Twmffat, ma dy agwedd di braidd yn naîf, i ddweud y lleia.
Wrthgwrs mae na wahanol deip o bobol ym Mhantycelyn, fel sy na mewn unrhyw gymuned/gymdeithas. Mae'n amhosib rhannu pawb mewn i 2 grwp felna, a'u stereoteipo nhw'n llwyr.
Ti'n gweud lot o sens, Maneg Werdd. Ma'r rhan fwya o'r rhai sy'n mynd drwy Panty y datblygu fel cymeriad, ond anamal ma rhai yn newid yn llwyr (er fod na rai).
I ategu beth ddwedodd Maneg Werdd eto, ma mynd allan rownd tafarne yn rhan weddol bwysig o'r cymdeithasu sy'n mynd ymlaen 'da pobol Panty (ac ex-panty sy'n byw yn y dre), ond ma llawer mwy na hynna hefyd. Ma tim rygbi, tim pel droed, tripiau rygbi unwaith y flwyddyn, cymdeithas lenyddol, undeb cristnogol, cor (cymysg, merched, bechgyn), danwsio gwerin, cwis y geltaidd, cinio nadolig, cinio gwyl ddewi, cinio diwedd blwyddyn, ayyb. Heb son am wneud eich trefniade eich hun i gymdeithasu h.y. mynd allan / sinema neu rywbeth ad hoc.
Selador,
Hefyd, ti'n dweud mae'ch pwyllgor chi sy'n gyfrifol am fyfyrwyr Pantycelyn, a dy fodi'n ymwybodol o rhwng 2 a 10 o bobl sy'n malu pethau yn eithaf aml (Pob un o'r rhain wedi malu rhwng 2 a 10 cadair yr un yn ol dy ffigyrau di). Pam wnewch chi ddim darganfod pwy yw'r rhain a'i disgyblu?
(i) nid y ni sy'n gyfrifol amdanyn nhw. Ni di cael ein hethol i'w cynrychioli nhw.
(ii)all rhywun o'r pwyllgor neuadd, na'r tim wardeinio ddim bod yn bresennol yn y lolfa/coridorau drwy'r amser, felly mae'n anodd gwybod yn union pwy sy'n torri beth. Felly allwn ni ddim dechrau dirwyo pobol jyst achos eu bod nhw di neud rhwbeth tebyg yn y gorffennol.
Pam na allwn ni ddarganfod pwy yw'r rhain . . ? Ry' ni wedi trio darganfod, ond heb lwyddo. Ry'm ni'n gwthio i gael camera diogelwch yn y lolfa (ac roedd y mwyafrif llethol yn y cyfarfod neuadd yn cytuno), fel y gellir, yn y dyfodol, cosbi'r rhai euog yn unig, a nid y di-euog. Gyda camera yn y gornel, credaf y bydd llawer llai o bethau'n cael eu malu beth bynnag. Mae'n drist bod hyn yn gorfod digwydd, ond mae'n decach na chosbi pawb.
Symyd i ffwrdd o'r pwynt penodol yma braidd, ond ffars y'w teulu Pantycelyn ma dachin son amdano drwy'r adeg. Mae rhyw 20 o bob blwyddyn yn ran ohono, lle mae gweddill y preswylwyr?
20? allan o 270? na, sori boi, ond ti'n anghywir. Fel ddwedest ti, dim ond 4 mis fuest ti ma. Rwy di bod ma am dair blynedd. Dyw e ddim yn un teulu mawr o 270, full stop, nadi. Mae'n ffigwr rhy fawr. Mae'n gymuned o 270, ac o fewn y gymuned, ma na grwpiau o ffrinide, gyda gwahanol gysylltiade rhwng y grwpie - cariadon, gwneud yr un pwnc, aelod o'r un cor, ayyb. Ma llawer mwy na 20 yn "nheulu" pantycelyn.
Wedi dweud hyn ma'r gair "clici" yn gallu ffitio wrth ddisgrifio pantycelyn yng nghyd-destun myfyrwyr aber i gyd.
Ramirez ddwedodd:
dwi di siarad efo lot o bobol sy'n honni mai symud allan a ffendio ty odd y peth gora nathonw yn coleg.
Hollol wir, mae'r rhan fwya (nid pawb) rwy'n nabod sy di byw ym Mhanty am flwyddyn neu ddwy neu dair cyn symud i'r dre yn dweud mai symud i'r dre oedd y peth gore nethon nhw. Ond rwy'n tybio na fyddai braidd neb o'r rhain yn dyfaru dod i Bantycelyn i ddechrau, cyn symud i'r dre. Mae dod i Bantycelyn gynta yn rhoi llawer mwy o gyfle i chi ddod i nabod llawer mwy o bobol. Wedyn erbyn yr ail/drydedd flwyddyn, rych chi di setlo, yn gwbod eich ffordd rownd, yn gwbod pwy yw'ch ffrindie ac felly'n gallu trefnu i fyw mewn ty gyda nhw ayyb. Os byddech chi'n mynd i fyw mwen ty yn syth, falle na fyddech chi'n dod mlan gyda'r rhai sy'n byw 'da chi, fydech chi ddim yn dod i nabod gymaint o bobol mor hawdd, a fyddech chi ddim yn dod i wybod mor hawdd ynglyn â gwahanol gymdeithasau / gigs / cyfarfodydd / umca ayyb.
Gyda llaw, rwy'n mynd i fyw mewn ty yn y dre y flwyddyn nesa, ac rwy'n methu aros!
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.