gan Chris Castle » Gwe 08 Tach 2002 11:59 am
Dwi ddim yn siwr am hynny. Dwi'n aroglu "coc yp" y mae mae pobl yn trio cuddio.
Yn ôl un erthygl gan colomnist yn y Cymro roedd dyddiad y llythyr "cwyn" gan "Y Cynmulliad" yn cael ei ysgrifennu gan Civil Servant yng Nghanol yr Ymchwil Iaith.
Dwedodd Gweinidog (Rhodri Morgan/Sue Essex dwi ddim yn cofio pwy) does dim angen ar y cyngor i'w cymryd o ddifri. Felly - Drosodd, asnwybyddwch, Camgymeriad, ond dwi ddim am gyfaddef. Os ti'n gwthio bydd yn waith. - dim ond fy nheimlad fi yw'r ddamcaniaeth hon.
Myfi a Paul Fflynn wedi dweud pethau yn gyhoeddus, ond mae well 'da pobl o blaid y Gymraeg yn Lafur gweithio yn dawelach.
Mae rhai synnwyr yn hynny. Maen nhw'n trio ymddangos y mae Cymraeg yn beth NORMAL. Mae Cydpwysedd rhwng agitating, organising and educating yn hollbwysig.
Fel dwi wedi dweud yn BARN mae Cenedlaetholwyr yn troi pobl bant weithiau gan ddefnyddio geiriau ymosodol. Er bod y geiriau hyn yn "agitate ac organise" Cenedlaetholwyr, mae'n "educate" y di-Cymraeg i gredu Paul starling. - Tactegau yw hynny sy'n debyg i'r rhai Militant, Socialist Workers Party, ac Undeb y Printers yn yr wythdegau.
Mae Cymry Cymraeg yn pwysig yn y brwydr dros trosglwyddo'r Iaith a sicrhau defnydd yr Iaith. Ond er mwyn newid Gwleidyddiaeth y Cenedl , y mae Cymry DI-Cymraeg a'r Saeson sy'n bwysig.
Mae Sion Jobbins er enghraifft yn iawn dros lot o bethau, OND mae e'n caniatau ei ideoleg Cenedlaetholgar i ymyrryd yn y proses o newid meddyliau'r di Cymraeg a gwrthcenedlaetholwyr. Mae e'n tanseilio pethau adeiladol o fewn Lafur er mwyn "cheap shots" gwleidyddol ac enillion
tymor byr.
Fel ysgrifennais ato fe, mae'n iawn bod "Complex seicolegol yn erbyn Cymraeg sydd gan Aelodau Lafur o achos eu hanesion teuliol" ond petai Oedopws Complex 'da rhywun, dyw e ddim yn syniad da i ddweud iddo fe "wi'n gwybod bo ti'n moyn gnuchio dy fam" - dim ond talu y pwyth yn ôl gyda "interest" sylweddol bydd yr ymateb
Sdim modd inni bod yn gryfach na nhw, rhaid inni fod yn clyfrach - Simon Brooks