Cymedrolwr: Mr Gasyth
Cath Ddu a ddywedodd:Dwi ddim yn credu mewn annibyniaeth, ond ydi hyn yn wahanl mewn UNRHYW ffordd i Melding, Glyn neu Felix?
coelia neu beidio ond ddaru na neb ac eithrio Gareth Jones (cyn AC Conwy) godi'r cwestiwn o hawiau'r Cynullaid efo fi ar stepan drws. Mewn etholiad ti'n trafod y pynciau sy'n tanio dychymyg etholwyr nid yr hyn sy'n tanio dychymyg aelodau maes e.
Hedd a ddywedodd:A dyma'r broblem. Y gwahaniaeth rhwng Melding, Glyn Davies, Felix a Guto Bebb dy bod y criw cyntaf yn mynd allan o'u ffordd i hyrwyddo'r syniad o ddatganoli, a senedd go iawn i Gymru, tra bod Guto yn osgoi'r cwestiwn, a chuddio tu ol i bolisi ei Blaid (sydd wedi newid nawr gyda llaw) yn hytrach na dweud beth mae EF yn ei gefnogi.
Cath Ddu a ddywedodd:O ran dy ail ddatganiad, dwi ddim yn credu dy fod yn bod yn deg nag yn wrthrychol ond os na felly ti'n gweld pethau yna does dim llawer y gallaf ei ddweud.
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Efallai wir, oes unrhyw un yn gallu trafod gwleidyddiaeth yn wrthrychol? Byddai'n ddiddorol felly gwybod faint o ddatganoli y mae Guto Bebb yn bersonnol am ei weld yma yng Nghymru. Statws Dominiwm?
S.W. a ddywedodd:Mae'r pleisiau Prydeinig yn llawn pobl sy'n honi eu bod yn genedlaetholwyr (neu rhywbeth tebyg) megis Carwyn Jones, Felix Aubel, Glyn Davies, Guto Bebb ond ychydig iawn o ddylanwad mae nhw wedi ei gael ar y tu fewn mewn gwirionedd.
Cath Ddu
Mae hyn yn sicr yn wir yn fy achos i!
S.W. a ddywedodd:Cath Ddu
Mae hyn yn sicr yn wir yn fy achos i!
Ti ddewisiodd ymuno a nhw! Be am i ti newid dy feddwl a'u gadael?! Yn enwedig o feddwl bod Cameron di datgan bod ei blaid am ymgyrchu yn ERBYN chwaneg o bwerau i'r Cynulliad a'i fod yn erbyn Rhanbartholi.
S.W. a ddywedodd:Maen bosib bod Wyn Roberts wedi cael gryn ddylanwad ar y llywodraeth Doriaidd pan roedd y dyn ar ei anterth ar bethau'n ymwneud a Cymreu a'r Iaith Gymraeg (megis S4C) ond wedyn rhaid meddwl pwy ddylanwadodd arno fo i bwyso arnynt o'r tu fewn? Gwynfor Evans efallai?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai