedd ym Mhantycelyn oedd blynyddoedd gorau erioed. Os yw hyn wedi llwyddo yn y gorffennol, pam newid pethau nawr?
Iwan Rhys a ddywedodd:Selador a ddywedodd:Bedi pwynt pwdu achos bod y warden ddim yn dwad i'r cinio? Pam eich bod chi'n poeni am hyn?
Achos ers y cychwyn cynta, mae 'di bod yn draddodiad bod y Warden a'i wraig/gwr/partner yn eistedd wrth y bwrdd ucha, ac ma gan y Warden rôl llywydd yn y cinio - croesawu pawb, dweud bendith, cyflwyno'r gwahoddedigion, canu ar ben y bwrdd (dewisol) ayyb.
Dydyn ni ddim yn poeni'n ormodol, achos neith y cino fynd ymlaen heb y Warden. Pwyllgor y Neuadd sy'n trefnu'r cinio, a bydd hwn yn ginio cystal ag erioed, gewch chi weld.
Iwan Rhys a ddywedodd:Selador a ddywedodd:Problem fwya Pantycelyn ydi'r myfyrwyr eu hunain, mae'r rhan fwyaf yn benau bychain hollol fabiaidd sy'n anfodlon cymeryd unrhyw gyfrifoldeb dros unrhywbeth ac yn disgwyl i bobl eraill blygu i'w dymuniadau nhw trwy'r adeg.
Celwydd llwyr. Dim ond 4 mis wnest ti fod ma. Rwy di bod ma am 3 blynedd, ac rwy'n nabod y rhan fwya o fyfyrwyr Pantycelyn. Mae dy ddisgrifiad di yn ffitio i tua 3 pherson. Mae'r geirie "grawnin sur" yn dod i'r meddwl, Selador, . . .
Iwan Rhys a ddywedodd:Selador a ddywedodd:Malu cadeiria - a wedyn cwynno eu bod nhw'n eu tynnu nhw o na.
Nid y bobol a falodd gadeirie sy'n cwyno. Y mwyafrif llethol nad ^ynt yn malu cadeirie sy'n cwyno. Rhywun fel fi, sydd erioed wedi talu £2,800 am fyw ma eleni, sydd heb falu cadair erioed, ac sydd am rywle cyfforddus i eistedd.
Iwan Rhys a ddywedodd:Selador a ddywedodd:Difrodi eiddo - a cwynno am y ffein.
Does dim dirwyon wedi cael eu rhoi am ddifrodi eiddo, dim ond am wneud swn, a bod yn haerllug, a pheidio mynd allan adeg larwm dân ayyb
Iwan Rhys a ddywedodd:Selador a ddywedodd:Wedi byw ym Mhantycelyn am 4 mis, wedyn symyd ona oherwydd bod y lle mor annioddfol, gallaf ddeud modi'n synnu dim at agwedd ddirmygus y warden newydd tuag at y lle.
. . . . . grawnwin sur . . . . .
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai