steve y gwalch a ddywedodd:Os ydy'r sefyllfa mor ddrwg ac wyt ti yn ei wneud allan - sut mae'r lle dal yn agored? Os yw'r trafferthion mor ddrwg a hynny - pam aros yn agored? ac a oes unrhyw un / unrhywrai wedi colli' swyddi? Tydwi heb glywed am ddim!!
Sylwadau rheolwr Y Galeri, gwefan BBC Cymru 13/1/06
Gwynedd Roberts a ddywedodd:Dydi hyn ddim yn gais brys a dydan ni ddim mewn trafferthion ariannol ond yr hyn yr ydym eisiau ydi cynnig yr un lefel o wasanaeth
Gwynedd Roberts a ddywedodd:Rydym wedi cyrraedd y lefel o staffio sy'n dderbyniol i redeg sefydliad o'r fath a dwi'n gobeithio'n bersonol na fydd angen cwtogi staff ond fe fydd yn rhaid edrych ar bopeth er nad yw'r sefyllfa ariannol mor ddyrys a hynny
Os di'r Galeri angen cyllid ychwanegol er mwyn "cynnig yr un lefel o wasanaeth" neu er mwyn sicrhau "na fydd angen cwtogi staff" yna onid teg fyddai i'r Galeri fod yn agored gyda threthdalwyr Gwynedd a datgan beth yn union yw'r sefyllfa cyn gofyn anfon llythyr yn gofyn am gyllid?
Fel datblygiad wedi ei gyllido gyda arian cyhoeddus onid oes disgwyl 'chydig bach o atebolrwydd? Os na Steve, pam?