Cymedrolwr: Mr Gasyth
Cath Ddu a ddywedodd:Os di pethau'n OK pam gofyn am arian?
mam y mwnci a ddywedodd:Os nad ydynt wedi llwyddo i fod yn hunangynhaliol yn y flwyddyn gyntaf onid yw hi'n deg credu mai dyma fydd y drefn ar ddiwedd pob blwyddyn arianol? Felly a fydd cais (blackmail) yn dod yn flynyddol - mwy o bres neu mi fyddwn ni'n cau? Yntau ydyn nhw yn sicrhau y bydd y flwyddyn nesaf yn wahannol?
galericaernarfon a ddywedodd:Enwch un Canolfan Celfyddydol trwy'r Deyrnas Unedig sydd yn rhedeg heb rhyw fath o arian cyhoeddus.
Cath Ddu a ddywedodd:mam y mwnci a ddywedodd:Os nad ydynt wedi llwyddo i fod yn hunangynhaliol yn y flwyddyn gyntaf onid yw hi'n deg credu mai dyma fydd y drefn ar ddiwedd pob blwyddyn arianol? Felly a fydd cais (blackmail) yn dod yn flynyddol - mwy o bres neu mi fyddwn ni'n cau? Yntau ydyn nhw yn sicrhau y bydd y flwyddyn nesaf yn wahannol?
Pwynt da. O ddarllen cyfraniad Galericaernarfon (sy'n gofyn am degwch gyda Theatrau eraill o fewn y Sir) fe dybiaf mai derbyn grant blynyddol yw bwriad rheolwyr y Galeri.
Cath Ddu a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:.....felna mae busnes yn gweithio.
Tydi 'busnesau' arferol ddim yn gallu gofyn am bail out gan y Cyngor lleol.
Blewyn a ddywedodd:Ym, na. Ffordd arall mae'n gweithio fel arfer - mae unrhyw fusnes newydd yn gorfod gwario yn y flwyddyn gyntaf ar bethau fel prynu photocopier, ffendio gweithwyr, talu architect, desg neis efo peth sgwennu lledr i'r bos - pethau fydd yn para mwy na blwyddyn.
Blewyn a ddywedodd:Wrth gwrs. Fel rheolwyr busnes, mi fysant yn edrych yn reit ara-deg petae nhw ddim yn gwneud hyn.
Blewyn a ddywedodd:Mae PAWB yn gallu gofyn, Cath Ddu. Dim ond rhai sy'n cael, ia, ond un peth sy'n sicr - chei di ddim os na ofynni.
Blewyn a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai jyst chwarae ydy hyn i gyd - mae'r Galeri yn trio gweld faint o arian fedran nhw gael allan o'r cyngor, a mae'r cyngor yn deall y gem yn iawn ac yn amlwg o'r farn fod y Galeri yn gwneud yn iawn ar ben eu hunain.
Cath Ddu a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Ym, na. Ffordd arall mae'n gweithio fel arfer - mae unrhyw fusnes newydd yn gorfod gwario yn y flwyddyn gyntaf ar bethau fel prynu photocopier, ffendio gweithwyr, talu architect, desg neis efo peth sgwennu lledr i'r bos - pethau fydd yn para mwy na blwyddyn.
Cywir Blewyn - ond onid dyma pam y bu i Galeri dderbyn grantiau CYFALAF? Er mwyn talu costau CYFALAF?
Gofyn mae y Galeri am gymorth refeniw - sef arian ar gyfer costau bob dydd felly fe dybiaf fod dy wers fusnes i mam y mwnci ychydig allan ohoni yn yr achos dan sylw.
Blewyn a ddywedodd:Wrth gwrs. Fel rheolwyr busnes, mi fysant yn edrych yn reit ara-deg petae nhw ddim yn gwneud hyn.
Petaet yn darllen yr edefyn ychydig yn fwy manwl fe fyddet yn gweld fod y Galeri wedi derbyn grantiau cyfalaf sylweddol tuag at ddatblygu'r ganolfan. Un o amodau Cyngor Gwynedd dros cefnogi cais y Galeri am grantiau (a does neb wedi gwadu hyn) oedd fod y Galeri yn hunan gyllidol. Fe fyddwn yn dadlau fod y rheolwyr yn edrych yn reit ara deg wrth fynd yn
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai