Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Postiogan ceribethlem » Gwe 08 Chw 2008 10:36 am

Nanog a ddywedodd:Dwi wedi clywed fod o leia dau dy tafarn ar gau yng Nghastellnewydd Emlyn ac un yn Aberteifi. Faint sydd yn C.N.E i gyd? 6-7? Felly tua 30%. Fydd ddim un syrpreis i weld y gweddill yn debyg i faes brwydyr bob penwythnos o hyn mlan. Mae'r gwaharddiad ysmygu yn cael ei feio am fod y brif rheswm dros hyn.

Nid y gwaharddiad ysmygu yw'r unig ffactor fan hyn cofia, mae cyflwr economaidd a'r trethu uchel yn chawarae rhan helaeth yn y ffaith fod llai o fynychu tafarn yn digwydd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Postiogan Nanog » Gwe 08 Chw 2008 5:40 pm

ceribethlem a ddywedodd:Nid y gwaharddiad ysmygu yw'r unig ffactor fan hyn cofia, mae cyflwr economaidd a'r trethu uchel yn chawarae rhan helaeth yn y ffaith fod llai o fynychu tafarn yn digwydd.


Dwi'n cytuno fod bywyd yn mynd yn fwy anodd o rhan prisie am fwyd, tanwydd, trethu ayyb.....OND......rwy'n siarad am dafarndai sydd wedi goroesi sawl dirwasgiad yn y gorffenol (gan gynnwys yr un ar ddiwedd y 20'au) ac un os nad dau ryfel byd. Roeddwn wedi meddwl fod y rhai oedd eisiau i'r gwaharddiad ddweud y bydde nhw'n defnyddio tafarndai fwy os bydde pobl ddim yn ysmygu ynddynt. Dyw e ddim wedi digwydd.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 08 Chw 2008 9:01 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Nanog a ddywedodd:Dwi wedi clywed fod o leia dau dy tafarn ar gau yng Nghastellnewydd Emlyn ac un yn Aberteifi. Faint sydd yn C.N.E i gyd? 6-7? Felly tua 30%. Fydd ddim un syrpreis i weld y gweddill yn debyg i faes brwydyr bob penwythnos o hyn mlan. Mae'r gwaharddiad ysmygu yn cael ei feio am fod y brif rheswm dros hyn.

Nid y gwaharddiad ysmygu yw'r unig ffactor fan hyn cofia, mae cyflwr economaidd a'r trethu uchel yn chawarae rhan helaeth yn y ffaith fod llai o fynychu tafarn yn digwydd.


Fues i mas yn Castell Newydd penwthnos dwetha a weles i ddim un tafarn ar gau! :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Postiogan Kez » Gwe 08 Chw 2008 9:03 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Nanog a ddywedodd:Dwi wedi clywed fod o leia dau dy tafarn ar gau yng Nghastellnewydd Emlyn ac un yn Aberteifi. Faint sydd yn C.N.E i gyd? 6-7? Felly tua 30%. Fydd ddim un syrpreis i weld y gweddill yn debyg i faes brwydyr bob penwythnos o hyn mlan. Mae'r gwaharddiad ysmygu yn cael ei feio am fod y brif rheswm dros hyn.

Nid y gwaharddiad ysmygu yw'r unig ffactor fan hyn cofia, mae cyflwr economaidd a'r trethu uchel yn chawarae rhan helaeth yn y ffaith fod llai o fynychu tafarn yn digwydd.


Fues i mas yn Castell Newydd penwthnos dwetha a weles i ddim un tafarn ar gau! :?



Ot ti rhy feddw i sylwi siwr o fod. Faint o weithiau wi wedi gweid 'tho ti i gadw off y 'Tennants Extras' na. Ddysgi di byth! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Postiogan Nanog » Gwe 07 Maw 2008 9:24 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Fues i mas yn Castell Newydd penwthnos dwetha a weles i ddim un tafarn ar gau! :?


Mi glywes i dy fod ti wedi bod 'na...... :) Reit, mae'r Three Compasses wedi cau ac mae'r Cooper's 'fyd. Dwi ddim yn gwybod a fydda nhw'n ail agor.

I'r rhai sy'n gwadu effaith y ban, dyma adroddiad J D Weatherspoon heddi.......

"In view of the well documented impact of smoking bans on the pub trade
generally, we believe our performance in the first half has been resilient........"

Mi fydd y gem fawr yfory yn tynnu lot o bobl i G N Emlyn. Mi glywes i fod y tafarndai yno dan eu sang y tro diwethaf roedd gem rhyngwladol a hyn cyn i'r tafarndai uchod i gau eu drysau. Mi fydd pobl fel Rhys Llwyd ac SW yn crafu eu pennau ac yn ceisio dyfalu pam fod y 'mangreoedd' hyn fel 'battle zones' yn ystod y cyfnodau hyn a Nos Sadyrnau ayyb. "Bydd rhaid clampo lawr mwy rhyw ffordd neu gilydd!" :?

Gyda llaw Hedd. Beth oeddet ti'n gwneud yn y 'Llwyn Iorwg'? Bradwr! :D
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Postiogan S.W. » Sad 08 Maw 2008 9:52 am

Mi glywes i fod y tafarndai yno dan eu sang y tro diwethaf roedd gem rhyngwladol a hyn cyn i'r tafarndai uchod i gau eu drysau. Mi fydd pobl fel Rhys Llwyd ac SW yn crafu eu pennau ac yn ceisio dyfalu pam fod y 'mangreoedd' hyn fel 'battle zones' yn ystod y cyfnodau hyn a Nos Sadyrnau ayyb. "Bydd rhaid clampo lawr mwy rhyw ffordd neu gilydd!"


Nid rhyw puritan 'gwrth hwyl' neu 'gwrth tafarn' ydw i. Dwi'n hoff iawn o fynd am ambell beint i'r dafarn, ac ar ol gorffen yr ambell beint ne mi fyddai'n fodlon iawn cael ambell i beint arall. Digwydd bod, mi fuais i mewn tafarn neithiwr yn diota tan oriau man y bore. Oedd y dafarn - un lleol yn Dinbych yn orlawn. Dim rygbi, dim ddathliad arbennig. Just nifer fawr o locals di dod allan am noson allan. Doedd y gwaharddiad ysmygu heb wneud owns o wahaniaeth. Esgus gan tafarndai sy'n methu beth bynnag ydy beio'r gwaharddiad ar smygu pan maent yn cau lawr.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Sad 08 Maw 2008 1:24 pm

'Dwi wedi dechrau smocio ers tua 10 mis. Ty coffi ble y gellir mwynhau paned a smoc- dyma yw'r golled fawr i mi.
Tydi tywydd Prydain ddim digon da drwy'r flwyddyn i fwynhau eistedd y tu allan :gwyrdd:
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Postiogan Gladus Goesgoch » Iau 13 Maw 2008 5:10 pm

Mae synnwyr cyffredin yn dweud y dylid caniatau smocio mewn bar sydd ddim yn darparu bwyd. Mae'r nanny state yn troi yn no-no state.
I lost my burden; I went home leaping for joy, and I said to my neighbour who was sad, Why are you sad? I know my sins have been forgiven...
Rhithffurf defnyddiwr
Gladus Goesgoch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Iau 13 Maw 2008 12:14 pm
Lleoliad: fy nghont

Re: Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Postiogan Griff-Waunfach » Sad 15 Maw 2008 11:28 am

Gladus Goesgoch a ddywedodd:Mae synnwyr cyffredin yn dweud y dylid caniatau smocio mewn bar sydd ddim yn darparu bwyd. Mae'r nanny state yn troi yn no-no state.


Synnwyr cyffredin? Sut? Be' ni fydd mwg yn achosi effaith negyddol ar iechyd pobl os nad ydyn nhw yn bwyta?
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gwahardd Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus

Postiogan Nanog » Sad 15 Maw 2008 11:47 am

Nawr fod y gwaharddiad wedi dod i mewn, dwi ddim yn gweld fod y rhai oedd yn brwydro dros y gwaharddiad yn llifo i'r tafarndai nawr eu bod yn arogli fel ysbytai. Ond dyw e ddim wedi digwydd yw e fel y dyweddodd lot ohonynt byddai'n digwydd? Gwell gyda ti a'th debyg i weld y tafarndai yn cau na gorfod arogli rhywfaint bach o fwg ail law. Ta beth, rwy'n meddwl y byddai'r rhai oedd yn ymladd yn erbyn y gwaharddiad yn fodlon derbyn rhai tafarndai lle'r oedd hawl ysmygu a rhai heb yr hawl. A fydde hynny wedi dy blesio di Gruff?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai