Un o'u hamcanion eraill yw trio cael gwared i'r Cynulliad a rheoli Cymru o San Steffan
Mae hwn wedi bod yn amcan i'r Toriaid ers i'r cynulliad gael ei ffurfio, cyn hynny Rheoli Cymru o San Steffan a pheidio adeiladu Cynulliad oedd y meddylfryd toriaidd.
Yr unig bwynt am y toriaid yw o leiaf maent yn cyfaddef eu bod yn erbyn y cynulliad, dim fel y blaid lafur sy'n honni bod o blaid datganoli tra'r gwirionedd yw mae San Steffan sy'n rheoli trwy Rhodri Morgan.
Bydd Lles mwyaf y cynulliad yn cael ei weld pan fydd Plaid gwahanol yn y Cynulliad i'r un sydd yn San Steffan. Pe bai Plaid Cymru mewn pwer yn y Cynulliad a'r Blaid Lafur yn San Steffan fe welir tipyn o newidiadau yn digwydd oherwydd ni fydd y polisiau yn dod yn syth o Tony Blair i'w was ffyddlon.