Ymgyrch CDU Gwynedd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ymgyrch CDU Gwynedd

Postiogan Waen » Maw 22 Hyd 2002 2:59 am

Ychydig o sylw mae wedi ei gael yn y wasg ond mae Cyngor Gwynedd wedi paratoi Cynllun Datblygu Unedol ardderchog - tai i bobl leol, y Gymraeg yn ffactor cynllunio cadarn, dim tai di-angen.

Y cynllun hwn fydd yn sail i BOB penderfyniad cynllunio yn y sir tan 2016.

Ar hyn o bryd mae'r ddogfen allan ar ymgynghoriad cyhoeddus.

Ond mae'r cyfnod ymgynghorol yn dod i ben ar Hydref 28, ddydd Llun

rydym yn annog pobl sy'n byw yng Ngwynedd i clicio ar y cyfeiriad gwe isod -

http://www.penllyn.com/cgi-bin/boardik2/ikonboard.cgi?act=ST&f=7&t=5
Gwnewch yn llu! :winc: :winc: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Postiogan Prysor » Iau 24 Hyd 2002 7:06 pm

CLYWCH, CLYWCH. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Chris Castle » Sul 27 Hyd 2002 12:54 pm

Dwi'n cytuno gyda'r pethau dwi wedi clywed am y cynllun yma.

Ond i fod yn controversial, dwi'n meddwl roedd ymateb y cynulliad yn arwydd o lwyddiant CYMUNED.

Er wnaeth y cynulliad wrthwynebiad i'r cynllun roedd hynny ar sail "difrod POSIB i'r economi" dim son am hiliaeth ac ati; ond hefyd datganiad y mae dim angen dros y cyngor derbyn y cwyn.

Yn y Bôn PROGRES. Roedd rhaid i'r Gwrth-Gymraeg gwneud rhyw fath o bwynt ond dyn nhw ddim yn bwysig nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Prysor » Sul 27 Hyd 2002 2:56 pm

Ie, ond dwi'n credu bod y llywodraeth yn y Cynulliad yn dal i panderio i'r gwrth-Gymraeg. Mae'r ychydig gonsiesiynnau wnaed i'r ardaloedd Cymraeg eu iaith yn cael eu hanwybyddu gan y llywodraeth eu hunain. Ac yn aml, maent yn reversio eu polisiau eu hunain. Dim ond un engraifft yw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Er i'r Cynulliad basio y dylai'r effaith ar iaith a diwylliant fod yn gonsideration i awdurdodau ym maes cynllunio, maent wedi ymwrthod cynllun Penfro i gyfyngu tai newydd i bobl leol. U-turn arall ar ol y sham consensus yn yr haf.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Chris Castle » Gwe 08 Tach 2002 11:59 am

Dwi ddim yn siwr am hynny. Dwi'n aroglu "coc yp" y mae mae pobl yn trio cuddio.
Yn ôl un erthygl gan colomnist yn y Cymro roedd dyddiad y llythyr "cwyn" gan "Y Cynmulliad" yn cael ei ysgrifennu gan Civil Servant yng Nghanol yr Ymchwil Iaith.
Dwedodd Gweinidog (Rhodri Morgan/Sue Essex dwi ddim yn cofio pwy) does dim angen ar y cyngor i'w cymryd o ddifri. Felly - Drosodd, asnwybyddwch, Camgymeriad, ond dwi ddim am gyfaddef. Os ti'n gwthio bydd yn waith. - dim ond fy nheimlad fi yw'r ddamcaniaeth hon.

Myfi a Paul Fflynn wedi dweud pethau yn gyhoeddus, ond mae well 'da pobl o blaid y Gymraeg yn Lafur gweithio yn dawelach.

Mae rhai synnwyr yn hynny. Maen nhw'n trio ymddangos y mae Cymraeg yn beth NORMAL. Mae Cydpwysedd rhwng agitating, organising and educating yn hollbwysig.
Fel dwi wedi dweud yn BARN mae Cenedlaetholwyr yn troi pobl bant weithiau gan ddefnyddio geiriau ymosodol. Er bod y geiriau hyn yn "agitate ac organise" Cenedlaetholwyr, mae'n "educate" y di-Cymraeg i gredu Paul starling. - Tactegau yw hynny sy'n debyg i'r rhai Militant, Socialist Workers Party, ac Undeb y Printers yn yr wythdegau.

Mae Cymry Cymraeg yn pwysig yn y brwydr dros trosglwyddo'r Iaith a sicrhau defnydd yr Iaith. Ond er mwyn newid Gwleidyddiaeth y Cenedl , y mae Cymry DI-Cymraeg a'r Saeson sy'n bwysig.

Mae Sion Jobbins er enghraifft yn iawn dros lot o bethau, OND mae e'n caniatau ei ideoleg Cenedlaetholgar i ymyrryd yn y proses o newid meddyliau'r di Cymraeg a gwrthcenedlaetholwyr. Mae e'n tanseilio pethau adeiladol o fewn Lafur er mwyn "cheap shots" gwleidyddol ac enillion
tymor byr.
Fel ysgrifennais ato fe, mae'n iawn bod "Complex seicolegol yn erbyn Cymraeg sydd gan Aelodau Lafur o achos eu hanesion teuliol" ond petai Oedopws Complex 'da rhywun, dyw e ddim yn syniad da i ddweud iddo fe "wi'n gwybod bo ti'n moyn gnuchio dy fam" - dim ond talu y pwyth yn ôl gyda "interest" sylweddol bydd yr ymateb

Sdim modd inni bod yn gryfach na nhw, rhaid inni fod yn clyfrach - Simon Brooks
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron