Diddorol oedd clywed aelodau o CYMUNED, yn eu rali ym Mlaenau Ffestiniog, yn galw ar bawb i brynnu yn lleol a pheidio teithio i Gaer i wneud eu siopa Dolig.
Gwych! Cytuno i'r carn.
OND! Beth am yr aelodau blaenllaw o Cymuned, fel Seimon Glyn a Dewi Prysor, sydd yn gwario eu harian prin ar ddilyn timau mawr Lloegr?
Bob pen wythnos, mae miloedd o bunnoedd 'Cymreig' yn cael eu gwario gan Gymry sydd yn dilyn timau Lloegr.
Dydi hyn ddim yn helpu economi Cymru, nac yn cynyddu ein siawns o gael tim cenedlaethol llwyddiannus.
GWNEWCH BOPETH YN GYMRAEG.