Mr Gasyth a ddywedodd:ron i o dan yr argraff y byddai unrhyw refferendwm aml-ddewis yn galluogi pleidleiswyr i restru eu dewisiadau yn nhrefn ffafriaeth, h.y 1,2,3. os felly, ni fyddai hollti yn broblem.
Doeddwn i ddim yn sylweddoli mai dyma fyddai ffurf y refferendwm. Mae o'i weld yn ffordd ychdyig yn od - i mi - o ofyn cwestiwn cyfansoddiadol. Ond dwi'n meddwl fod fy mhwynt i ynglyn a hollti yn dal i fod yn lled berthnasol. Hynny yw, mi fydd y bobl sy'n dewis diddymu'r cynulliad fel pleidlais "1" yn gwneud hynny yn lle y
status quo. Yn yr un modd mi fydd y 10% sy'n debygol o roi ei pleidlais gryfaf, pleidlais "1", i annibynniaeth yn gwneud hynny yn hytrach na phleidleisio dros fwy o bwerau fel eu dewis cyntaf.
Wrth gwrs fod system gyfrannol fel hyn yn lleihau yr effaith, ond mae'r egwyddor sylfaenol yn sefyll, sef gora po fwya' o wahanol ddewisiadau "negyddol" sydd 'na mewn refferendwm fel hyn.
Mr Gasyth a ddywedodd:y broblem go iawn gyda opiwn annibynniaeth wrth gwrs fyddai'r ffaith mai ond tua 10% fyddai'n debyg o bleidleisio drosti ar hyn o bryd, ac o roi opsiwn annibynniaeth y byddai'r Blaid yn gorfod ymgyrchu drosti. Da o beth yn fy marn i, dylai fod yn gwneud hynny o hyd, ond beryg mai ail-agor cracheni er elw'r pleidiau eraill fyddai'r canlyniad.
Yn hollol. Bu refferendwm 1997 yn lwyddiant oherwydd fod 'na ymgyrch ar y cyd rhwng Plaid Cymru, Llafur a'r Lib-Dems. Creu hollt ddi-angen, a niweidiol, fyddai cynnwys annibynniaeth fel dewis. Un cam ar y tro.