Tudalen 1 o 6

Diwedd Pantycelyn???

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 4:27 pm
gan gesiwch pwy!
RHYBUDD!!! Ma yna argyfwn ym Mhantycelyn!! Dylai hyn fod o bryder i fyfyrwyr presennol y neuadd, a'r rhai hynny a fu'n byw yno ar hyd y blynyddoedd.

Mae'r neuadd wedi cael warden newydd, sy'n ymddwyn fel 'Hitler'! Mae'r cadeiriau wedi eu dwyn o'r lolfa (o dan ei chyfarwyddyd hi), wedi i cadeiriau cael eu tori rhyw noson. Wrth gwrs mae tori cadeiriau yn beth ofnadwy yw wneud, a dylid sicrhau nad yw hyn yn parhau- OND nid yw cosbi pawb sy'n byw yn y neuadd yn deg!!!

Yn ogystal a hyn, mae'r warden newydd yn fwy na pharod i roi dirwyon allan i fyfyrwyr tlawd!! Mae lleisio barn yn cael ei ystyried yn ymddygiad 'haerllyg' ac 'bygythiol'- ble mae'r warden ar rai achosion yn rhoi dirwy o £50!!!!! GWARTHUS!!!!!!!!!!!!! Mae hi hefyd yn fwy na pharod i ddefnyddio'r bygythiad o daflu myfyrwyd o'r neuadd yn rhy barod, nid yw hyn yn deg yn ystod adeg arholiadau, mae gan y myfyrywr ddigon yw boeni amdano yn ystod y cyfnod yma!

Mae'r sefyllfa yn gyffredinol yn argyfyngus!!! Mae nifer o'r tim wardeinio yn anfodlon hyd yn oed bwyta yn y ffreutyr gyda'r myfyrwyr- mae'r gymdeithas wych a oedd yn bodoli yno yn y gorfennol yn diflanu, a credaf mai dyma yw bwriad y coleg- mae yna nifer 'wrth Gymreig' sy'n uchel yn y coleg yn erbyn bodolaeth Pantycelyn!!!

Rwy'n argymell i bawb sy'n pryderu am ddyfodol y neuadd hanesyddol yma ebostio'r coleg.

accommodation@aber.ac.uk

i son am eich pryderon am ddyfodol y neuadd!!

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 4:46 pm
gan Manag Werdd
Dwi'n gwbod, ma'n disgrês - dwi'n teimlo'n falch bod fi'n gadal diwadd y flwyddyn, sy'n biti achos dwi di cal dau flwyddyn superb yma cyn i'r warden newydd gyradd. Ar y funud, mae o fatha bod nol yn Glan Llyn neu rwbath efo warden nos yn dod rownd i roi row i ni am neud swn. Ma'n jôc i ddeud y gwir.

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 5:46 pm
gan Clebryn
Mae'r sefyllfa bresenol yn dor-calonnus! Mae'r gymdeithas iach oedd unwaith yn bodoli wedi'w chwalu, ac atgasedd na dystiwyd ar y fath raddfa o'r blaen wedi datblygu rhwng y myfyrwyr a'r tim wardeinio!

Dwi innau'n falch fy mod yn gadael y neuadd ac yn mynd ar daith gyfnewid i Ganada flwyddyn nesa!

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 6:13 pm
gan Ramirez
mater o amser ydi hi i'r warden newydd gyfaddawdu. sgyni hi ddim dewis. dio'm yn fatar poeni o bell ffordd.

argyfwng my arse. anwybydda hi a mi ddaw at ei choed.

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 8:55 am
gan Selador
Ella sachi'n bihafio fysa na'm raid iddi roi dirwyon ichi'r myfyrwyr bach dan-din.

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 9:04 am
gan Cwlcymro
Gatha ni ddirwyon werth dros £200 yn Senghengydd flwyddyn gynta hefyd, efo rhybudd na chawn ni'n gradd heb dalu. Ond gen "Hitler" bos y pobl llnau oedd hunna, doesna'm warden yna. Natha ni jusd deutha hi fod ni'n gwrthod talu a dyna odd ei diwadd hi.

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 12:03 pm
gan Manag Werdd
Selador a ddywedodd:Ella sachi'n bihafio fysa na'm raid iddi roi dirwyon ichi'r myfyrwyr bach dan-din.


Ma'r rhan fwya ona ni yn bihafio ddo, ond ma hi'n disgwl i ni fihafio fel plant bach - dim swn ar ol 10 a betha. Ma angan iddi ddalld bod ni yn fyfyrwyr, a bod ni yn mynd allan weithia, a bod ni yn dod nol wedi meddwi. Tra bod malu cadeiria yn annerbyniol, ma'i chlust hi i swn yn lot mwy sensitif nag oedd un Alan Edwards. A ffeinio pobol am anghytuno efo hi yn y cyfarfod?! :x

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 12:33 pm
gan Del
Mae 'na sawl peth yn mynd drwy'r meddwl...

1. Mae'r syniad o Neuadd Pantycelyn fel teulu wedi dirywio.

(i) Mae 'na ddirywiad wedi bod yn y ffordd y mae Panycelyn yn cael ei wardeinio yn ystod y tair blynedd ddiwetha'. Dwi ddim yn 100% siwr o bopeth sy'n mynd mlaen yna nawr, ond mae 'na ailstrwythuro wedi bod yn y tim wardeinio ers i'r Dr Geraint Evans adael - h.y. does 'na bellach ddim 1 warden (a hynny ar Bantycelyn yn unig) ond yn hytrach mae 'na warden sy'n ceisio gofalu am hanner dwsin o neuaddau, os nad mwy. (Ai felly y mae hi eto gyda'r wraig sydd newydd ei hapwyntio?) Mae synnwyr cyffredin yn dweud fod angen un person i fod yn Warden ar Bantycelyn - un sy'n fodlon ymroi yn llwyr i anghenion myfyrwyr y Neuadd. Ac fel rwy'n deall dyw'r system Dirprwy Warden a dau Is-Warden ddim yn bod chwaith, ond yn hytrach mae 'na enwau gwahanol ar y jobsys hynny. Digon posib felly nad yr un peth yw eu dyletswyddau nhw a phan o'n i'n aelod o'r tim wardeinio.

(ii) Mae 'na ddirywiad hefyd yn narpariaeth y ffreutur, o beth rwy'n ei ddeall gan rai. Efallai fod safon y bwyd wedi gwella, ond does dim cinio dydd Sul yn cael ei ddarparu bellach - ydw i'n iawn? Ta beth mae neb yn ei ddweud - galwch fi'n hen ffasiwn - ond mae diddymu'r cinio dydd Sul yn arwydd o ddirywiad.

Felly, o gyfuno ffactorau (i) a (ii) mae'r syniad o deulu agos a chymunedol mewn perygl. Eto, efallai y byddwch yn credu fy mod i'n gul ac yn hen ffasiwn, ond mae 'na ryw angen mawr ar fyfyrwyr sy'n dod o'u cartrefi am y tro cyntaf i gael maldod ac anogaeth a chysur. Ac fel oedd pethe tan rhyw dair blynedd yn ol, roedd y gofal a'r consyrn hwnnw ar gael. Sut wy'n gwybod am yr anghenion yma? Wel, fe ges i'r fraint o fod ar y tim wardeinio, ac roedd pobol YN dod ata'i gyda'u problemau. Roedd (rhai) myfyrwyr yn edrych ar y tim wardeinio fel brodyr/chwiorydd hyn - wel, fel'ny roedd pobol 'da fi 'no, ond efallai mai fi oedd yn rhy sofft!! :winc: Does 'na neb yn rhy hen nac yn rhy ifanc i fod eisiau byw o ffewn fframwaith sefydlog, ac rwy'n ofni fod Pantycelyn mewn perygl o golli'r fframwaith hwnnw.

2. Efallai oherwydd y dirywiad yn y sylfeini a'r fframwaith deuluol, rhaid inni gyd gydnabod ein bod ni'n byw mewn oes lle y mae moesau ar chwal. Mae pobol yn credu y ca'n nhw wneud fel y mynnan nhw; dyna sy'n arwain rhai at wneud pethe dwl fel malu cadeiriau. Pwy yn ei iawn bwyll sy'n gwneud peth mor ddwl?! Ac felly, mae angen disgyblaeth. Cymdeithas ar chwal yw cymdeithas heb reolau. Ond mae angen i'r rheolau fod yn rhesymol ac yn ddoeth, wrth gwrs.

Ond hyd yn oed wedi rhoi fy meddyliau ar bapur (ok, sgrin) a rhesymu'r peth fel hyn, does gen i ddim atebion pendant ... oni bai ein bod ni'n cael Geraint Evans, Trystan Lewis a finne nol ar y tim wardeinio! :winc: Na, o ddifri, rwy'n credu mai'r peth pwysig fan hyn yw PARCH. Ac mae angen parch gan y ddwy ochr - mae angen i'r warden (a'r tim wardeinio yn gyfan, yn ogystal a gweddill y staff gweinyddol / porthorion / glanhau / cegin) ddangos parch a chonsyrn at y myfyrwyr, ac mae angen i'r myfyrwyr barchu'r staff. Fel y mae hi ar hyn o bryd, rwy'n credu fod y parch angenrheidiol hwnnw ar goll. Peidiwch a digalonni, serch hynny - mae'n siwr wedi i'r corwynt 'ma fynd heibio, ac wedi i'r Warden newydd ddangos pwy yw'r bos, efallai y gwellith pethe. A threiwch chi'r myfyrwyr beidio a rhacso pethe - ie, rwy'n gwybod mai carfan fechan iawn yw'r drwg yn y caws; fel'na mae hi wedi bod erioed!

Pob dymuniad da ichi i gyd.
Delyth

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 12:47 pm
gan kamikaze_cymru
di'r warden ddim yn planio dod i'r cinio diwedd blwyddyn chwaith. dim yn ddiwedd y byd, ond ella yn dangos ei hagwedd tuag at y neuadd.

o be dwi'n ddallt, ma hi'n wardeinio dau neu dri neuadd arall, bosib fod Llanbadarn Fawr i gyd dan ei goruchwyliaeth.

dwi'm yn meddwl fod na obaith caneri i gael y cadeiriau yn ol chwaith. blaw fod o di digwydd heb fi sylwi.

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 1:27 pm
gan Cwlcymro
Del a ddywedodd:mae 'na ryw angen mawr ar fyfyrwyr sy'n dod o'u cartrefi am y tro cyntaf i gael maldod ac anogaeth a chysur.


Oesna? Ma myfyrwyr colega erill yn gallu dod mlaen heb unrhyw fath o warden i'w cysuro na ffreutur i goginio iddy nhw ar unrhyw ddiwrnod.

Kamikaze a ddywedodd:dwi'm yn meddwl fod na obaith caneri i gael y cadeiriau yn ol chwaith.


:drwg: Lle dwi fod i gysgu adag Rhyng Gol ta?