Be ddigwyddodd i Gynllun Busnes y Galeri?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Blewyn » Mer 25 Ion 2006 7:46 am

Cath Ddu a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:Mae PAWB yn gallu gofyn, Cath Ddu. Dim ond rhai sy'n cael, ia, ond un peth sy'n sicr - chei di ddim os na ofynni.


Ydyn nhw? Felly os di'r dafarn lleol yn gwneud colledion neu'r siop chips mewn trafferthion dy gyngor fyddai iddynt ofyn am achubiaeth gan Gyngor Gwynedd? Diddorol :rolio:

Dibynnu ar natur y colledion, na ? Yn sicr mi fysa gofyn am gyngor y Cyngor yn un o'm cynghorion.......
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Cath Ddu » Mer 25 Ion 2006 10:52 am

Blewyn a ddywedodd:Gyda phob parch CathDdu, mae'n ddigon posib fod y Galeri wedi gwario mwy na'u grant ar gyfalaf (neu wedi cyfrifo felly beth bynnag), a t'ydw i ddim yn credu dy fod wedi deud cyn hyn mai gofyn am gymorth cyllid yn benodol oeddynt.


Mae fy nghyfraniad cyntaf i'r edefyn hwn yn datgan fod y Galeri yn gofyn am gymorth ariannol gan Gyngor Gwynedd

Blewyn a ddywedodd:Mae'n dibynnu os ydy'r cais am fwy o arian yn gais trwyn-galed busnes i gael mwy o arian cyhoeddus yn syml er mwyn ei gael o, neu canlyniad o wir fethiant y busnes. Hyd yn oed os ydy'r Galeri yn llwyddo, os fedrant wneud i'r busnes edrych yn salach nag y mae o er mwyn cael mwy o grantiau, mae'n gwneud sens. T'ydy mynd yn ol ar rhyw gentleman's agreement o fod yn gyllidol ddim yn effeithio'r llinell isa, a felly ddim yn linyn mesur.


Dim syniad be ti'n drio ddweud fan yma. Ai awgrymu twyll fel tacteg fusnes wyt ti? :rolio:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Blewyn » Mer 25 Ion 2006 12:03 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:Gyda phob parch CathDdu, mae'n ddigon posib fod y Galeri wedi gwario mwy na'u grant ar gyfalaf (neu wedi cyfrifo felly beth bynnag), a t'ydw i ddim yn credu dy fod wedi deud cyn hyn mai gofyn am gymorth cyllid yn benodol oeddynt.


Mae fy nghyfraniad cyntaf i'r edefyn hwn yn datgan fod y Galeri yn gofyn am gymorth ariannol gan Gyngor Gwynedd


Ond nid cymorth cyllid (revenue) yn benodol ?

Blewyn a ddywedodd:Mae'n dibynnu os ydy'r cais am fwy o arian yn gais trwyn-galed busnes i gael mwy o arian cyhoeddus yn syml er mwyn ei gael o, neu canlyniad o wir fethiant y busnes. Hyd yn oed os ydy'r Galeri yn llwyddo, os fedrant wneud i'r busnes edrych yn salach nag y mae o er mwyn cael mwy o grantiau, mae'n gwneud sens. T'ydy mynd yn ol ar rhyw gentleman's agreement o fod yn gyllidol ddim yn effeithio'r llinell isa, a felly ddim yn linyn mesur.


Dim syniad be ti'n drio ddweud fan yma. Ai awgrymu twyll fel tacteg fusnes wyt ti? :rolio:[/quote]

Mae hyn fel gofyn os ydy cicio pel yn dacteg rygbi.....t'ydw i ddim yn deall be ti ddim yn deall am hyn. Os fedr y cyfrifon ddangos fod y cwmni yn lwyddiant, mae hynny'n adlewyrchu'n dda ar y rheolwr - ond os fedr y rheolwr gael mwy o arian trwy gyfrifo mewn ffordd (cyfreithiol) sy'n dangos colled, efallai wneith o ddewis hynny er mwyn adeiladu'r cwmni yn gyflymach.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Cath Ddu » Mer 25 Ion 2006 12:21 pm

Blewyn a ddywedodd:Mae fy nghyfraniad cyntaf i'r edefyn hwn yn datgan fod y Galeri yn gofyn am gymorth ariannol gan Gyngor Gwynedd


Ond nid cymorth cyllid (revenue) yn benodol ?[/quote]

O ydi mae o. Does ond angen i ti ddarllen y cyd-destun a gweddill yr edefyn. Mae'n weddol amlwg nad wyt wedi gwneud hyn.

Blewyn a ddywedodd:Mae hyn fel gofyn os ydy cicio pel yn dacteg rygbi.....t'ydw i ddim yn deall be ti ddim yn deall am hyn. Os fedr y cyfrifon ddangos fod y cwmni yn lwyddiant, mae hynny'n adlewyrchu'n dda ar y rheolwr - ond os fedr y rheolwr gael mwy o arian trwy gyfrifo mewn ffordd (cyfreithiol) sy'n dangos colled, efallai wneith o ddewis hynny er mwyn adeiladu'r cwmni yn gyflymach.


Credaf fod awgrymu fod y Galeri yn gwneud datganiadau bwriadol gamarweiniol am gyllid yn dangos gwendid dy ddadl. Nid wyf yn credu am eiliad fod y Galeri yn gwneud hyn ac mae cyd-destun y drafodaeth yn dangos nad dyna'r mater dan sylw yma. Ai trafod y pwnc ydi dy fwriad ta perfformio campau geiriol er mwyn cyfiawnhau dy ddadleuon? :rolio:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Mer 25 Ion 2006 12:23 pm

Blewyn a ddywedodd:Dibynnu ar natur y colledion, na ?


Na.

Blewyn a ddywedodd:Yn sicr mi fysa gofyn am gyngor y Cyngor yn un o'm cynghorion.......


Cyngor efallai ond arian oedd dy bwynt gwreiddiol. Newid meddwl fan hyn Blewyn?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Mer 25 Ion 2006 10:18 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Mae yna sibrydion fod colledion y Galeri yn sylweddol fwy na'r swm sydd wedi ei drafod hyd yma. Fyddai Galericaernarfon yn fodlon ymateb?

Os yw colledion y Galeri yn sylwedol, sut mae'r diffyg hwn yn cael ei gyllido? A oes elw rhent adeiladau masnachol Cwmni Tref Caernarfon yn cael ei ddefnydio i bontio'r gagendor? Os oes, lle mae hyn yn gadael cyfrifoldeb CTC yng nghyd-destun datblygu a gwella eiddo o fewn y dref os yw'r elw o adeiladau gyllidwyd gydag arian cyhoeddus yn cael eu ddefnyddio i bontio gagendor incwm o fewn y Galeri?



Ymddengys fod un o ymddiredolwyr Cwmni Tref Caernarfon (sef perchnogion y Galeri) yn poeni'n arw am sefyllfa y Cwmni Tref oherwydd yr hyn a nodir uchod.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dave Thomas » Iau 26 Ion 2006 12:16 am

Hoffwn wneud sylwad cyffredinol os ca'i, a nid cyfeirio at y Galeri'n benodol.

Onid yw'n bwysig fod pethau fel hyn yn llwyddo ran hygoeledd y Cymry fel pobl sy'n gallu rhedeg eu pethau eu hunain?

Ddweda i fod o'n llai o embaras i fethiant gael ei ddangos mewn proses cynllunio, cyn mynd ymlaen hefo'r prosiect a wedyn ffeindio fod diffygion ac fod angen handowt...
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan steve y gwalch » Iau 26 Ion 2006 12:31 am

Ymddengys fod un o ymddiredolwyr Cwmni Tref Caernarfon (sef perchnogion y Galeri) yn poeni'n arw am sefyllfa y Cwmni Tref oherwydd yr hyn a nodir uchod.


wyt ti fel tori yn ceisio cychwyn ffrae fewnol o fewn cwmni caernarfon? Pwy ydy'r ymddiredolwyr? Ta dim ond herian ymateb wyti?

Os ydy'r sefyllfa mor ddrwg ac wyt ti yn ei wneud allan - sut mae'r lle dal yn agored? Os yw'r trafferthion mor ddrwg a hynny - pam aros yn agored? ac a oes unrhyw un / unrhywrai wedi colli' swyddi? Tydwi heb glywed am ddim!!

Fe ath fy ngefneithr yno ddoe neu'r diwrnod cynt - roedd yr adeilad yn fwrlwm o bobl yn ei hol hi - felly sut byddant mewn sefyllfa ariannol mor ddrwg?[/quote]
steve y gwalch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Mer 18 Ion 2006 7:47 pm
Lleoliad: Rhywle yng Ngwynedd fel arfar

Postiogan Cath Ddu » Iau 26 Ion 2006 9:30 am

steve y gwalch a ddywedodd:Fe ath fy ngefneithr yno ddoe neu'r diwrnod cynt - roedd yr adeilad yn fwrlwm o bobl yn ei hol hi - felly sut byddant mewn sefyllfa ariannol mor ddrwg?


Cwestiwn da. Byddwn yn falch o eglurhad.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Blewyn » Iau 26 Ion 2006 9:35 am

Cath Ddu a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:Mae fy nghyfraniad cyntaf i'r edefyn hwn yn datgan fod y Galeri yn gofyn am gymorth ariannol gan Gyngor Gwynedd


Ond nid cymorth cyllid (revenue) yn benodol ?


O ydi mae o. Does ond angen i ti ddarllen y cyd-destun a gweddill yr edefyn. Mae'n weddol amlwg nad wyt wedi gwneud hyn.

Dwi wedi ailddarllen bobdim, a fedrai ddim ffendio unrhyw ddatganiad sy'n dweud mai gofyn am gymorth cyllidol maent yn benodol. Mi fysa fo'n ddiddorol cael clywed eglurhad y rheolwr ar y mater - a chael trafod y cynllun busnes.
Blewyn a ddywedodd:Mae hyn fel gofyn os ydy cicio pel yn dacteg rygbi.....t'ydw i ddim yn deall be ti ddim yn deall am hyn. Os fedr y cyfrifon ddangos fod y cwmni yn lwyddiant, mae hynny'n adlewyrchu'n dda ar y rheolwr - ond os fedr y rheolwr gael mwy o arian trwy gyfrifo mewn ffordd (cyfreithiol) sy'n dangos colled, efallai wneith o ddewis hynny er mwyn adeiladu'r cwmni yn gyflymach.


Credaf fod awgrymu fod y Galeri yn gwneud datganiadau bwriadol gamarweiniol am gyllid yn dangos gwendid dy ddadl. Nid wyf yn credu am eiliad fod y Galeri yn gwneud hyn


Chdi ddudodd eu bod nhw'n palu clwydda am arian oddiwrth y Cyngor Sir.......r'un peth di ci a'i gynffon ia.

Os ydy nhw ddigon dodgy i ddweud hanner-gwir am be gafon' nhw oddiwrth y Cyngor Sir, mae nhw'n ddigon dodgy i lwmpio costau tymor-hir i fewn i'r flwyddyn gyntaf er mwyn trio cael mwy o bres allan o'r Cyngor. A deud y gwir t'ydy hyn ddim yn dodgy o gwbl, ond tacteg busnes cyffredin.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron