S.W. :
Dyfyniad:
Cath Ddu
Mae hyn yn sicr yn wir yn fy achos i!
Ti ddewisiodd ymuno a nhw! Be am i ti newid dy feddwl a'u gadael?! Yn enwedig o feddwl bod Cameron di datgan bod ei blaid am ymgyrchu yn ERBYN chwaneg o bwerau i'r Cynulliad a'i fod yn erbyn Rhanbartholi.
Bod yn ysgafn oedd fy mwriad. Dwi'n ddigon hapus yn fy nghartref gwleidyddol, ond diolch am yr awgrym.
Dim probs. Cofia ofyn os ti isio mwy o awgrymiadau rhywbryd!
S.W. :
Maen bosib bod Wyn Roberts wedi cael gryn ddylanwad ar y llywodraeth Doriaidd pan roedd y dyn ar ei anterth ar bethau'n ymwneud a Cymreu a'r Iaith Gymraeg (megis S4C) ond wedyn rhaid meddwl pwy ddylanwadodd arno fo i bwyso arnynt o'r tu fewn? Gwynfor Evans efallai?
Nid cywir yw dweud 'digon posib' - fe gafodd ddylanwad. Collodd Gwynfor ei sedd yn 1979, bu dylanwad Wyn Roberts o fewn y Swyddfa Gymreig o 1979 hyd 1994 - ni chredaf fod dylanwad Gwynfor wedi bod yn drwm arno a dweud y gwir.
Ond roedd ei effaith yn parhau yn sylweddol wedi iddo adael y ty. Pan wnaeth o fygwth ymprydio ac ati dwin credu bu i Wyn Roberts fod digon craff i weld effaith posibl hyn ar sefyllfa'r Blaid Geidwadol yng Nghymru a gweithredu ar hynny.
Eniwe, nol at y drafodaeth am 'Plaid Genedlaethol Asgell Dde' fel maen deud ar y teitl.