Tudalen 1 o 21

Oes angen plaid genedlaetholgar adain dde?

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 8:35 pm
gan Hedd Gwynfor
[Wedi ei symyd o'r edefyn yn trafod cofiant Gwynfor. Plis sdiciwch at y pwnc, peidiwch gwneud ymosodiadau personnol, a trafodwch efo pawb nid jest eich cymydog. Diolch - MR G]


Simon Brooks a ddywedodd:Ond nid diwygio'r Blaid yw'r ateb, gan fod y Blaid yn gorff na ellir ei diwygio. Yn y pen draw, bydd angen datblygu plaid genedlaetholgar adain dde gymhedrol - tebyg i'r PNV yng Ngwlad y Basg, neu'r CiU yng Ngahatlunya - er mwyn datblygu cenedlaetholdeb sy'n rhydd o'r shibolethau ideolegeol uchod.


Syniad gwych Seimon. Beth am ddechrau Plaid neu fudiad newydd eto. Cymru Annibynol - wedi methu. Llais Ceredigion, Llais y Cardi - wedi methu. Yr un hen ateb bob tro, taflu tegannau allan o'r pram, a chychwyn mudiad/plaid newydd. Pryd wneith y Cymry ddysgu bod rhaid i ni gydweithio er mwy cyrraedd y nod o 'Ryddid i Gymru', yn hytrach na chwympo mas ymysg ein gilydd - fel plant!

Simon Brooks a ddywedodd:Gystal cenedlaetholwr yw Guto a Gwynforiaid Plaid Cymru bob tamaid.


Cenedlaetholwr Prydeinig?

Simon Brooks a ddywedodd:Saunders Lewis ei hunan - yn falch iawn ohono hefyd.


Dwi'n amau!

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 10:48 pm
gan Tegwared ap Seion
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Simon Brooks a ddywedodd:Ond nid diwygio'r Blaid yw'r ateb, gan fod y Blaid yn gorff na ellir ei diwygio. Yn y pen draw, bydd angen datblygu plaid genedlaetholgar adain dde gymhedrol - tebyg i'r PNV yng Ngwlad y Basg, neu'r CiU yng Ngahatlunya - er mwyn datblygu cenedlaetholdeb sy'n rhydd o'r shibolethau ideolegeol uchod.


Syniad gwych Seimon. Beth am ddechrau Plaid neu fudiad newydd eto. Cymru Annibynol - wedi methu. Llais Ceredigion, Llais y Cardi - wedi methu. Yr un hen ateb bob tro, taflu tegannau allan o'r pram, a chychwyn mudiad/plaid newydd. Pryd wneith y Cymry ddysgu bod rhaid i ni gydweithio er mwy cyrraedd y nod o 'Ryddid i Gymru', yn hytrach na chwympo mas ymysg ein gilydd - fel plant!


Dwi'n credu dy fod yn bod yn anheg iawn

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 10:55 pm
gan krustysnaks
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Onid oedd Elystan Morgan yn genedlaetholwr, a aeth i'r Blaid Lafur oherwydd mai yno yr oedd o'n gweld y medrai roi'r gorau i Gymru?

Mae hyn yn wir ond sosialaeth oedd / yw 'peth' Elystan, ac roedd / mae hynny yn ei dynnu at Lafur cymaint ac unrhywbeth arall.

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 11:32 pm
gan Hedd Gwynfor
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Pam na all Guto fod cystal cenedlaetholwr

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 11:43 pm
gan Cath Ddu
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ar y llaw arall rhethreg genedlaetholgar Brydeinig sydd i'w glywed gan Guto Bebb ar y cyfan, a does ddim unrhyw son ar ei wefan am ddatganoli. Ei brif ymgyrchoedd yn ystod yr etholiad diwethaf oedd:

Gwefan Guto a ddywedodd:Save the White Van Man
Action to help working families and pensioners in Conwy
Burglary in North Wales
Outraged Over Welsh NHS Waiting List Figures




:lol:

Ers pryd mae poeni am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn 'rhethreg Brydeinig'? Ers pryd mae galw am gymorth i'r tlotaf yn y sir dlotaf yng Nghymru (o ddefnyddio GDP y pen fel dull mesur tlodi) yn'rhethreg Brydeinig? Ers pryd mae ymateb i drethu yr hunan-gyflogedig (25% + o boblogaeth Conwy) am ddefnyddio faniau o fewn eu busnesau yn 'rhethreg Brydeinig'?

Tydi'r pynciau hyn yn ddim mwy 'Prydeinig' na obsesiwn PC gyda hawliau merched, neu heddchiaeth, neu ynni niwcliar. Be yn union di dy bwynt Hedd? Ta jyst dig personnol arall sydd yma gan fy mod wedi meiddio gadael PC? :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 11:44 pm
gan Tegwared ap Seion
Teimlo oeddwn i dy fod yn bod braidd yn goeglyd

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 11:49 pm
gan Tegwared ap Seion
OON nes i ddim sylwi ar ail-hanner dy neges chwaith Hedd am ryw reswm!

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Safbwynt y Blaid ar y 'cwestiwn cyfansoddiadol' sydd yn ei gwneud hi'n wahanol i'r pleidiau Prydeinig, ac mae angen pwysleisio hyn. Ond dwi dal yn meddwl mae'r siawns gorau sydd gyda ni o sicrhau Senedd go iawn i Gymru ydy trwy gefnogi Plaid Cymru, ac er mwyn sicrhau hyn rhaid i genedlaetholwyr Gymreig gydweithio.


Ond tra bo'r blaid yn arddel cymaint ar y safbwyntiau eraill, ni all cenedlaetholwyr Cymreig gydweithio.

Onid yw "cenedlaetholdeb" yn beth adain dde 'run bynnag?!

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 11:56 pm
gan Hedd Gwynfor
Cath Ddu a ddywedodd:Tydi'r pynciau hyn yn ddim mwy 'Prydeinig' na obsesiwn PC gyda hawliau merched, neu heddchiaeth, neu ynni niwcliar. Be yn union di dy bwynt Hedd? Ta jyst dig personnol arall sydd yma gan fy mod wedi meiddio gadael PC? :rolio:


Dwi'n cytuno. Roedd y ddau bwynt yma i fod arwahan, ac efallai heb eu nodi'n ddigon clir. Rhethreg Brydeinig oedd i'w glywed gan Guto Bebb adeg yr etholiad ynglyn a'r cwestiwn o gyndyddu pwerau'r Cynulliad. Eistedd ar y ffens a chefnogi'r polisi o roi dewis i bobl Cymru wnaeth Guto - dewis oddi fewn i gyfyngderau'r Ceidwadwyr wrth gwrs, doedd annibyniaeth ddim yn un o'r opsiynau.

Yr ail bwynt ydy nad oedd y pwnc yma yn ddigon pwysig hyd yn oed i gael mensh ar wefan Guto. Ar y llaw arall, mae Felix Aubel, David Melding a Glyn Davies wedi nodi'n glir dro ar ol tro eu bod yn cefnogi Senedd i Gymru. Felly NA, dwi ddim yn credu y gellir galw Guto Bebb yn genedlaetholwr Gymreig.

Tegwared ap Seion a ddywedodd:I mi ac i lawer un arall dwi'n siwr y byddai "plaid genedlaetholgar adain dde gymhedrol" yn ddewis llawer gwell i Blaid Cymru.


Ond fel cenedlaetholwr Gymreig, a fyddai rhannu'r bleidlais yn fanteisiol i'r Ymgyrch Senedd i Gymru? Onid dyma ddylai fod y brif ystyraeth i genedlaetholwyr yma yng Nghymru, yn hytrach na checru?

Tegwared ap Seion a ddywedodd:Onid yw "cenedlaetholdeb" yn beth adain dde 'run bynnag?!


Na. Fyswn i'n dadlai fod y math o genedlaetholdeb sydd i'w gweld yma yng Ngymru yn fwy adain chwith, a da o beth yw hynny. Brwydro dros barhad Cymru fel cenedl mae cenedlaetholwyr Gymreig yn erbyn y grymoedd mawrion. Mae cenedlaetholdeb adain dde, ar y llaw arall yn gallu bod yn fwy peryglus.

PostioPostiwyd: Iau 12 Ion 2006 12:03 am
gan GT
Simon Brooks a ddywedodd:Dyna pam rwy'n edmygu rhywun fel Guto Bebb (neu Felix Aubel) sut gymaint am fentro. Gystal cenedlaetholwr yw Guto a Gwynforiaid Plaid Cymru bob tamaid, ond un sy'n dilyn strategaeth wahanol. A byddai ei Daid - a siwr o fod Saunders Lewis ei hunan - yn falch iawn ohono hefyd.


Hynod ddiddorol.

Mae'r Gath Ddu - ar y wefan hon - wedi dadlau ei bod yn gwbl anghyfrifol hyd yn oed argymell y syniad o Gymru annibynnol. Sy'n awgrymu bod Brooks naill ai yn canmol rhywbeth nad yw'n gwybod llawer amdano - neu bod ei syniad o genedlaetholdeb Cymreig yn _ _ _ wel anuniongred - beth am ei alw'n 'genedlaetholdeb Yncl Twm'?

Simon Brooks a ddywedodd:Yn y pen draw, bydd angen datblygu plaid genedlaetholgar adain dde gymhedrol - tebyg i'r PNV yng Ngwlad y Basg, neu'r CiU yng Ngahatlunya - er mwyn datblygu cenedlaetholdeb sy'n rhydd o'r shibolethau ideolegeol uchod.


Wel ia wrth gwrs - mae yna gymaint o ddarpar genedlaetholwyr Cymreig adain dde yng Nghymru - pam na feddyliodd neb am hyn o'r blaen? :lol:

[Gol. Wedi dileu ymosodiad personol di-angen. <i>nicdafis</i>]

PostioPostiwyd: Iau 12 Ion 2006 12:11 am
gan Cath Ddu
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi'n cytuno. Roedd y ddau bwynt yma i fod arwahan, ac efallai heb eu nodi'n ddigon clir. Rhethreg Brydeinig oedd i'w glywed gan Guto Bebb adeg yr etholiad ynglyn a'r cwestiwn o gyndyddu pwerau'r Cynulliad. Eistedd ar y ffens a chefnogi'r polisi o roi dewis i bobl Cymru wnaeth Guto - dewis oddi fewn i gyfyngderau'r Ceidwadwyr wrth gwrs, doedd annibyniaeth ddim yn un o'r opsiynau.


Gwir pob gair Hedd, dwi'n derbyn fod hyn yn gywir. Dwi ddim yn credu mewn annibyniaeth, ond ydi hyn yn wahanl mewn UNRHYW ffordd i Melding, Glyn neu Felix? Ydi'r tri hwn yn credu mwn annibyniaeth? :rolio:

Hedd a ddywedodd:Yr ail bwynt ydy nad oedd y pwnc yma yn ddigon pwysig hyd yn oed i gael mensh ar wefan Guto. Ar y llaw arall, mae Felix Aubel, David Melding a Glyn Davies wedi nodi'n glir dro ar ol tro eu bod yn cefnogi Senedd i Gymru. Felly NA, dwi ddim yn credu y gellir galw Guto Bebb yn genedlaetholwr Gymreig.


Eto ti'n gywir - coelia neu beidio ond ddaru na neb ac eithrio Gareth Jones (cyn AC Conwy) godi'r cwestiwn o hawiau'r Cynullaid efo fi ar stepan drws. Mewn etholiad ti'n trafod y pynciau sy'n tanio dychymyg etholwyr nid yr hyn sy'n tanio dychymyg aelodau maes e. :winc: Hefyd dwi'n credu fy mod yn ddi-eithriad wedi datgan mewn cyfweliadau ac cyfarfodydd cyhoeddus fy mod o blaid cryfhau y Cynulliad yn sylweddol - ond (shock horror) nid heb OK gan bobl Cymru.

Hedd a ddywedodd:Na. Fyswn i'n dadlai fod y math o genedlaetholdeb sydd i'w gweld yma yng Ngymru yn fwy adain chwith, a da o beth yw hynny. Brwydro dros barhad Cymru fel cenedl mae cenedlaetholwyr Gymreig yn erbyn y grymoedd mawrion. Mae cenedlaetholdeb adain dde, ar y llaw arall yn gallu bod yn fwy peryglus.


Cyffredinoli di-sail di'r uchod Hedd, dim mwy a dim llai.