Nanog a ddywedodd:O achos nad yw'r cyfryngau/gwleidyddion yn son ryw lawer am fwg o geir, nid yw'r pobl (sheeple yn gair da amdanynt) yn erych rhwy lawer arno. Spoon fed.
Un achos ar y tro Nanog !
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Nanog a ddywedodd:O achos nad yw'r cyfryngau/gwleidyddion yn son ryw lawer am fwg o geir, nid yw'r pobl (sheeple yn gair da amdanynt) yn erych rhwy lawer arno. Spoon fed.
sian a ddywedodd:
Hefyd, roedd cerdded lawr Stryd Fawr Bangor dydd Sadwrn fel cerdded mewn cwmwl o fwg - roedd e'n horibl - siwr bod mwy o bobl yn smocio ar y stryd lle bysen nhw'n gwneud mewn caffi o'r blaen.
ceribethlem a ddywedodd:Erthygl diddorol yn y Mule heddi yn dweud fod tafarndai yng Nghymru wedi dechre gwneud colled ers i'r gwaharddiad 'smygu ddod mewn.
dyma'r ddolen
S.W. a ddywedodd:
Wrth reswm yr her fwyaf i'r tafarndai yn sgil y gwaharddiad ysmygu ydy'r gaeaf oherwydd y tywydd gwaeth, ond dwi ddim yn meddwl gellir beio'r lleihad mewn pobl mewn tafarndai ar y gwaharddiad yn unig. Dwi'm yn mynd i'r dafarn gymaint dim mwy a di hynny'n sicr ddim oherwydd y gwaharddiad ond bod gen i fwy o bres yn mynd allan hefo fy morgais y diweddar a dwi'n trio bod yn fwy iach. Swn i'n tybio bod y ffaith ei bod hi just yn rhy ddrud yn ddiweddar yn reswm yr un mor teilwng os nad yn fwy i egluro'r lleihad ag ydy'r gwaharddiad.
O edrych ar dafarndai Rhuthun neithiwr doedd y tafarndai ddim iw gweld yn stryglo'n sicr!
Nanog a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:
Wrth reswm yr her fwyaf i'r tafarndai yn sgil y gwaharddiad ysmygu ydy'r gaeaf oherwydd y tywydd gwaeth, ond dwi ddim yn meddwl gellir beio'r lleihad mewn pobl mewn tafarndai ar y gwaharddiad yn unig. Dwi'm yn mynd i'r dafarn gymaint dim mwy a di hynny'n sicr ddim oherwydd y gwaharddiad ond bod gen i fwy o bres yn mynd allan hefo fy morgais y diweddar a dwi'n trio bod yn fwy iach. Swn i'n tybio bod y ffaith ei bod hi just yn rhy ddrud yn ddiweddar yn reswm yr un mor teilwng os nad yn fwy i egluro'r lleihad ag ydy'r gwaharddiad.
Y gwaharddiad sydd wedi effeithio fwyaf ar dafarndai yn ol y rhai sy'n cadw'r mangreodd hynny. Mae e wedi digwydd yn yr Alban, Cymru a Lloegr.O edrych ar dafarndai Rhuthun neithiwr doedd y tafarndai ddim iw gweld yn stryglo'n sicr!
Oherwydd fod y nos Wener cyn y Nadolig - o bosib y nos Wener, pan mae cyfran fawr o'r boblogaeth yn gorffen gweithio cyn yr wyl ac yn mynd am wydraid neu ddwy....., yn brysur yn y Rhuthun, rwyt ti'n meddwl efallai fod hynny'n dystiolaeth fod tafarndai ddim yn stryglo. Mae ishe i ti werthu'r ty a mynd mas mwy.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai