Digwyddiad fod hyd yn oed ymysg y
trendi lefti intelligensia sy'n sarthu ar ryddid yr unigolun byth a hefyd (geiriau addas
y gath i'w disgrifio) sydd i weld yn drwch 'ma ar Faes-e yn mynd i gytuno gyda thriniaeth y gwr 'ma o ardal Aberystwyth. Wedi meddwl amdano'r Maeswyr hyn, dwi ddim mor siwr.
Bydde'r swyddogion isod yn gartrefol iawn yn rhengoedd y Stasi.
Talu'n ddrud am ysmygu mewn fan
Dirwy o £30 am ysmygu yn ei weithle
Mae peintiwr wnaeth danio sigarét yn ei fan ei hun wedi cael dirwy o £30 am ysmygu yn ei le gwaith.
Cafodd Gordon Williams, 58, ei stopio gan swyddogion Cyngor Ceredigion a'i ddirwyo.
Dywed i'r swyddogion ddweud wrtho fod ei fan yn cael ei ystyried yn rhan o'i weithle.
Yn ôl Mr Williams, sy'n smocio 10 sigarét y dydd, roedd ar ei ffordd i brynu te pan gafodd ei stopio yn Llanbadarn Fawr.
Cafodd teithiwr arall oedd yn y car gyda Mr Williams hefyd ddirwy o £30 am dorri'r gwaharddiad ar ysmygu.
'Defnydd preifat'
"Dyw'r fan ond wedi ei yswirio ar gyfer defnydd preifat, ac i fynd nôl a blaen i'm gwaith.
"Wy'n peintio a phapuro tai - ddim cerbydau.
"Wy'n methu â deall sut bod nhw'n gallu rhoi dirwy am smocio yn y gweithle."
Dywed Mr Williams, o Lanafan, ger Aberystwyth, ei fod yn cefnogi'r gwaharddiad ac na fyddai'n ysmygu ym mhresenoldeb eraill.
Eithriadau
"Ond byddwn am gael yr hawl a'r rhyddid i smocio yn fy ngherbyd fy hunan."
Mae'n bwriadu apelio yn erbyn y ddirwy - er ei fod eisoes wedi talu.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion nad ydynt yn gwneud sylw ar achosion unigol.
"Ond y sefyllfa yn gyffredinol yw mai bach iawn yw'r eithriadau i'r gwaharddiad.
"Mae'n effeithio y rhan fwyaf o adeiladau swyddogol, gan gynnwys llefydd gwaith a cherbydau gwaith."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad nad oeddynt yn gwneud sylw ar achosion unigol.
"Y cynghorau lleol sy'n gyfrifol am weithredu'r gwaharddiad."
Ychwanegodd fod canllawiau yn dweud na ddylid ysmygu mewn cerbyd gwaith pe bai'n cael ei ddefnyddio gan fwy nag un person.
Mae yna hawl i ysmygu mewn cerbydau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y gwaith ond dim ond os mai'r gyrrwr yw'r unig un sy'n ei ddefnyddio, meddai'r llefarydd.
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7 ... 524332.stmBeth sydd wedi digwydd i'n cymdeithas dywedwch? Dyma beth................