Tudalen 1 o 1

Y Ceidwadawyr

PostioPostiwyd: Iau 24 Hyd 2002 11:31 am
gan huwwaters
Ydych chi wedi clywed am maniffesto Ceidwadwyr 'Cymraeg'?

Mae nhw am gael gwared i addysg Gymraeg i blant oedran 14-16 i blant iaith Saesneg. Os cawn nhw hyn, pam na chai fy ngwersi Saesneg di dropio.

Un o'u hamcanion eraill yw trio cael gwared i'r Cynulliad a rheoli Cymru o San Steffan.

Hwyl

PostioPostiwyd: Iau 24 Hyd 2002 7:01 pm
gan Prysor
Dim byd 'di newid fanna felly.

PostioPostiwyd: Sul 27 Hyd 2002 11:24 am
gan Chris Castle
Pwynt deg yma. Pam y mae Saesneg yn esensial pryd mae Saesneg yn opsiwn?
Er mwyn bod yn gyfartal dylen nhw cynnig yr opsiwn o ollwng Saesneg.
Ond "Unionists" o'r fath gwaethaf ydy'r tori's.

Mae Prydeindod iddyn nhw yn caniatad i'r Celtaidd bod yn "saeson bach".

PostioPostiwyd: Iau 31 Hyd 2002 9:49 pm
gan ceribethlem
Un o'u hamcanion eraill yw trio cael gwared i'r Cynulliad a rheoli Cymru o San Steffan


Mae hwn wedi bod yn amcan i'r Toriaid ers i'r cynulliad gael ei ffurfio, cyn hynny Rheoli Cymru o San Steffan a pheidio adeiladu Cynulliad oedd y meddylfryd toriaidd.

Yr unig bwynt am y toriaid yw o leiaf maent yn cyfaddef eu bod yn erbyn y cynulliad, dim fel y blaid lafur sy'n honni bod o blaid datganoli tra'r gwirionedd yw mae San Steffan sy'n rheoli trwy Rhodri Morgan.

Bydd Lles mwyaf y cynulliad yn cael ei weld pan fydd Plaid gwahanol yn y Cynulliad i'r un sydd yn San Steffan. Pe bai Plaid Cymru mewn pwer yn y Cynulliad a'r Blaid Lafur yn San Steffan fe welir tipyn o newidiadau yn digwydd oherwydd ni fydd y polisiau yn dod yn syth o Tony Blair i'w was ffyddlon.

Diffiniad

PostioPostiwyd: Sul 03 Tach 2002 11:56 am
gan Mihangel Macintosh
Siawns bod chi wedi gweld hwn o'r blaen, ond dyma fe eto...



http://www.geocities.com/brechdantywod/ ... 3tory.html