S.W. a ddywedodd:Mae'r Cynulliad wedi pleidleisio lot yn nol o blaid y syniad o wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru.
Gadwch lonydd i bobl wir Dduw.
Os di siop, tŷ bwyta, caffi neu dafarn am wahardd ysmygu yna rhwydd hynt iddynt - ond deddf gwlad?
Dwi ddim yn ysmygu OND dwi ddim yn credu fod dim o'i le ar yr hawl i gael smoc bach sydyn efo'ch peint neu efo panad yn Caffi Cei. Os am ysgoi mwg yna mae yna ddewis eang o gaffis eraill yn y dref nad ydynt yn caniatau ysmygu.
Dwi hefyd yn amheus iawn o'r ddadl fod staff y bar yn dioddef 'passive smoking' - fel cyn dafarnwr fy mhrofiad oedd fod cael staff NAD oeddynt yn ysmygu yn anodd ar diawl.
Mae'r ddadl hon hefyd yn esiampl o'r llywodraeth yn honni gwneud rhywbeth am y broblem ysmygu tra'n gwneud dim mewn gwirionedd. Mae ystadegau'n dangos fod merched ifanc (16-25) yn dangos lefelau uwch o ysmgygu na bron unrhyw garfan o gymdeithas. Pam ddim taclo'r broblem fan hyn? Gormod o gyllid y trysorlys da fygythiad efallai? Ac wrth gwrs mwy o 'headlines' mewn ban nag a geir mewn mynd i'r afael â'r broblem go iawn.